{"id":7817,"date":"2021-03-02T11:15:13","date_gmt":"2021-03-02T11:15:13","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7817"},"modified":"2021-03-01T18:28:05","modified_gmt":"2021-03-01T18:28:05","slug":"compact-orbital-gears","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/compact-orbital-gears\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau\u2019n llenwi bylchau sgiliau yng ngweithlu cwmni g\u00ears"},"content":{"rendered":"<p> <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/compact-orbital-gears\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/compact-orbital-gears\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13266\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Production-manager-Rob-Price-with-apps-scaled-e1614622676709.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13266\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Production-manager-Rob-Price-with-apps-scaled-e1614622676709.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"357\" class=\"size-full wp-image-13266\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13266\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr cynhyrchu Compact Orbital Gears, Rob Price gyda\u2019r prentisiaid Ruben Clements, Rowan Morgan, Ollie Leadbetter a Luke Jones, sydd wedi cwblhau ei brentisiaeth.<\/p><\/div>\n<p>Bu datblygu gweithlu hyblyg \u00e2 sgiliau amrywiol yn help i sicrhau bod Compact Orbital Gears yn enw blaenllaw yn y diwydiant g\u00ears arbenigol ers dros hanner canrif.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni, sy\u2019n cyflogi 43 yn Rhaeadr Gwy, yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn datblygu g\u00ears pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y byd awyrofod, moduron ac ynni gl\u00e2n. <\/p>\n<p>Y gallu hwn i gynnig cynnyrch wedi\u2019i gynllunio\u2019n arbennig yw\u2019r allwedd i lwyddiant y cwmni. Sefydlwyd Compact Orbital Gears yn yr 1960au ac mae\u2019n ymfalch\u00efo yn ei weithlu medrus, ei ysbryd  teuluol a\u2019i hanes maith o gyflogi prentisiaid o\u2019r Canolbarth.<\/p>\n<p>Yn awr, mae\u2019r cwmni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae gan Compact Orbital Gears dri phrentis a phump o weithwyr ifanc eraill yn gweithio tuag at gymwysterau Addysg Bellach ar hyn o bryd. Myrick Training a Gr\u0175p Colegau NPTC, Campws y Drenewydd sy\u2019n darparu\u2019r cymwysterau yn cynnwys Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (Lefel 2), Diploma Estynedig mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg Fecanyddol Lefel 3, HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol a BTEC mewn Busnes a Gweinyddu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r penderfyniad i ganolbwyntio ar  ddatblygu ei gronfa ei hunan o beirianwyr medrus yn talu\u2019r ffordd i Compact Orbital Gears mewn cyfnod o brinder ledled Prydain. Mae\u2019r Rhaglen Brentisiaethau\u2019n cynnig hyfforddiant technegol, gyda chyfarwyddyd arbenigol gan weithwyr profiadol yn y cwmni sy\u2019n rhannu eu sgiliau a\u2019u gwybodaeth gyda\u2019r prentisiaid.<\/p>\n<p>Gan fod Compact Orbital Gears yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu, mae\u2019r staff yn tueddu i aros yn hir a nod hirdymor y cwmni yw cyflwyno peiriannau cyfrifiadurol, modern, a fydd yn ddelfrydol ar gyfer helpu prentisiaid i ddatblygu. <\/p>\n<p>Ym marn y cwmni, mae twf organig yn allweddol i\u2019w lwyddiant, ac mae\u2019n cynnig lleoliadau gwaith i raddedigion ac i ddarpar beirianwyr o ysgolion yr ardal.<\/p>\n<p>Dywedodd Tricia Evans, rheolwr cyllid Compact Orbital Gears: \u201cYmunodd y rhan fwyaf  o\u2019n gweithwyr \u00e2\u2019r cwmni fel prentisiaid ac mae un newydd ddathlu 50 mlynedd o wasanaeth gyda ni. <\/p>\n<p>\u201cEr mwyn i\u2019r cwmni barhau i lwyddo i\u2019r dyfodol, mae\u2019n hanfodol ein bod yn datblygu ac yn annog gweithwyr newydd, gan eu bod yn dod \u00e2 gwybodaeth newydd a syniadau ffres i\u2019r cwmni.\u201d <\/p>\n<p>Dywedodd Nick Jones, rheolwr hyfforddiant a pheirianneg gyda Myrick Training: \u201cMae Compact Orbital Gears yn dda iawn am ragweld bylchau sgiliau yn ei weithlu ac mae\u2019n awyddus iawn i gefnogi a meithrin doniau yn y cwmni ei hunan.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:<\/strong> \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bu datblygu gweithlu hyblyg \u00e2 sgiliau amrywiol yn help i sicrhau bod Compact Orbital Gears yn enw blaenllaw yn y diwydiant g\u00ears arbenigol ers dros hanner canrif. Mae\u2019r cwmni, sy\u2019n cyflogi 43 yn Rhaeadr Gwy, yn dylunio, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/compact-orbital-gears\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7817","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7817","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7817"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7817\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7817"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7817"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7817"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}