{"id":7900,"date":"2021-03-18T09:00:53","date_gmt":"2021-03-18T09:00:53","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7900"},"modified":"2021-03-17T22:42:42","modified_gmt":"2021-03-17T22:42:42","slug":"rhyanne-yn-ymroi-i-gefnogi-rhai-sydd-wedi-dioddef-cam-drin-domestig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rhyanne-yn-ymroi-i-gefnogi-rhai-sydd-wedi-dioddef-cam-drin-domestig\/","title":{"rendered":"Rhyanne yn ymroi i gefnogi rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/rhyanne-rowlands\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rhyanne-rowlands\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13426\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13426\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Rhyanne-Rowlands-App-Awards-3-land-scaled-e1616012626381.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13426\" \/><p id=\"caption-attachment-13426\" class=\"wp-caption-text\">Rhyanne Rowlands \u2013 \u201cbeth bynnag yw\u2019r rhwystrau sydd o\u2019ch blaen, fe allwch chi lwyddo\u201d.<\/p><\/div>\n<p>Mae dwy Brentisiaeth Uwch wedi helpu Rhyanne Rowlands i ddatblygu o fod yn wirfoddolwraig i fod yn swyddog llawn amser gyda Chymorth i Fenywod RhCT, gan arwain prosiectau llwyddiannus i gefnogi rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig.<\/p>\n<p>Roedd Rhyanne, sy\u2019n 38 oed, wedi dioddef cam-drin domestig ei hunan yn y gorffennol ond erbyn hyn hi yw swyddog datblygu Safer Rhondda.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gwirfoddoli am flwyddyn i ddechrau, cafodd swydd lawn amser gyda Chymorth i Fenywod RhCT yn 2016 ac aeth yn \u00f4l i ddysgu gyda\u2019r darparwr Educ8 er mwyn cael mwy o wybodaeth a hunanhyder.<\/p>\n<p>Mae Rhyanne wedi cwblhau Prentisiaethau Uwch Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad yn ogystal ag Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae wedi cymhwyso fel arbenigwraig mewn cam-drin domestig. Erbyn hyn, symudodd ymlaen i Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar Lefel 5.<\/p>\n<p>Cafodd taith ddysgu lwyddiannus Rhyanne ei chydnabod wrth iddi gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<br \/>\nCaiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae Rhyanne yn datblygu prosiectau newydd yn ardal Rhondda Cynon Taf i gynnig gwasanaethau i ddynion a menywod sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Defnyddiodd sgiliau a ddysgodd yn ei phrentisiaethau i greu a rhedeg y prosiect cyntaf yng Nghymru ym maes profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Bwriad hwn yw cynyddu a gwella\u2019r gwasanaethau cefnogi ar gyfer oedolion a effeithiwyd gan drawma pan oeddent yn blant.<\/p>\n<p>Yn ogystal, aeth Rhyanne ati i sefydlu a rhedeg prosiect Athena i helpu menywod dros 50 oed i ddod dros broblemau hunanhyder a theimlo\u2019n ynysig a achoswyd gan gam-drin domestig. Enillodd y prosiect wobr Tlws Crisial Cwm Taf yn 2018.<\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l anawsterau pan oeddwn i\u2019n ifanc, roeddwn yn awyddus i ddatblygu a bu\u2019r prentisiaethau yn ffordd o wneud hynny,\u201d meddai. \u201cMae wedi bod yn wych cael datblygu o safbwynt personol a phroffesiynol ac mae wedi rhoi\u2019r hyder i mi roi cynnig ar dasgau newydd yn y gwaith.<\/p>\n<p>\u201cYn fy marn i, beth bynnag yw eich cefndir a\u2019r rhwystrau sydd o\u2019ch blaen, fe allwch chi lwyddo.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Charlie Arthur, prif weithredydd Cymorth i Fenywod RhCT fod Rhyanne yn werthfawr iawn i\u2019r mudiad a\u2019i bod yn defnyddio\u2019i sgiliau a\u2019i gwybodaeth i wella gwasanaethau ac i gyfrannu at gynlluniau strategol a syniadau am brosiectau. \u201cMae bob amser yn sicrhau bod y cleientiaid yn ganolog i unrhyw ddatblygiadau,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae dwy Brentisiaeth Uwch wedi helpu Rhyanne Rowlands i ddatblygu o fod yn wirfoddolwraig i fod yn swyddog llawn amser gyda Chymorth i Fenywod RhCT, gan arwain prosiectau llwyddiannus i gefnogi rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig. &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rhyanne-yn-ymroi-i-gefnogi-rhai-sydd-wedi-dioddef-cam-drin-domestig\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7900","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7900","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7900"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7900\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7900"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7900"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7900"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}