{"id":7854,"date":"2021-03-11T10:00:56","date_gmt":"2021-03-11T10:00:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7854"},"modified":"2021-03-06T14:27:44","modified_gmt":"2021-03-06T14:27:44","slug":"quals-wales-mawrth-2021","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/quals-wales-mawrth-2021\/","title":{"rendered":"Gobaith am gymhwyster newydd mewn peirianneg yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/quals-wales-march-2021\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/quals-wales-mawrth-2021\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13317\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Emyr_George_002-scaled-e1614973666787.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13317\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Emyr_George_002-scaled-e1614973666787.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13317\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13317\" class=\"wp-caption-text\">Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau.<\/p><\/div>\n<p>Mae\u2019n bosibl y bydd pobl ifanc yng Nghymru sy&#8217;n ystyried gyrfa mewn peirianneg yn cael cyfle yn y dyfodol i astudio&#8217;r pwnc ar gyfer TGAU newydd.<\/p>\n<p>Mae peirianneg a gweithgynhyrchu yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru, gan gyflogi dros 165,000 o bobl \u2013 o rai sy&#8217;n gweithio mewn gweithdai bychan i weithwyr cwmn\u00efau uwchdechnoleg fel Airbus, Tata Steel ac Aston Martin.<\/p>\n<p>Gallai TGAU newydd mewn peirianneg a gweithgynhyrchu gyfrannu at y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022, trwy helpu i ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol, blaengar a chreadigol.<\/p>\n<p>Mae Cymwysterau Cymru yn ystyried cyflwyno TGAU newydd mewn peirianneg a gweithgynhyrchu fel rhan o set newydd o gymwysterau gwyddoniaeth a thechnoleg yn benodol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.<\/p>\n<p>Yn ei ymgynghoriad <em>Cymwys ar gyfer y dyfodol<\/em>, mae Cymwysterau Cymru yn gofyn am sylwadau am y cymhwyster newydd arfaethedig. Er enghraifft, mae&#8217;n debygol y byddai\u2019r TGAU newydd yn disodli rhai o&#8217;r cymwysterau presennol mewn pynciau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 pheirianneg a gweithgynhyrchu.<br \/>\nMae&#8217;n un o nifer o gynigion sydd wedi\u2019u cynnwys yn yr ymgynghoriad sy&#8217;n ceisio mapio dyfodol cymwysterau yng Nghymru.<\/p>\n<p>Daw&#8217;r cynnig yn dilyn adolygiad manwl o&#8217;r sector peirianneg, gweithgynhyrchu uwch ac ynni a gynhaliwyd gan Gymwysterau Cymru y llynedd.<br \/>\nRoedd yr adolygiad yn nodi\u2019r angen i bobl ifanc fod yn fwy ymwybodol o beirianneg a phrentisiaethau, yn enwedig mewn ysgolion, a\u2019r angen i annog mwy o fenywod a merched i ddilyn cyrsiau cysylltiedig \u00e2 pheirianneg.<\/p>\n<p>Byddai&#8217;r cymhwyster newydd hwn yn cyflwyno dysgwyr i lawer o gyfleoedd amrywiol a chyfoethog i astudio byd peirianneg. Awgrymir y byddai\u2019n canolbwyntio ar asesu sgiliau ymarferol a chymhwyso gwybodaeth i sefyllfaoedd mewn bywyd go iawn, yn ogystal ag ar gynnwys damcaniaethol.<\/p>\n<p>Ein r\u00f4l ni, y rheolydd annibynnol, yw ystyried y cymwysterau y bydd angen amdanynt yn y dyfodol ac, yn benodol, sut y caiff cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru ei asesu o 2027 ymlaen.<br \/>\nO 2022 ymlaen, bydd cwricwlwm newydd a seilir ar chwe maes dysgu eang:<\/p>\n<ul>\n<li>y celfyddydau mynegiannol<\/li>\n<li>iechyd a lles<\/li>\n<li>y dyniaethau<\/li>\n<li>ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu<\/li>\n<li>mathemateg a rhifedd<\/li>\n<li>gwyddoniaeth a thechnoleg<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae Bil drafft y Cwricwlwm yn gwneud ei ffordd trwy&#8217;r Senedd, ac rydym yn awyddus i barhau \u00e2&#8217;r drafodaeth bwysig am ei effaith ar gymwysterau.<\/p>\n<p>Mae ein hymgynghoriad <em>Cymwys ar gyfer yr dyfodol<\/em> yn cynnwys llawer o gynigion ynghylch yr holl feysydd dysgu eang, rhai\u2019n awgrymu newidiadau bychan i gymwysterau ac eraill ar raddfa fwy.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 TGAU newydd mewn peirianneg a gweithgynhyrchu, mae un o\u2019r cynigion yn cynnwys cymhwyster TGAU newydd mewn astudiaethau ffilm.<br \/>\nMae Cymru wedi parhau i weld twf ym maes cynhyrchu ar gyfer y teledu a ffilmiau dros y blynyddoedd diwethaf trwy&#8217;r sianeli darlledu sefydledig a chynhyrchwyr annibynnol. Byddai&#8217;r cymhwyster arfaethedig yn help i symud ymlaen i nifer o bynciau a llwybrau gyrfa yn y celfyddydau mynegiannol a&#8217;r diwydiannau creadigol yn ehangach.<\/p>\n<p>Felly mae&#8217;n bwysig ein bod yn clywed oddi wrth gynifer o bobl ag sy\u2019n bosibl am y cynigion hyn a chynigion eraill, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn cael dewis o&#8217;r cyfuniad cywir o gymwysterau.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n gyfnod hynod o brysur a heriol i bawb wrth i ni barhau i ddelio \u00e2&#8217;r pandemig. Ond rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn yn awr i roi cyfle i bawb ddweud eu dweud ar y penderfyniadau pwysig hyn ac i sicrhau bod pawb yn cael digon o amser i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau.<\/p>\n<p>Rydym wedi ceisio sicrhau ei bod mor hawdd ac mor hwylus ag y bo modd i bobl ddweud wrthym beth sydd bwysicaf iddyn nhw. Dyna pam yr ydym wedi cynhyrchu fersiwn sy\u2019n addas i bobl ifanc ac sy\u2019n yn esbonio&#8217;r cynigion mewn ffordd symlach, i fynd ochr yn ochr \u00e2&#8217;r brif ddogfen ymgynghori ar ein gwefan. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r ymgynghoriad ar agor tan 9 Ebrill, ac mae&#8217;r holl wybodaeth ar gael ar <a href=\"https:\/\/www.qualificationswales.org\/cymraeg\/cymwys-ar-gyfer-y-dyfodol---dweud-eich-dweud\/\">wefan Cymwysterau Cymru<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae\u2019n bosibl y bydd pobl ifanc yng Nghymru sy&#8217;n ystyried gyrfa mewn peirianneg yn cael cyfle yn y dyfodol i astudio&#8217;r pwnc ar gyfer TGAU newydd. Mae peirianneg a gweithgynhyrchu yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/quals-wales-mawrth-2021\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7854","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7854","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7854"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7854\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7854"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7854"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7854"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}