{"id":7812,"date":"2021-03-11T10:00:54","date_gmt":"2021-03-11T10:00:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7812"},"modified":"2021-03-06T14:28:11","modified_gmt":"2021-03-06T14:28:11","slug":"digwyddiad-ar-lein-gogledd-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/digwyddiad-ar-lein-gogledd-cymru\/","title":{"rendered":"Digwyddiad ar-lein i helpu pobl i chwilio am swyddi yn y gogledd"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/online-employer-event-north-wales\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/digwyddiad-ar-lein-gogledd-cymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Opportunity-North-Wales-image-for-e-mail-body-no-link-e1614937219577.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Opportunity-North-Wales-image-for-e-mail-body-no-link-e1614937219577.png\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"308\" class=\"alignleft size-full wp-image-13293\" \/><\/a><\/p>\n<p>Cynhaliwyd rhith-digwyddiad di-d\u00e2l ar 21 Ionawr i helpu pobl i ddod o hyd i gyfleoedd am waith yn y gogledd.<\/p>\n<p>Trefnwyd Cyfleoedd Gogledd Cymru mewn partneriaeth rhwng Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru, Cymru\u2019n Gweithio\/Gyrfa Cymru a\u2019r Adran Gwaith a Phensiynau.<\/p>\n<p>Yn ystod y digwyddiad, roedd modd i bobl bori trwy bob math o gyfleoedd gwych o ran gwaith a hyfforddiant ledled y gogledd. Os oeddech yn chwilio am waith, roedd cyfle i ddysgu mwy am y swyddi oedd ar gael trwy wylio fidoes ar gais gan y cyflogwyr, yn s\u00f4n am y swyddi a\u2019r ymgeiswyr roeddent yn chwilio amdanynt. <\/p>\n<p>Roedd dros 40 o gyflogwyr yr ardal, yn cynnwys awdurdodau lleol, yr Awyrlu, a Hybiau Menter MSparc a Wrecsam yn bresennol i ateb cwestiynau trwy\u2019r teclyn sgwrsio byw. <\/p>\n<p>Rhannwyd gwybodaeth am gyfleoedd eraill hefyd, fel prentisiaethau, cynlluniau hyfforddi a chynlluniau cyflogadwyedd yn y gogledd a sut y gallai\u2019r rhain helpu\u2019r rhai oedd yn bresennol.<\/p>\n<p>Dywedodd Sian Lloyd-Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol, Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru: \u201cRydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cynnig digwyddiad fel hyn ar lein er mwyn helpu pobl sy\u2019n chwilio am waith yn ystod y pandemig. Bu 5,268 o bobl yn gwylio\u2019r digwyddiad yn fyw a gwnaed 6,723 o geisiadau i wylio\u2019r fideos. Postiwyd dros 400 o negeseuon trwy\u2019r teclyn sgwrsio byw yn ystod y sesiwn ddwyawr.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi pobl sy\u2019n chwilio am waith neu hyfforddiant. Mae llawer o bobl wedi colli eu swyddi dros y misoedd diwethaf neu mewn perygl o golli eu swyddi ac mae\u2019n gyfnod llawn straen iddyn nhw. <\/p>\n<p>\u201cSerch hynny, mae yna gyfleoedd a chyfoeth o gyngor ar gael a, thrwy weithio gyda\u2019n gilydd a gyda busnesau, gallwn sicrhau bod pobl yn dod i wybod am swyddi lle mae angen eu sgiliau nhw neu\u2019n gallu cael eu hyfforddi i ddysgu\u2019r sgiliau hynny.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Cafwyd ymateb da gan bobl a fu yn y digwyddiad:<\/strong><br \/>\n\u201cDiolch am gynnal y digwyddiad yma. Digon i feddwl amdano.\u201d<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cHon oedd y ffair swyddi ar-lein orau i mi fod ynddi. Diolch.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><a href=\"northwaleseab.co.uk\/cy\/\">https:\/\/northwaleseab.co.uk\/cy<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cynhaliwyd rhith-digwyddiad di-d\u00e2l ar 21 Ionawr i helpu pobl i ddod o hyd i gyfleoedd am waith yn y gogledd. Trefnwyd Cyfleoedd Gogledd Cymru mewn partneriaeth rhwng Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru, Cymru\u2019n Gweithio\/Gyrfa Cymru a\u2019r Adran &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/digwyddiad-ar-lein-gogledd-cymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7812","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7812","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7812"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7812\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7812"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7812"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7812"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}