{"id":7881,"date":"2021-03-09T08:30:14","date_gmt":"2021-03-09T08:30:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7881"},"modified":"2021-03-08T16:57:03","modified_gmt":"2021-03-08T16:57:03","slug":"ceris-alaw-jones","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ceris-alaw-jones\/","title":{"rendered":"Ceris, y prentis peirianneg \u00e2\u2019i llygaid ar yrfa gyffrous yng Ngwynedd"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ceris-alaw-jones\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ceris-alaw-jones\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13389\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Press-pic-Ceris-Alaw-Jones-land-scaled-e1615222368744.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13389\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Press-pic-Ceris-Alaw-Jones-land-scaled-e1615222368744.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13389\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13389\" class=\"wp-caption-text\">Ceris Alaw Jones has eyes set on civil engineering career.<\/p><\/div>\n<p>Gyrfa gyffrous ym myd peirianneg sifil yw\u2019r nod i Ceris Alaw Jones sydd wrth ei bodd o gael dilyn prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. <\/p>\n<p>Mae Ceris, 21, o Benygroes, ger Caernarfon, yn gweithio i Gyngor Gwynedd gan ddilyn Prentisiaeth mewn Peirianneg Sifil (Priffyrdd a Bwrdeistrefol) a ddarperir gan Goleg Cambria.<\/p>\n<p>Yn ogystal, penodwyd hi yn Llysgennad Prentisiaid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru, a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) sy\u2019n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>Mae Ceris yn mwynhau bod yn llysgennad ac mae mewn sefyllfa dda i s\u00f4n wrth bobl sy\u2019n ystyried gwneud prentisiaeth am ei phrofiad hi.<\/p>\n<p>Bwriad gwreiddiol Ceris oedd bod yn ddylunydd nwyddau a dewisodd wneud cwrs gradd. Fodd bynnag, ar \u00f4l wyth mis, penderfynodd nad oedd y cwrs yn addas iddi a daeth adref.<\/p>\n<p>Bu\u2019n gweithio yng nghanolfan alwadau Cyngor Gwynedd am rai misoedd a, thra oedd yno, cafodd gyfle i fynd yn brentis peirianneg sifil. Erbyn hyn, mae\u2019n edrych ymlaen at ennill cymhwyster a fydd, gobeithio, yn arwain at swydd lawn amser gyda\u2019r awdurdod.<\/p>\n<p>\u201cDwi wedi cymryd diddordeb mawr mewn peirianneg erioed,\u201d meddai Ceris, sy\u2019n gweithio ym maes priffyrdd a strwythurau. \u201cMae \u2018na lawer o beirianneg ym maes dylunio nwyddau ac mae fy chwaer yn beiriannydd rhwydweithiau gyda Chyngor Gwynedd.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n mwynhau\u2019r brentisiaeth yn fawr. Mae\u2019n ddifyr iawn ac mae\u2019n c\u0175l gweld sut mae pethau\u2019n gweithio. Mae \u2018na lawer o agweddau ar yrfa mewn peirianneg sifil yr hoffwn i gael profiad ohonyn nhw.\u201d<\/p>\n<p>Gobaith Ceris yw symud ymlaen i wneud gradd a gwireddu ei huchelgais o fod yn Beiriannydd Sifil Siartredig.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n credu ei bod yn bwysig bod fy mhrentisiaeth ar gael yn ddwyieithog, achos Cymraeg yw ein hiaith gyntaf ni yng Ngwynedd,\u201d meddai Ceris. \u201cGwlad fach yw Cymru a dwi\u2019n meddwl ei bod yn bwysig cadw\u2019n hiaith unigryw yn fyw.<\/p>\n<p>\u201cMae dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a\u2019r gallu i siarad dwy iaith yn help mawr wrth wneud cais am swydd yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Mae wrth ei bodd o gael ei dewis yn Llysgennad Prentisiaid ac meddai: \u201cO fy mhrofiad i, mae prentisiaeth yn well o lawer na mynd i\u2019r brifysgol.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n hoffi ennill cyflog wrth ddysgu yn y gwaith. Rydych chi\u2019n cael profiad gwaith gwerthfawr ac mae cyflogwyr yn chwilio am hynny.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n mwynhau bod yn llysgennad a rhannu cyngor a phrofiad o fod yn brentis. Wrth chwilio am brentisiaeth, dwi\u2019n credu ei bod yn bwysig i chi wneud ymchwil a gofyn i gyflogwyr posibl pa gyfleoedd sydd ar gael i chi.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Alun Lloyd Williams, Uwch Swyddog Dysgu a Datblygu Cyngor Gwynedd: \u201cYm marn Cyngor Gwynedd, mae\u2019n hanfodol bwysig bod yr holl brentisiaethau a gynigiwn ar gael yn Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog. <\/p>\n<p>\u201cMae pobl yn defnyddio\u2019r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd ac mae\u2019n rhan hanfodol o\u2019n bywyd ni yma. Mae\u2019n wych bod Ceris yn Llysgennad Prentisiaid sy\u2019n ysbrydoli eraill trwy rannu ei phrofiadau \u00e2 phobl eraill sy\u2019n ystyried gwneud prentisiaeth.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Llinos Roberts, Pennaeth yr Iaith Gymraeg yng Ngholeg Cambria: \u201cRydym ni yng Ngholeg Cambria wedi ymrwymo\u2019n llwyr i ddatblygu ein rhaglenni dwyieithog ac i hyrwyddo\u2019r iaith Gymraeg fel sg\u00ecl werthfawr ym myd gwaith. <\/p>\n<p>\u201cRydym wrth ein bodd bod Ceris yn hybu\u2019r gwaith hwn yn ei r\u00f4l fel Llysgennad, gan weithio\u2019n galed i berswadio prentisiaid eraill i ddatblygu eu sgiliau er mwyn bod yn fwy hyderus i ddefnyddio\u2019r Gymraeg yn eu gwaith.&#8221;<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan:<\/strong> \u201cMae\u2019n wych bod prentisiaid yn cael y cyfle i ddilyn eu rhaglen hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae\u2019n bwysig bod gwasanaethau fel hyn yn cael eu cynnig yn ddwyieithog oherwydd mae\u2019n cryfhau\u2019r defnydd a wneir o\u2019r iaith o ddydd i ddydd ac yn sicrhau bod y gallu i siarad Cymraeg yn sg\u00ecl werthfawr ym myd gwaith.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cRydym wedi darparu cyllid i gefnogi Cynllun Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae\u2019n ardderchog gweld pobl yn elwa o\u2019r cynllun. Rwy\u2019n dymuno\u2019n dda i\u2019r prentisiaid sy\u2019n dilyn rhaglenni hyfforddi ac yn gobeithio y c\u00e2n nhw yrfaoedd hir a llwyddiannus.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Gyrfa gyffrous ym myd peirianneg sifil yw\u2019r nod i Ceris Alaw Jones sydd wrth ei bodd o gael dilyn prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Ceris, 21, o Benygroes, ger Caernarfon, yn gweithio i Gyngor Gwynedd gan &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ceris-alaw-jones\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7881","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7881","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7881"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7881\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7881"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7881"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7881"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}