{"id":7906,"date":"2021-03-22T11:45:26","date_gmt":"2021-03-22T11:45:26","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7906"},"modified":"2021-03-21T11:07:37","modified_gmt":"2021-03-21T11:07:37","slug":"matt-redd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/matt-redd\/","title":{"rendered":"Matt yn defnyddio\u2019i brofiad yn y diwydiant creadigol cystadleuol i hyfforddi prentisiaid"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/matt-redd\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/matt-redd\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13433\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13433\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Matt-Redd-11-land-scaled-e1616324674270.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13433\" \/><p id=\"caption-attachment-13433\" class=\"wp-caption-text\">Matt Redd, dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol.<\/p><\/div>\n<p>Ar \u00f4l treulio dros 20 mlynedd yn gweithio ar flaen y gad ym myd y diwydiannau creadigol sy\u2019n newid mor gyflym, mae Matt Redd yn deall yn iawn beth yw anghenion hyfforddi pobl sy\u2019n cychwyn ar yrfa yn y busnes.<\/p>\n<p>Ac yntau\u2019n awdur ac yn gynhyrchydd dram\u00e2u ffilm a theledu, bu Matt, sy\u2019n 41 oed, yn gweithio i\u2019r darparwr hyfforddiant Sgil Cymru ers pum mlynedd, yn asesydd llawrydd ar Brentisiaethau yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol.<\/p>\n<p>Bu\u2019n asesu prentisiaid gwisgoedd ar Pobol y Cwm, prentisiaid digidol ar raglenni ffeithiol yn ITV a phrentisiaid \u00f4l-gynhyrchu oedd yn golygu Casualty, ymhlith eraill. Mae\u2019n sicrhau bod ei ddulliau asesu\u2019n cyd-fynd ag arferion gweithio pob cynhyrchiad, gan ymwneud \u00e2\u2019r dysgwyr yn eu gweithle heb amharu ar y gwaith.<\/p>\n<p>Yn awr, mae wedi\u2019i gydnabod am ei waith trwy gyrraedd y rhestr fer am wobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<br \/>\nCaiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, bu Matt, sy\u2019n byw yng Nghaerdydd, yn cydweithio \u00e2 dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain i helpu prentis ifanc dwys-fyddar i deimlo\u2019n ddiogel ac yn gyfforddus gan roi\u2019r un rhyddid iddo ef ag i eraill yn yr un r\u00f4l.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019n syndod ei fod ef, fel llawer o ddysgwyr Matt, wedi cwblhau ei brentisiaeth yn gynnar.<\/p>\n<p>Mae Matt yn rhedeg ei gwmni cynhyrchu ei hunan, Standoff Pictures Ltd, sy\u2019n cydweithio\u2019n agos \u00e2 Sgil Cymru a Stiwdios Seren Great Point. Ac oddi yno ac o stiwdios gweithiol eraill y mae\u2019n rhedeg dyddiau recriwtio lle gwahoddir darpar brentisiaid i gyfarfod \u00e2 chyflogwyr posibl.<\/p>\n<p>Dywedodd Matt: \u201cMae mwy i brentisiaethau na chymhwyster; maent yn fan cychwyn ar gyfer datblygu doniau mewn diwydiant heriol ac eithriadol gystadleuol lle mae cysylltiadau\u2019n hanfodol.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd pennaeth hyfforddiant Sgil Cymru, Nadine Roberts: \u201cMae Matt yn gallu cydbwyso\u2019r angen i addasu i ofynion y dysgwyr \u00e2\u2019r angen i ymestyn eu galluoedd. Mae\u2019n gosod safonau uchel iddo\u2019i hunan a\u2019i ddysgwyr.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Lewis Stephens, a gwblhaodd brentisiaeth yn llwyddiannus o dan ofal Matt: \u201cGwnaeth Matt hi\u2019n eithriadol o hawdd i mi ddeall beth roedd angen ei wneud ym mhob uned. Doedd gen i ddim profiad o gwbl ar y dechrau ac nawr mae gen i swydd gyda\u2019r BBC. Matt wnaeth hyn yn bosibl.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Ar \u00f4l treulio dros 20 mlynedd yn gweithio ar flaen y gad ym myd y diwydiannau creadigol sy\u2019n newid mor gyflym, mae Matt Redd yn deall yn iawn beth yw anghenion hyfforddi pobl sy\u2019n cychwyn ar yrfa &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/matt-redd\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7906","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7906","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7906"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7906\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7906"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7906"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7906"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}