{"id":7821,"date":"2021-03-02T12:15:51","date_gmt":"2021-03-02T12:15:51","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7821"},"modified":"2021-03-01T20:01:23","modified_gmt":"2021-03-01T20:01:23","slug":"wales-england-care","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wales-england-care\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau\u2019n hybu perfformiad ac ansawdd gwaith cwmni gofal"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wales-england-care\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wales-england-care\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13272\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Wales-England-Care-ltd-land-scaled-e1614628472307.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13272\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Wales-England-Care-ltd-land-scaled-e1614628472307.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13272\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13272\" class=\"wp-caption-text\">Cyfarwyddwr datblygu busnes Wales England Care Training, Siobhan Carey, y rheolwr cofrestredig, Diane Morgan a\u2019r gyfarwyddwr gweithrediadau, Moyra Kearney \u2013 prentisiaethau\u2019n hanfodol i\u2019w cynlluniau i dyfu.<\/p><\/div>\n<p>Dywed cwmni gofal cartref Wales England Care Ltd fod prentisiaethau\u2019n hanfodol i\u2019w gynlluniau i dyfu a\u2019u bod eisoes wedi hybu ei berfformiad ac ansawdd ei waith, gan sicrhau bod staff yn aros yn hirach.<\/p>\n<p>Yn y flwyddyn ddiwethaf, dywed y cwmni o Gasnewydd fod ei Raglen Brentisiaethau wedi cyfrannu at gynnydd o 57% mewn gwerthiant a sg\u00f4r cymderadwyaeth o 98% gan gleientiaid. Gwnaed hyn trwy wella sgiliau, hyder ac effeithlonrwydd a lleihau costau, gan arwain at gynnydd o 177% mewn incwm net.<\/p>\n<p>Ym mis Ionawr y llynedd, roedd lefel trosiant y staff yn 68% ond, erbyn mis Medi, ar \u00f4l cyflwyno prentisiaethau, roedd wedi syrthio i 16% ac mae\u2019r oriau gofal a ddarperir bob wythnos wedi cynyddu o 200 i 1,000 ers 2017. <\/p>\n<p>Yn awr, mae\u2019r cwmni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae gan Wales England Care, sy\u2019n ymroi i gynnig gofal o\u2019r safon uchaf, 13 o brentisiaid yn gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lefelau 2 i 5. <\/p>\n<p>Darperir yr hyfforddiant gan ei chwaer gwmni, Wales England Care Training, ochr yn ochr \u00e2 chyrsiau hyfforddi mewnol, ac mae pob prentis yn cael mentor profiadol. <\/p>\n<p>Mae gan Wales England Care 42 o weithwyr ac mae wedi ennill achrediad arian Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae\u2019r rheolwr gyfarwyddwr, Kim Churcher, a fu\u2019n brentis ei hunan, yn benderfynol o ddangos pa mor bwysig a gwerthfawr yw gweithwyr gofal.<\/p>\n<p>Mae\u2019n hoffi s\u00f4n wrth fusnesau eraill yn y sector am fanteision prentisiaethau a rhannu arferion da.<\/p>\n<p>Trwy gydweithio\u2019n agos \u00e2 Wales England Care Training, mae\u2019r cwmni wedi cyflwyno prentisiaethau trwy\u2019r sefydliad cyfan, o\u2019r gwaelod i\u2019r top, ac mae wedi sefydlu rhaglen Arweinwyr y Dyfodol i helpu pobl i symud ymlaen yn eu gyrfa.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r Rhaglen Brentisiaethau\u2019n rhan hanfodol o\u2019r cwmni erbyn hyn a bydd yn rhan amlwg o\u2019n gwaith cynllunio strategol,\u201d meddai Christopher Churcher, cyfarwyddwr cyllid Wales England Care. \u201cEin bwriad yw datblygu\u2019r rhaglen ymhellach.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Helen Harris, rheolwr ansawdd Wales England Care Training: \u201cMae gan Wales England Care gynlluniau uchelgeisiol i dyfu yn rhanbarthol a thrwy\u2019r Deyrnas Unedig. Mae\u2019n awyddus i ddefnyddio\u2019r Rhaglen Brentisiaethau i sicrhau bod pawb yn ennill y cymwysterau gofynnol a bod gweithwyr y cwmni ei hunan yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:<\/strong> \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dywed cwmni gofal cartref Wales England Care Ltd fod prentisiaethau\u2019n hanfodol i\u2019w gynlluniau i dyfu a\u2019u bod eisoes wedi hybu ei berfformiad ac ansawdd ei waith, gan sicrhau bod staff yn aros yn hirach. Yn y flwyddyn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wales-england-care\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7821","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7821","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7821"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7821\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7821"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7821"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7821"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}