{"id":7903,"date":"2021-03-22T11:30:16","date_gmt":"2021-03-22T11:30:16","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7903"},"modified":"2021-03-21T11:01:44","modified_gmt":"2021-03-21T11:01:44","slug":"rebecca-strange","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rebecca-strange\/","title":{"rendered":"Cyn-reolwr meithrinfa yn meithrin y genhedlaeth nesaf"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/rebecca-strange\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rebecca-strange\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13430\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13430\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Rebecca-Strange-23-land-scaled-e1616324291978.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13430\" \/><p id=\"caption-attachment-13430\" class=\"wp-caption-text\">Rebecca Strange, cariad at ofal plant.<\/p><\/div>\n<p>O feddwl am ei hangerdd dros ofal plant a\u2019i holl brofiad fel rheolwr meithrinfa, dydi hi ddim yn syndod i neb, heblaw hi ei hunan, bod Rebecca Strange ar y rhestr fer am wobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l dod dros y sioc, roedd Rebecca sy\u2019n 37 oed ac yn byw yng Nghaerdydd wrth ei bodd \u00e2\u2019r enwebiad. \u201cRoeddwn i wedi gwirioni \u2013 roedd yn hollol annisgwyl,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae fy rheolwr yn dweud yn aml fy mod i\u2019n gwneud mwy na\u2019r disgwyl ond rwy\u2019n ei weld fel rhan o \u2018ngwaith o ddydd i ddydd. Rwy mor falch o fy nysgwyr pan fydda i\u2019n eu gweld nhw\u2019n datblygu.\u201d<\/p>\n<p>Mae Rebecca\u2019n asesydd prentisiaid Gofal Plant, Lefelau 2 i 5, ac mae\u2019n ymweld \u00e2 gwahanol feithrinfeydd, gwarchodwyr plant a sefydliadau cyn-ysgol. Bu\u2019r gwaith yn dipyn o her yn ystod y cyfnodau cloi.<\/p>\n<p>Ei gwaith yw rheoli, adolygu, asesu a hyfforddi dysgwyr yn y gweithle gyda rhaglenni pwrpasol, gyda chymorth e-bortffolios ac ymateb cyflogwyr.<\/p>\n<p>Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ddathliad blynyddol mawreddog o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, ac eleni mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<br \/>\nA hithau\u2019n gweithio i\u2019r darparwr hyfforddiant Educ8 yn Hengoed, bu gan Rebecca ran allweddol yn sefydlu platfform dysgu Moodle ar gyfer y cwmni ac erbyn hyn mae\u2019n arwain gwaith gwerthuso a datblygu\u2019r rhaglen.<\/p>\n<p>Dywedodd Rebecca: \u201cRwy wrth fy modd yn cael rhannu fy ngwybodaeth, fy sgiliau a fy mhrofiadau, gyda dysgwyr a chydweithwyr.\u201d<\/p>\n<p>Ac meddai un o\u2019i dysgwyr, Zara King: \u201cFe wnes i ffynnu gyda Rebecca. Mae hi\u2019n wych yn ei swydd. Ro\u2019n i eisiau i bawb gael Rebecca yn asesydd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd rheolwr rhaglenni Educ8 Rhian Jones: \u201cMae Becky yn defnyddio\u2019i phrofiadau ym myd gofal plant i ennyn cariad at y sector, i godi\u2019r gweithlu i dir uwch, ac i sicrhau bod pobl yn dewis gyrfa mewn gofal plant.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg O feddwl am ei hangerdd dros ofal plant a\u2019i holl brofiad fel rheolwr meithrinfa, dydi hi ddim yn syndod i neb, heblaw hi ei hunan, bod Rebecca Strange ar y rhestr fer am wobr Asesydd y Flwyddyn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rebecca-strange\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7903","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7903","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7903"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7903\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7903"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7903"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7903"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}