{"id":7892,"date":"2021-03-16T11:30:26","date_gmt":"2021-03-16T11:30:26","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7892"},"modified":"2021-09-28T11:55:33","modified_gmt":"2021-09-28T10:55:33","slug":"lleucu-edwards","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lleucu-edwards\/","title":{"rendered":"Dysgu trwy\u2019r Gymraeg yn rhan hanfodol o lwyddiant Llysgennad Prentisiaid"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/lleucu-edwards\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lleucu-edwards\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13416\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13416\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Lleucu-Edwards-NTFW-2-land-scaled-e1615837694260.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"292\" class=\"size-full wp-image-13416\" \/><p id=\"caption-attachment-13416\" class=\"wp-caption-text\">Lleucu Edwards sy\u2019n Llysgennad Prentisiaid.<\/p><\/div>\n<p>Roedd Lleucu Edwards yn benderfynol o sicrhau ei bod yn dilyn ei thaith ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n<p>Mae Lleucu, 28, yn byw yng Nghaerfyrddin lle mae\u2019n arwain Cylch Meithrin Eco Tywi, ar gyfer plant rhwng dwy a phedair oed.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l bod mewn ysgol Gymraeg, aeth ymlaen i wneud gradd BA mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar yng Ngholeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant lle bu\u2019n rhaid iddi ymchwilio i ganfod gwerslyfrau Cymraeg a chyfieithu rhai eraill o\u2019r Saesneg.<\/p>\n<p>Yna, aeth Lleucu ymlaen i ddysgu mwy a datblygu sgiliau ymarferol trwy wneud Prentisiaeth mewn Gofal Plant a Phrentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth mewn Gofal, Dysgu a Datblygu Plant mewn chwe mis gyda\u2019r darparwr dysgu seiliedig ar waith ACT.<\/p>\n<p>Gan fod Lleucu mor frwd dros hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog, penodwyd hi\u2019n Llysgennad Prentisiaid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>Mae Lleucu yn falch o gael arwain cylch cyntaf y Mudiad Meithrin i fod yn gylch eco, diblastig. Gwnaed yr holl adnoddau dysgu o bren, metal, bamb\u0175 neu garreg.<\/p>\n<p>\u201cRoeddwn i\u2019n gwybod yn ifanc iawm mod i eisiau gweithio gyda phlant,\u201d meddai. \u201cRwy wrth fy modd yn eu cwmni ac yn eu gweld yn datblygu ac yn symud ymlaen tra byddan nhw yn ein gofal ni ac wedyn.\u201d<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gwneud ei gradd, cafodd Lleucu brofiad yn gweithio mewn meithrinfa ac fel cynorthwyydd addysgu mewn ysgol cyn cael ei swydd bresennol yng Nghylch Meithrin Eco Tywi ym mis Tachwedd 2019.<\/p>\n<p>Tra oedd y cylch ar gau am bum mis yn ystod cyfnod cloi cyntaf Covid-19, bu Lleucu\u2019n canolbwyntio ar ei Phrentisiaeth Uwch. Mae\u2019r cylch wedi ailagor erbyn hyn ac mae Lleucu\u2019n awyddus i ddenu rhagor o blant.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn ymroi i barhau \u00e2\u2019i datblygiad proffesiynol gan ddweud bod rhywbeth newydd i\u2019w ddysgu trwy\u2019r amser er budd iddi hi a phlant y Cylch.<\/p>\n<p>Mae Lleucu\u2019n credu\u2019n gryf mewn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a gwnaeth gyfweliad \u00e2\u2019r cyfryngau yn ystod Wythnos Brentisiaethau yn ddiweddar. Mae\u2019n falch o gael bod yn Llysgennad Prentisiaid.<\/p>\n<p>\u201cDydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi llwyddo pe bawn i heb gael fy addysg a gwneud fy mhrentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg,\u201d meddai. \u201cMae\u2019n bwysig iawn i bobl eraill gael gwybod am y cyfleoedd hyn.<\/p>\n<p>\u201cCymraeg yw fy iaith gyntaf ac rwy\u2019n gwneud popeth yn Gymraeg yn y gwaith. Mae\u2019r Brentisiaeth Uwch wedi fy helpu i ganolbwyntio ar arweinyddiaeth, polis\u00efau a gwahanol elfennau sy\u2019n fy helpu yn y gwaith.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu bod prentisiaethau\u2019n bwysig. Wrth wneud gradd, rydych yn dysgu am y cefndir a\u2019r theori ond gyda phrentisiaeth rydych yn dysgu\u2019r sgiliau ymarferol ac yn dysgu gwybodaeth yng nghyd-destun y gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Nia Gealy, asesydd gofal plant a gwaith chwarae gydag ACT: \u201cMae Lleucu yn ymroi yn llwyr ac yn canolbwyntio ar ei nod. Mae\u2019n credu bod gweithio gyda phlant yn bwysig iawn. Dewisodd amser da i wneud y Brentisiaeth Uwch achos fe agorodd y Cylch Meithrin tua\u2019r un pryd.<\/p>\n<p>\u201cDydw i ddim yn credu bod pawb yn sylweddoli pa mor bwysig yw\u2019r cyfle i wneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg os mai Cymraeg yw eich mamiaith. Mae\u2019n iawn i bobl gael y cyfleoedd hyn i weithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan: \u201cMae\u2019n wych bod prentisiaid yn cael y cyfle i ddilyn eu rhaglen hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n bwysig bod gwasanaethau fel hyn yn cael eu cynnig yn ddwyieithog oherwydd mae\u2019n cryfhau\u2019r defnydd a wneir o\u2019r iaith o ddydd i ddydd ac yn sicrhau bod y gallu i siarad Cymraeg yn sg\u00ecl werthfawr ym myd gwaith.<\/p>\n<p>\u201cRydym wedi darparu cyllid i gefnogi Cynllun Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae\u2019n ardderchog gweld pobl yn elwa o\u2019r cynllun. Rwy\u2019n dymuno\u2019n dda i\u2019r prentisiaid sy\u2019n dilyn rhaglenni hyfforddi ac yn gobeithio y c\u00e2n nhw yrfaoedd hir a llwyddiannus.\u201d<\/p>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaid yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r ail flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Roedd Lleucu Edwards yn benderfynol o sicrhau ei bod yn dilyn ei thaith ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Lleucu, 28, yn byw yng Nghaerfyrddin lle mae\u2019n arwain Cylch Meithrin Eco Tywi, ar gyfer plant rhwng dwy &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lleucu-edwards\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7892","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7892","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7892"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7892\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7892"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7892"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7892"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}