{"id":7789,"date":"2021-03-11T10:00:14","date_gmt":"2021-03-11T10:00:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7789"},"modified":"2021-03-08T11:36:41","modified_gmt":"2021-03-08T11:36:41","slug":"cyfleoedd-de-ddwyrain-cymru-ccrp","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyfleoedd-de-ddwyrain-cymru-ccrp\/","title":{"rendered":"Cyfle i Newid \u2013 Ffair Yrfaoedd Rithwir De-ddwyrain Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/opportunity-for-change-ccrp\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyfleoedd-de-ddwyrain-cymru-ccrp\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Teams-backdrop-CCR-sml-e1614630443492.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Teams-backdrop-CCR-sml-e1614630443492.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"259\" class=\"alignleft size-full wp-image-13279\" \/><\/a><\/p>\n<p>Er bod y cyfyngiadau\u2019n dechrau cael eu codi yng Nghymru erbyn hyn, mae ffeiriau swyddi traddodiadol wyneb-yn-wyneb yn dal i gael eu gohirio neu eu canslo. Yn awr, fwy nag erioed, mae cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn dibynnu ar ddulliau ar-lein i ymwneud \u00e2 dysgwyr a phobl sy\u2019n chwilio am swyddi er mwyn llenwi swyddi gwag.<\/p>\n<p>Er mwyn helpu i gysylltu\u2019r grwpiau hyn, mae asiantaethau ledled de-ddwyrain Cymru wedi bod yn cydweithio i drefnu ffair yrfaoedd arall ar lein, i\u2019w chynnal <strong>ddydd Mercher 24 Mawrth<\/strong>.  Nod y digwyddiad yw helpu i sicrhau bod pobl sy\u2019n byw yn ardaloedd Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, a Phen-y-bont ar Ogwr yn cael gwybod am gyfleoedd am waith a hyfforddiant.<\/p>\n<p>Trefnir y digwyddiad ar-lein di-d\u00e2l gan Cymru\u2019n Gweithio, a gyflwynir gan Gyrfa Cymru, mewn partneriaeth \u00e2 thimau Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd a Canolfan Byd Gwaith yn y de-ddwyrain. Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), darparwyr dysgu seiliedig ar waith, awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion yn rhan o\u2019r digwyddiad hefyd.<\/p>\n<p>Yn y ffair yrfaoedd, bydd cyfle i ddysgu am lu o wahanol fathau o swyddi gwag mewn amryw o ddiwydiannau ledled y de-ddwyrain, yn cynnwys iechyd, gofal, adeiladu a\u2019r sector greadigol. Yn ogystal, bydd gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddeiaethau a chynigir cyngor arbenigol ar yrfaoedd i helpu pobl i chwilio am waith.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l llwyddiant y digwyddiad cyntaf, gobeithio y bydd yr ail yn help i bobl o\u2019r ardal ddod i gysylltiad \u00e2 chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac asiantaethau ym maes cyflogaeth. Isod, mae dolen i ffurflen y gall cyfranwyr ei llenwi er mwyn cymryd rhan a rhoi sylw i ryw gyfle sydd ganddynt.<\/p>\n<p>De-ddwyrain &#8211; <strong><a href=\"https:\/\/www.smartsurvey.co.uk\/s\/opportunitySE\/\">smartsurvey.co.uk\/s\/opportunitySE<\/a><\/strong><\/p>\n<p>Sylwch, bydd angen i gyfranwyr lenwi\u2019r ffurflen erbyn <strong>12:00 dydd Gwener 12 Mawrth<\/strong> er mwyn sicrhau bod y cyfle sydd ganddynt yn cael ei hyrwyddo\u2019n iawn yn y digwyddiad. <strong><a href=\"https:\/\/www.eventbocs.wales\/opportunitysoutheastwales\/?culture=cy\">Ymunwch \u00e2\u2019r digwyddiad ar-lein yma<\/a><\/strong>.<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am Cymru\u2019n Gweithio, ewch i: <a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\">cymrungweithio.llyw.cymru<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844. <\/p>\n<p>Os oes gennych gwestiwn am y datganiad hwn, cysylltwch \u00e2 Caryn Grimes, Cydlynydd y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol, Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd: <a href=\"mailto:Caryn.grimes@newport.gov.uk\">Caryn.grimes@newport.gov.uk<\/a> neu ff\u00f4n 07854 034535.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiffcapitalregion.wales\/cy\/\">cardiffcapitalregion.wales\/cy\/<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Er bod y cyfyngiadau\u2019n dechrau cael eu codi yng Nghymru erbyn hyn, mae ffeiriau swyddi traddodiadol wyneb-yn-wyneb yn dal i gael eu gohirio neu eu canslo. Yn awr, fwy nag erioed, mae cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyfleoedd-de-ddwyrain-cymru-ccrp\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7789","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7789","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7789"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7789\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7789"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7789"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7789"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}