{"id":7785,"date":"2021-03-11T10:00:11","date_gmt":"2021-03-11T10:00:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7785"},"modified":"2021-03-15T14:32:29","modified_gmt":"2021-03-15T14:32:29","slug":"prentisiaethau-cynhwysol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethau-cynhwysol\/","title":{"rendered":"Cynllun pum mlynedd yn canolbwyntio ar brentisiaethau cynhwysol i Gymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/inclusive-apprenticeships\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethau-cynhwysol\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13226\" style=\"width: 240px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/40-Humie-Webbe-scaled-e1614431235995.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13226\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/40-Humie-Webbe-scaled-e1614431235995.jpg\" alt=\"\" width=\"230\" height=\"313\" class=\"size-full wp-image-13226\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13226\" class=\"wp-caption-text\">Humie Webbe, NTfW Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth<\/p><\/div>\n<p>Mae darparwyr prentisiaethau ledled Cymru wedi llunio cynllun pum mlynedd sy\u2019n canolbwyntio ar ddarparu Rhaglen Brentisiaethau gynhwysol a fydd yn cynnig cyfle cyfartal i grwpiau o bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Nod y Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Prentisiaethau yw creu amgylchedd dysgu a fydd yn rhoi cyfle i bawb, beth bynnag yw eu cefndir, wireddu eu potensial, trwy eu doniau a gwaith caled.<\/p>\n<p>Erbyn mis Gorffennaf 2026, nod y strategaeth yw sicrhau bod mwy o brentisiaid duon ac Asiaidd a rhai o leiafrifoedd ethnig, mwy o brentisiaid anabl, mwy o ferched yn brentisiaid yn y byd adeiladu a mwy o ddynion yn gwneud prentisiaethau mewn gofal iechyd ac yn y sector cyhoeddus.<\/p>\n<p>Bydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cadw llygad barcud ar y cynnydd a wneir er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y targedau. <\/p>\n<p>Gwahoddwyd y rhwydwaith darparu prentisiaethau yn ei gyfanrwydd i gyfrannu at y strategaeth, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a\u2019i hysgrifennu gan Humie Webbe,  Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ar gyfer NTfW.<\/p>\n<p>\u201cDatblygwyd y strategaeth gan y darparwyr prentisiaethau sydd dan gontract i Lywodraeth Cymru a\u2019i nod yw sicrhau Rhaglen Brentisiaethau gynhwysol lle caiff grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gyfle cyfartal i elwa,\u201d meddai Humie.<\/p>\n<p>\u201cEin gweledigaeth yw creu amgylchedd dysgu sy\u2019n rhoi cyfle i bawb, beth bynnag yw eu cefndir, i wireddu eu potensial, trwy eu doniau a gwaith caled. Rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl yn sylweddoli bod prentisiaethau\u2019n agored i bawb a bod y rhwystrau sy\u2019n atal pobl rhag cymryd rhan ynddynt yn cael eu chwalu. <\/p>\n<p>\u201cMae modd gwireddu hynny wrth i Lywodraeth Cymru, cyflogwyr a darparwyr prentisiaethau gydweithio i wneud prentisiaethau\u2019n hygyrch, yn deg ac yn gynhwysol.\u201d<\/p>\n<p>Mae disgwyl i brentisiaethau chwarae rhan bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru  i adfer yr economi ar \u00f4l Covid-19. Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi pobl i gychwyn mewn dros 100,000 o brentisiaethau \u2013 merched oedd 60% o\u2019r prentisiaid ac roedd 57% o\u2019r prentisiaid yn 25 oed neu\u2019n h\u0177n.<\/p>\n<p>Y gobaith yw y bydd hyd yn oed ragor o bobl ifanc yn dewis prentisiaeth yn y dyfodol pan fydd Cwricwlwm i Gymru 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion hyrwyddo prentisiaethau a chynnig rhagor o weithgareddau sy\u2019n canolbwyntio ar yrfa fel rhan o raglen ddysgu hyblyg.<\/p>\n<p>Dymuniad NTfW yw i bawb edrych ar brentisiaethau fel dewis gwerthfawr i anelu ato ac nid fel dewis eilradd sy\u2019n tanlinellu stereoteipiau.<\/p>\n<p>Nod y strategaeth EDI yw sicrhau mwy o gydbwysedd rhwng merched a dynion ym mhob rhan o\u2019r rhaglen brentisiaethau a sicrhau bod y rhwystrau sy\u2019n atal dysgwyr anabl a rhai o gymunedau lleiafrifoedd ethnig gefndiroedd rhag mynd yn brentisiaid yn cael eu cydnabod a\u2019u chwalu.<\/p>\n<p>Bydd darparwyr prentisiaethau\u2019n datblygu arferion i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn hybu ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol er mwyn helpu dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol yn ymwneud \u00e2\u2019u diwylliant, eu hamgylchiadau cymdeithasol, eu hanabledd neu gyflwr eu hiechyd.<\/p>\n<p>Byddant hefyd yn codi ymwybyddiaeth o brentisiaethau mewn Canolfannau Anghenion Dysgu Ychwanegol ac yn cynyddu eu sgiliau er mwyn cefnogi dysgwyr sy\u2019n ei chael yn anodd dysgu trwy ddulliau ar-lein yn unig. <\/p>\n<p>Dywed y strategaeth bod angen herio agweddau ac ymddygiad mewn gweithleoedd er mwyn hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a\u2019u hannog i recriwtio prentisiaid mwy amrywiol. Un o\u2019r prif nodau yw gwneud cyflogwyr yn fwy ymwybodol o\u2019r ffaith na ddylai anableddau, rhyw nac ethnigrwydd fod yn rhwystr yn y gweithle.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:<\/strong> \u201cMae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyrraedd ei nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. Mae hyn wedi sicrhau cyfleoedd pwysig i brentisiaid o bob oed ennill cyflog wrth ddysgu sgiliau a galluoedd newydd.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cBydd y strategaeth hon yn hollbwysig er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a helpu i gynyddu cynhwysiant eto er mwyn cefnogi pobl mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru a chywiro\u2019r diffyg cydbwysedd rhwng merched a dynion.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cRwy\u2019n falch iawn o weld y datblygiad hwn a allai fod o fudd i unigolion a chwmn\u00efau ar hyd a lled Cymru.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae darparwyr prentisiaethau ledled Cymru wedi llunio cynllun pum mlynedd sy\u2019n canolbwyntio ar ddarparu Rhaglen Brentisiaethau gynhwysol a fydd yn cynnig cyfle cyfartal i grwpiau o bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd. Nod y &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethau-cynhwysol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7785","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7785","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7785"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7785\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7785"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7785"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7785"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}