{"id":7779,"date":"2021-03-01T12:45:27","date_gmt":"2021-03-01T12:45:27","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7779"},"modified":"2021-02-27T09:52:04","modified_gmt":"2021-02-27T09:52:04","slug":"ryan-harris","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ryan-harris\/","title":{"rendered":"Gyrfa addawol ym myd peirianneg i un o brentisiaid Renishaw"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ryan-harris\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ryan-harris\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_7774\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Ryan-Harris-61-land-scaled-e1614417774967.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7774\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Ryan-Harris-61-land-scaled-e1614417774967.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-7774\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7774\" class=\"wp-caption-text\">Ryan Harris, yn barod am yrfa lwyddiannus mewn peirianneg.<\/p><\/div>\n<p>Mae Ryan Harris, sydd wrth ei fodd yn helpu ei gyflogwr i fod yn fwy effeithlon ac yn ysbrydoli peirianwyr y dyfodol, yn brentis sydd wedi creu argraff ar bawb.<\/p>\n<p>Mae Ryan, 21, o\u2019r Ddraenen Wen, Pontypridd, yn brentis technegydd datblygu prosesau gyda chwmni peirianneg byd-eang Renishaw ar eu safle ym Meisgyn, ger Pontyclun.<\/p>\n<p>Yn ystod ei brentisiaeth, mae Ryan wedi arbed miloedd o bunnau i\u2019r cwmni gyda chyfres o brosiectau. Mae hyn yn cynnwys addasu peiriannau i arbed ynni a gwella prosesau archebu a storio nwyddau.<\/p>\n<p>Oherwydd ei lwyddiant, mae Ryan wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Doniau\u2019r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae Ryan yn mentora prentisiaid newydd ac mae\u2019n gweithredu fel llysgennad gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) er mwyn hyrwyddo peirianneg mewn ysgolion. Mae hynny wedi rhoi hwb i\u2019w hunanhyder a\u2019i sgiliau cyflwyno.<\/p>\n<p>Roedd yn un o bedwar myfyriwr peirianneg fecanyddol o Goleg y Cymoedd a fu ar ymweliad pythefnos \u00e2 Stadler yn yr Almaen fel rhan o raglen Erasmus a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd gan roi cyfleoedd i bobl ifanc astudio neu gael profiad gwaith yn un o wledydd eraill Ewrop.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l ennill cyfres o gymwysterau peirianyddol trwy\u2019r coleg a gyda Renishaw, yn cynnwys Prentisiaeth mewn Gosod a Chomisiynu, mae Ryan yn gweithio tuag at HNC Mecanyddol Pearson a drefnir gan Goleg Pen-y-bont. <\/p>\n<p>Ei uchelgais yw ennill Gradd mewn Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol  (BEng) er mwyn dod yn beiriannydd datblygu prosesau.<\/p>\n<p>Dywed Ryan iddo gael ei ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn peirianneg gan un o athrawon yr ysgol a gan ymweliad \u00e2 Renishaw lle gwelodd \u201clinellau cynhyrchu dyfodolaidd a mannau gweithio rhyfeddol o l\u00e2n\u201d.<\/p>\n<p>\u201cMae Renishaw yn rhoi llawer o amser ac adnoddau i\u2019w Rhaglenni Prentisiaethau, gyda chyfleoedd gwych i beirianwyr, ac rwy\u2019n falch o gael bod yn rhan o hynny,\u201d meddai. \u201cRwy wedi cael fy nghanmol yn aml yn ystod fy mhrentisiaeth ac mae hynny\u2019n hwb i fy hyder ac wedi fy ysbrydoli i ddal ati i wneud yn well eto yn y gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Simon Biggs, swyddog addysg allanol a rheolwr prentisiaid Renishaw ym Meisgyn, bod Ryan yn brentis sydd wedi creu argraff a\u2019i fod wedi dod i sylw\u2019r cwmni fel un sy\u2019n barod i weithio ar brosiectau heriol a\u2019u cwblhau, gan wella effeithlonrwydd ac arbed arian.<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.  <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Ryan Harris, sydd wrth ei fodd yn helpu ei gyflogwr i fod yn fwy effeithlon ac yn ysbrydoli peirianwyr y dyfodol, yn brentis sydd wedi creu argraff ar bawb. Mae Ryan, 21, o\u2019r Ddraenen Wen, Pontypridd, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ryan-harris\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7779","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7779","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7779"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7779\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7779"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7779"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7779"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}