{"id":7819,"date":"2021-03-02T11:45:00","date_gmt":"2021-03-02T11:45:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7819"},"modified":"2021-03-01T19:52:45","modified_gmt":"2021-03-01T19:52:45","slug":"thomas-skip-plant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/thomas-skip-plant\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau dwyieithog yn helpu cwmni i dyfu a datblygu"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/thomas-skip-plant\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/thomas-skip-plant\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13269\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Thomas-Skips-land-scaled-e1614627847951.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13269\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Thomas-Skips-land-scaled-e1614627847951.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13269\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13269\" class=\"wp-caption-text\">Cyfarwyddwyr Thomas Skip and Plant Hire, Iestyn a Natasha Thomas.<\/p><\/div>\n<p>Bu prentisiaethau dwyieithog yn allweddol i dwf cwmni annibynnol llwyddiannus ym maes sgipiau a rheoli gwastraff yn y gogledd dros yr wyth mlynedd ddiwethaf.<\/p>\n<p>Cwmni o Gaernarfon yw Thomas Skip and Plant Hire a, gan fod cynifer o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg, mae o\u2019r farn ei bod yn bwysig i\u2019r staff ddysgu trwy gyfrwng yr iaith. <\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni, sy\u2019n annog cyflogwyr eraill i ystyried prentisiaethau dwyieithog a defnyddio\u2019r Gymraeg yn y gweithle, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae Thomas Skip and Plant Hire, sydd \u00e2 thri phrentis mewn gweithlu o 10, yn ymroi i warchod yr amgylchedd trwy gadw cymaint o wastraff ag y bo modd rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Mae\u2019n darparu gwasanaethau sgipiau a rheoli gwastraff ledled Gwynedd, Ynys M\u00f4n a Chonwy yn ogystal \u00e2 llogi peiriannau, a gwneud gwaith cliriio a pharatoi tir. <\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni\u2019n cynnig Prentisiaethau dwyieithog mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, Lefelau 2 a 3, a Diploma BTEC Pearson Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes a drefnir gan Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Dywed Thomas Skip and Plant Hire fod y Rhaglen Brentisiaethau\u2019n ei helpu i gadw staff yn hirach, ynghyd \u00e2 chynnig gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a dysgu mwy am y diwydiant gwastraff.<\/p>\n<p>Cyflwynwyd prentisiaethau ar \u00f4l adolygiad o\u2019r busnes ac arolwg sgiliau pan welwyd bod angen hyfforddi ac addysgu\u2019r gweithlu. <\/p>\n<p>\u201cCredwn y bydd gweithwyr hapus, sydd wedi\u2019u hyfforddi\u2019n dda ac yn gallu gweithio\u2019n ddiogel, yn ein helpu i gadarnhau ein henw da a pharhau i dyfu,\u201d meddai Natasha Thomas, sy\u2019n rhedeg Thomas Skip and Plant Hire gyda\u2019i phartner Iestyn Thomas. \u201cRydym yn anelu at fod yn well na\u2019n cystadleuwyr ac yn credu y bydd hyfforddi\u2019n gweithwyr yn helpu\u2019r cwmni i wella.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n bwysig iawn i ni roi cyfle i\u2019n gweithwyr symud ymlaen a gwella\u2019u hunain. Maen nhw\u2019n fwy hyderus wrth ddelio \u00e2 chwsmeriaid ac yn fwy cywir wrth lenwi\u2019r ffurflenni swyddogol sy\u2019n hanfodol er mwyn cadw trwydded y safle.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Heather Martin, pennaeth cynaliadwyedd a busnes gyda Hyfforddiant Cambrian: \u201cMae Thomas Skip and Plant Hire yn ymroi i hyfforddi\u2019r gweithwyr a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn y gwaith. Mae\u2019r cwmni\u2019n enghraifft ardderchog o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y gweithle ac mewn hyfforddiant.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:<\/strong> \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bu prentisiaethau dwyieithog yn allweddol i dwf cwmni annibynnol llwyddiannus ym maes sgipiau a rheoli gwastraff yn y gogledd dros yr wyth mlynedd ddiwethaf. Cwmni o Gaernarfon yw Thomas Skip and Plant Hire a, gan fod cynifer &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/thomas-skip-plant\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7819","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7819","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7819"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7819\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7819"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7819"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7819"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}