{"id":7849,"date":"2021-03-09T12:00:32","date_gmt":"2021-03-09T12:00:32","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7849"},"modified":"2021-03-05T19:12:18","modified_gmt":"2021-03-05T19:12:18","slug":"dow-silicones","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dow-silicones\/","title":{"rendered":"Gobaith am wobr i gwmni sy\u2019n meithrin peirianwyr medrus"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/dow-silicones\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dow-silicones\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13310\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Press-pic-Dow-Barry-50-land-scaled-e1614970935421.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13310\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Press-pic-Dow-Barry-50-land-scaled-e1614970935421.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"275\" class=\"size-full wp-image-13310\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13310\" class=\"wp-caption-text\">Yr arweinydd dysgu, Alex Laurie (ail o\u2019r dde) a\u2019r prentisiaid Rhydian Price, Charlotte Clissold a James Parr o Dow Silicones UK Limited yn y Barri, sydd yn rownd derfynol categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<\/p><\/div>\n<p>Bu\u2019n anodd i Dow Silicones UK Limited recriwtio staff profiadol \u00e2\u2019r sgiliau angenrheidiol i wneud gwaith arbenigol ond erbyn hyn mae\u2019n llwyddo i feithrin llawer o\u2019i weithwyr ei hunan gan ddefnyddio prentisiaethau.<\/p>\n<p>Ac yntau\u2019n un o\u2019r cwmn\u00efau mwyaf yn y byd ym maes gwyddoniaeth mater, bu Dow yn cynhyrchu nwyddau rhyngol silicon yn y Barri ers 1952, ac mae\u2019n meithrin y genhedlaeth nesaf o beirianwyr trwy raglenni cynhwysol ym maes dysgu seiliedig ar waith a ddatblygwyd dros 40 mlynedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni\u2019n cydweithio\u2019n agos \u00e2 llawer o ddarparwyr dysgu, yn cynnwys Coleg Caerdydd a\u2019r Fro (CAVC), gan gynnig pum llwybr dysgu ar Lefelau 2 a 3, a thri llwybr arall ar ffurf Prentisiaethau Uwch. Mae ganddo 40 o brentisiad ar y safle ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Dow wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>\u201cMae meithrin ein gweithwyr ein hunain trwy brentisiaethau yn ein helpu i ddatblygu a thyfu, gan wybod y bydd y sgiliau cywir gan y gweithlu,\u201d meddai Alex Laurie, Arweinydd Dysgu ar y Safle.<\/p>\n<p>Trwy gydweithio\u2019n agos \u00e2 CAVC a rhannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, mae\u2019r cwmni wedi datblygu rhaglen arloesol Gweithredwyr Cemegol ac mae\u2019n darparu tiwtoriaid ar gyfer y coleg.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae t\u00eem prentisiaid cynnal a chadw Dow yn cynllunio, yn adeiladu ac yn darparu proses ar gyfer offer gweithiol y gall CAVC ei defnyddio wrth ddysgu ar y campws. <\/p>\n<p>\u201cR\u0177n ni wrthi\u2019n darparu cwrs pwrpasol a ddatblygwyd mewn cydweithrediad \u00e2 Dow,\u201d meddai Stuart Woodward, rheolwr cyflenwi gyda CAVC.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n hanfodol bod hyn yn cael ei rannu trwy\u2019r coleg cyfan achos mae\u2019n sicrhau bod yr hyn yr ydyn ni\u2019n ei ddarparu yn ateb gofynion Dow fel cwmni ac, wrth gwrs, eu gofynion o ran hyfforddiant y tu hwnt i\u2019r ddarpariaeth graidd.\u201d<\/p>\n<p>Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae 95% o brentisiaid cwmni Dow wedi aros gyda\u2019r cwmni a llawer wedi datblygu i fod yn oruchwylwyr a rheolwyr. Yn ogystal, mae\u2019r cwmni\u2019n cynnig Prentisiaethau Gradd mewn partneriaeth \u00e2 Phrifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru i bobl sy\u2019n awyddus i ganfod cyfleoedd newydd ar gyfer eu gyrfa.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:<\/strong> \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bu\u2019n anodd i Dow Silicones UK Limited recriwtio staff profiadol \u00e2\u2019r sgiliau angenrheidiol i wneud gwaith arbenigol ond erbyn hyn mae\u2019n llwyddo i feithrin llawer o\u2019i weithwyr ei hunan gan ddefnyddio prentisiaethau. Ac yntau\u2019n un o\u2019r cwmn\u00efau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dow-silicones\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7849","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7849","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7849"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7849\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7849"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7849"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7849"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}