{"id":7806,"date":"2021-03-11T10:00:20","date_gmt":"2021-03-11T10:00:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7806"},"modified":"2021-03-06T14:29:17","modified_gmt":"2021-03-06T14:29:17","slug":"prentisiaid-gwasanaeth-sifil","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaid-gwasanaeth-sifil\/","title":{"rendered":"Partneriaeth newydd am geisio sicrhau mwy o brentisiaid i\u2019r Gwasanaeth Sifil yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/civil-service-apprentices-ntfw\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaid-gwasanaeth-sifil\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Apprenticeships-Genius-Decision-Title-scaled-e1614435066350.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Apprenticeships-Genius-Decision-Title-scaled-e1614435066350.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"258\" class=\"alignleft size-full wp-image-7807\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae partneriaeth newydd yn cael ei datblygu er mwyn cyflwyno Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru i ragor o gyflogwyr y Gwasanaeth Sifil sy\u2019n gweithio i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru.<\/p>\n<p>Daeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a Swyddfa Cabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig at ei gilydd i sicrhau bod prentisiaethau ar gael i bobl sydd eisoes yn gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac eraill.<\/p>\n<p>Mae\u2019r NTfW yn cynrychioli dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith \u00e2 sicrwydd ansawdd sy\u2019n cyflenwi prentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Gan gydweithio\u2019n agos \u00e2 busnesau a rhanddeiliaid ledled Cymru, T\u00eem Prentisiaethau NTfW sy\u2019n trin yr holl ymholiadau am brentisiaethau sy\u2019n dod oddi wrth gyflogwyr trwy Borth Sgiliau Busnes Cymru a drefnir gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Llywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop sy\u2019n ariannu\u2019r t\u00eem a Rhaglen Brentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Diolch i bartneriaeth bresennol y t\u00eem gyda\u2019r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae\u2019r gwaith o greu Fframwaith Prentisiaeth ar gyfer Swyddog Cadw yn y Ddalfa, Lefel 3, yng Nghymru, eisoes ar y gweill.<\/p>\n<p>O ganlyniad i\u2019r bartneriaeth lwyddiannus hon, cynhaliwyd cynhadledd ar-lein gyda Swyddfa\u2019r Cabinet yr wythnos ddiwethaf yng nghwmni gweision sifil sydd mewn swyddi uchel mewn nifer o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.<\/p>\n<p>Cafwyd cyflwyniadau gan Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW, a Catherine Morris-Roberts, rheolwr datblygu rhaglenni prentisiaethau NTfW, am flaenoriaethau sgiliau ac uchelgeisiau strategol Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru a\u2019r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr.<\/p>\n<p>Nod y gynhadledd oedd sicrhau mwy o gyfleoedd am brentisiaethau yn y Gwasanaeth Sifil trwy gynyddu cydweithio, rhannu arferion gorau a datblygu dull strategol o weithio er budd economi\u2019r Deyrnas Unedig. <\/p>\n<p>Ers hynny, mae NTfW wedi siarad \u00e2 thair adran yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd \u00e2 diddordeb mewn recriwtio prentisiaid neu drefnu i staff presennol ddatblygu i lefel prentisiaeth radd.<\/p>\n<p>Gan fod llawer o adrannau Llywodraeth y DU yn talu\u2019r Ardoll Brentisiaethau, maent yn awyddus i fanteisio i\u2019r eithaf ar y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru. Mae T\u00eem Prentisiaethau NTfW yn arwain y Gwasanaeth Sifil trwy\u2019r broses o drefnu prentisiaethau yng Nghymru, sy\u2019n wahanol iawn i\u2019r broses yn Lloegr.<\/p>\n<p>\u201cCynhaliwyd y gynhadledd o ganlyniad i\u2019r berthynas weithiol dda sydd wedu datblygu rhwng NTfW a\u2019r Weinyddiaeth Gyfiawnder ers ychydig flynyddoedd,\u201d esboniodd Catherine.<\/p>\n<p>\u201cSoniodd ein cysylltydd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth ei gydweithwyr yn Swyddfa\u2019r Cabinet am y gwasanaeth a\u2019r gefnogaeth y mae\u2019r T\u00eem Prentisiaethau\u2019n ei gynnig i gyflogwyr yng Nghymru. Roedd yn gweld gwerth s\u00f4n wrth adrannau eraill yn Llywodraeth y DU sut mae\u2019r Rhaglen Brentisiaethau yn gweithio yng Nghymru hefyd.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n bosibl y cynhelir rhagor o gyfarfodydd chwarterol i dderbyn adroddiadau cynnydd a newyddion am y Rhaglen Brentisiaethau. Mae llawer mwy o waith i\u2019w wneud ond bwriadwn barhau \u00e2\u2019n partneriaeth \u00e2 Swyddfa\u2019r Cabinet a chysylltu ag adrannau eraill o\u2019r Gwasanaeth Sifil yma yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cRydym wedi dweud pa mor bwysig ydyw i\u2019r Gwasanaeth Sifil s\u00f4n wrth Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol Cymru am y sgiliau penodol y mae arnynt eu hangen.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae partneriaeth newydd yn cael ei datblygu er mwyn cyflwyno Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru i ragor o gyflogwyr y Gwasanaeth Sifil sy\u2019n gweithio i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru. Daeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaid-gwasanaeth-sifil\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7806","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7806","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7806"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7806\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7806"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7806"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7806"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}