{"id":7884,"date":"2021-03-15T11:30:50","date_gmt":"2021-03-15T11:30:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7884"},"modified":"2021-03-14T10:50:05","modified_gmt":"2021-03-14T10:50:05","slug":"rctbc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rctbc\/","title":{"rendered":"Rhaglen Brentisiaethau cyngor yn dal i ffynnu"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/rctbc\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rctbc\">Cymraeg<\/a> <\/p>\n<div id=\"attachment_13406\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13406\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/RTC-Council-8-land-scaled-e1615718384114.jpg\" alt=\"RTC Council\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13406\" \/><p id=\"caption-attachment-13406\" class=\"wp-caption-text\">Sian Woolson, rheolwr addysg, cyflogaeth a hyfforddiant Cyngor Rhondda Cynon Taf gyda\u2019r cydlynydd prentisiaid a graddedigion Maria Jones.<\/p><\/div>\n<p>Er gwaethaf heriau pandemig byd-eang a Storm Dennis, a effeithiodd ar 1,500 o gartrefi a busnesau ledled yr ardal, mae Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ffynnu.<\/p>\n<p>Gan fod y rhaglen wedi\u2019i sefydlu ers naw mlynedd, llwyddodd y cyngor i ymateb yn sydyn. Trefnwyd i\u2019r 80 o brentisiaid weithio gartref a darparwyd gliniaduron, desgiau, cadeiriau ac offer arall ar eu cyfer, ac aeth y darparwyr hyfforddiant ati i drefnu i ddysgu o bell a chynnig estyniadau i gyrsiau a dyddiadau cau.<\/p>\n<p>Mewn ymateb i Storm Dennis, a achosodd ddifrod i ffyrdd, pontydd a chanol trefi yn yr ardal fis Chwefror diwethaf, mae\u2019r cyngor wedi recriwtio pedwar prentis ychwanegol mewn peirianneg sifil. Bydd un o\u2019r rhain yn gweithio\u2019n benodol ym maes rheoli risgiau llifogydd.<\/p>\n<p>Gyda\u2019r fath ymrwymiad i hyfforddiant, nid yw\u2019n syndod bod cyfradd cwblhau prentisiaethau gyda\u2019r cyngor yn 94%, gyda bron wyth o bob deg prentis yn mynd ymlaen i weithio gyda\u2019r cyngor.<\/p>\n<p>Oherwydd ei ymroddiad i brentisiaethau, mae\u2019r cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae\u2019r cyngor, ar y cyd \u00e2 gwahanol bartneriaid hyfforddi, yn cynnig Fframweithiau Prentisiaethau mewn 15 disgyblaeth, yn cynnwys Busnes a Gweinyddu, Telathrebu, Garddwriaeth a Rheoli.<\/p>\n<p>Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu\u2019n bwysig i\u2019r prentisiaid fod yn hyblyg. Mae prentisiaid wedi\u2019u hadleoli i gefnogi gwasanaethau hanfodol yn y gymuned, bu rhai\u2019n cydweithio \u00e2\u2019r GIG ar ddata am bobl sy\u2019n gorfod eu gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws, ac mae rhai wedi bod yn dosbarthu parseli bwyd.<\/p>\n<p>Dywedodd Sian Woolson, rheolwr addysg, cyflogaeth a hyfforddiant gyda\u2019r Cyngor: \u201cUn o\u2019r pethau arloesol rydyn ni wedi\u2019i wneud yw ffurfio grwpiau gweithio tridarn rhwng y dysgwr, cydlynydd y rhaglen a\u2019r darparwr hyfforddiant. Mae hyn wedi helpu 36 o brentisiaid i gwblhau eu Fframweithiau er gwaethaf cyfnod cloi\u2019r gwanwyn.\u201d<\/p>\n<p>Ac meddai Helena Williams, cyfarwyddwr gyda\u2019r darparwr hyfforddiant ALS Training yng Nghaerdydd: \u201cMae Rhondda Cynon Taf yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr o bob cefndir a phob lefel gallu i ddysgu a datblygu trwy brentisiaeth mewn sefydliad deinamig a blaengar.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Er gwaethaf heriau pandemig byd-eang a Storm Dennis, a effeithiodd ar 1,500 o gartrefi a busnesau ledled yr ardal, mae Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ffynnu. Gan fod y rhaglen wedi\u2019i sefydlu ers naw mlynedd, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rctbc\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7884","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7884","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7884"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7884\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7884"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7884"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7884"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}