{"id":7823,"date":"2021-03-02T15:10:38","date_gmt":"2021-03-02T15:10:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7823"},"modified":"2021-03-08T22:09:46","modified_gmt":"2021-03-08T22:09:46","slug":"ifan-wyn-phillips","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ifan-wyn-phillips\/","title":{"rendered":"Llysgennad Prentisiaethau yn angerddol dros y Gymraeg"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ifan-wyn-phillips\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ifan-wyn-phillips\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13275\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/ifan-wyn-phillips-scaled-e1614629016108.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13275\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/ifan-wyn-phillips-scaled-e1614629016108.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13275\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13275\" class=\"wp-caption-text\">Ifan Wyn Phillips, prentis wrth ei waith.<\/p><\/div>\n<p>Mae Ifan Wyn Phillips yn perthyn i deulu o drydanwyr yn Sir Benfro ac yn awr mae yntau\u2019n brentis trydanwr yn y busnes a sefydlwyd gan ei dad-cu.<\/p>\n<p>Mae Ifan, 20 oed, yn byw yng Nghrymych ac yn gweithio i gwmni contractwyr trydan D. E. Phillips sy\u2019n gwneud gwaith ar dai, ffermydd a busnesau.<\/p>\n<p>Mae\u2019n gwneud Prentisiaeth Sylfaen mewn Gosodiadau Trydanol a gynigir yn ddwyieithog gan Goleg Sir Benfro ac mae\u2019n gobeithio symud ymlaen i wneud Prentisiaeth ym mis Medi. <\/p>\n<p>Dewisodd Ifan wneud prentisiaeth er mwyn ymuno \u00e2 busnes y teulu gan nad oedd gradd brifysgol yn apelio ato. \u201cMae\u2019n well gen i weithio \u00e2 fy nwylo ac mae\u2019r brentisiaeth yn gyfle i weithio, dysgu ac ennill cyflog,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l ennill pedair Lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol y Preseli, mae\u2019n bwysig i Ifan ei fod yn gallu gwneud y brentisiaeth yn ddwyieithog.<\/p>\n<p>Mae\u2019n awyddus iawn i hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog ac arweiniodd hynny at ei benodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru. Yn ogystal, mae Ifan yn llysgennad y Gymraeg gyda Choleg Sir Benfro.<\/p>\n<p>\u201cGan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf, mae\u2019n haws o lawer i fi wneud fy mhrentisiaeth yn ddwyieithog,\u201d meddai Ifan. \u201cMae pawb sy\u2019n gweithio yn y busnes a\u2019r rhan fwyaf o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg. <\/p>\n<p>\u201cMae bod yn brentis ac yn llysgennad y Gymraeg yn gyfle gwych i mi hyrwyddo dysgu trwy gyfrwng yr iaith. Os gwnaf i\u2019r gwaith yn dda, gobeithio y gallaf ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ddysgu\u2019r iaith ac i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn i pe bai cynifer o bobl ag sy\u2019n bosibl yn dysgu\u2019r iaith ac yn ei defnyddio yn y gwaith ac yn y brifysgol. Mae\u2019r iaith wedi bod gyda ni ers y bumed ganrif ac mae\u2019n bwysig iawn ei bod yn parhau.\u201d<\/p>\n<p>Mae Coleg Sir Benfro\u2019n gwneud eu gorau i helpu Ifan ac eraill i barhau \u00e2\u2019u haddysg yn y Gymraeg.<\/p>\n<p>Ymunodd Roger Phillips, tiwtor Gosodiadau Trydanol, \u00e2 rhaglen Llywodraeth Cymru,  Cymraeg Gwaith, gyda\u2019r nod o roi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr wneud eu gwaith yn y Gymraeg yn y gweithdy lle mae\u2019n gweithio yn y coleg.<\/p>\n<p>Rhoddodd y rhaglen yr hyder iddo siarad mwy o Gymraeg a phenderfynu ar ddogfennau Saesneg ar gyfer gwaith ymarferol ac asesiadau y gellid eu cyfieithu gyda help Janice Morgan, swyddog datblygu\u2019r iaith Gymraeg yn y coleg.<\/p>\n<p>\u201cGyda\u2019n gilydd, r\u0177n ni wedi rhoi mwy o gyfle i Ifan a dysgwyr eraill sy\u2019n siarad Cymraeg i ddefnyddio\u2019r iaith yn eu prentisiaeth,\u201d meddai Janice.<\/p>\n<p>\u201cMae tuag 11% o\u2019n myfyrwyr yn siarad Cymraeg ond mae\u2019r ganran yn cynyddu ac mae\u2019r coleg yn gweld bod angen rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio\u2019r iaith wrth ddysgu.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan:<\/strong> \u201cMae\u2019n wych bod prentisiaid yn cael y cyfle i ddilyn eu rhaglen hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae\u2019n bwysig bod gwasanaethau fel hyn yn cael eu cynnig yn ddwyieithog oherwydd mae\u2019n cryfhau\u2019r defnydd a wneir o\u2019r iaith o ddydd i ddydd ac yn sicrhau bod y gallu i siarad Cymraeg yn sg\u00ecl werthfawr ym myd gwaith.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cRydym wedi darparu cyllid i gefnogi Cynllun Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae\u2019n ardderchog gweld pobl yn elwa o\u2019r cynllun. Rwy\u2019n dymuno\u2019n dda i\u2019r prentisiaid sy\u2019n dilyn rhaglenni hyfforddi ac yn gobeithio y c\u00e2n nhw yrfaoedd hir a llwyddiannus.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r ail flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Ifan Wyn Phillips yn perthyn i deulu o drydanwyr yn Sir Benfro ac yn awr mae yntau\u2019n brentis trydanwr yn y busnes a sefydlwyd gan ei dad-cu. Mae Ifan, 20 oed, yn byw yng Nghrymych ac &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ifan-wyn-phillips\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7823","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7823","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7823"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7823\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7823"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7823"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7823"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}