{"id":7810,"date":"2021-03-11T10:00:20","date_gmt":"2021-03-11T10:00:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7810"},"modified":"2021-03-06T14:28:57","modified_gmt":"2021-03-06T14:28:57","slug":"allgau-digidol-iechyd-meddwl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/allgau-digidol-iechyd-meddwl\/","title":{"rendered":"Cyllid i staff Prentisiaethau, Hyfforddeiaethau a DSW i helpu ag Allg\u00e1u Digidol ac Iechyd Meddwl"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/digital-exclusion-mental-health\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/allgau-digidol-iechyd-meddwl\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/d_143-07-technology-edited-e1614630667211.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/d_143-07-technology-edited-e1614630667211.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"231\" class=\"alignleft size-full wp-image-13281\" \/><\/a><\/p>\n<p>Pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf a\u2019r angen i gadw pellter cymdeithasol ym Mhrydain ym mis Mawrth 2020, llwyddodd darparwyr dysgu seiliedig ar waith i gyflwyno dulliau dysgu o bell. Bu\u2019n rhaid parhau \u00e2\u2019r drefn honno wrthi ni wynebu cyfnodau clo eraill. Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod llawer o ddysgwyr heb y dyfeisiau, y feddalwedd na\u2019r gallu i gysylltu \u00e2\u2019r rhyngrwyd er mwyn parhau i ddysgu o bell. <\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi cyllid o \u00a31.6 miliwn i gefnogi rhai sy\u2019n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith ar hyfforddeiaethau a phrentisiaethau ledled Cymru, gan helpu darparwyr i sicrhau bod eu dysgwyr yn gallu cymryd rhan mewn dulliau dysgu digidol a dysgu o bell. Bu\u2019r arian yn help i ddarparwyr fynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o\u2019r rhwystrau cyffredin oedd yn golygu bod dysgwyr wedi\u2019u hallg\u00e1u\u2019n ddigidol neu fod ganddynt ofynion ychwanegol er mwyn cymryd rhan yn y dysgu. <\/p>\n<p>Bydd y cymorth hwn yn ei gwneud yn haws i\u2019r dysgwyr hyn gymryd rhan a symud ymlaen. Roedd llawer ohonynt o dan anfantais am nad oedd ganddynt offer digidol a meddalwedd addas, neu ddim ond cyfle cyfyngedig i\u2019w defnyddio, ac nad oedd ganddynt gysylltiad dibynadwy \u00e2\u2019r rhyngrwyd, os o gwbl. <\/p>\n<p>Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros \u00a3500k o gyllid ychwanegol i\u2019r sector dysgu seiliedig ar waith i hybu iechyd meddwl a lles dysgwyr a staff. Mae hyn yn cydnabod effaith Covid-19 a\u2019r pandemig ar iechyd meddwl a lles dysgwyr ac ymarferwyr. Mae\u2019n help mawr fel y gall darparwyr ddal ati i gynnig rhai o\u2019r dulliau arloesol y maent wedi\u2019u cyflwyno er mwyn sicrhau bod iechyd meddwl a lles dysgwyr a gweithwyr dysgu seiliedig ar waith yn dal i gael blaenoriaeth yn ystod y pandemig. <\/p>\n<p>Defnyddiwyd yr arian tuag at sesiynau cwnsela ar gyfer staff a dysgwyr, gweithgareddau DPP ar gyfer ymarferwyr, ymwybyddiaeth ofalgar a chostau staffio. Mewn rhai achosion, mae wedi golygu bod darparwyr wedi gallu ehangu\u2019r hyn a gynigir ganddynt i gynnwys gweithgareddau\u2019n ymwneud \u00e2 iechyd meddwl dysgwyr. <\/p>\n<p>Tasg yr NTfW fu cydlynu\u2019r cynlluniau, cynnig arweiniad i\u2019r darparwyr ar y broses ymgeisio a chaffael a chydweithio\u2019n uniongyrchol \u00e2 Llywodraeth Cymru ar ran y rhwydwaith darparwyr er mwyn sicrhau bod y broses o sicrhau\u2019r cyllid yn gweithio\u2019n esmwyth. Yn ogystal, bydd yr NTfW yn cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru\u2019n gwerthuso\u2019r defnydd a wnaed o\u2019r arian a\u2019r effaith a gafodd. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf a\u2019r angen i gadw pellter cymdeithasol ym Mhrydain ym mis Mawrth 2020, llwyddodd darparwyr dysgu seiliedig ar waith i gyflwyno dulliau dysgu o bell. Bu\u2019n rhaid parhau \u00e2\u2019r drefn honno wrthi &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/allgau-digidol-iechyd-meddwl\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7810","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7810","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7810"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7810\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7810"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7810"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7810"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}