{"id":7910,"date":"2021-03-22T12:00:20","date_gmt":"2021-03-22T12:00:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7910"},"modified":"2021-03-21T11:12:33","modified_gmt":"2021-03-21T11:12:33","slug":"lydia-harris","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lydia-harris\/","title":{"rendered":"Lydia\u2019r asesydd yn hyfforddi\u2019r genhedlaeth nesaf o reolwyr"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/lydia-harris\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lydia-harris\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13436\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13436\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Lydia-Harris-50-land-scaled-e1616324936943.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13436\" \/><p id=\"caption-attachment-13436\" class=\"wp-caption-text\">Mae Lydia Harris wedi datblygu gyrfa lwyddiannus yn hyfforddi rheolwyr.<\/p><\/div>\n<p>Hyblygrwydd, y gallu i dalu sylw i fanylion a sgiliau trefnu da \u2013 dyna rai elfennau sy\u2019n allweddol i lwyddiant Lydia Harris yn hyfforddi rheolwyr.<\/p>\n<p>A hithau wedi gweithio i JGR Training, Pen-y-bont ar Ogwr ers degawd, bu gan Lydia nifer o gleientiaid blaenllaw, fel y Senedd a\u2019r Asiantaeth Safonau Bwyd.<\/p>\n<p>Dywedodd Lydia, sy\u2019n 37 oed: \u201cRoedd fy enwebiad ar gyfer gwobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn dipyn o sioc ond mae\u2019n braf cael eich cydnabod ac rwy\u2019n credu fy mod wir yn mynd yr ail filltir yn fy ngwaith.\u201d<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, daeth Lydia\u2019n gyfrifol am waith Sgiliau Hanfodol JGR, mae wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac mae\u2019n gweithio tuag at Ddiploma Lefel 4 y<br \/>\nSefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).<\/p>\n<p>Yn awr, mae Lydia wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<br \/>\nCaiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Man cychwyn Lydia a\u2019r peth pwysicaf iddi, fel asesydd, yw sicrhau ei bod yn deall anghenion ei dysgwyr ac yna\u2019i bod yn creu ac yn cyflwyno cynllun dysgu unigol i\u2019w helpu i gyrraedd eu targedau.<\/p>\n<p>Gan fod ganddi gleientiaid amrywiol iawn, mae Lydia\u2019n treulio amser yn dysgu am wahanol ddiwydiannau ac yn dod i\u2019w deall nhw a\u2019r jargon sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 phob busnes.<\/p>\n<p>Dywed bod ei chyfarfodydd misol gyda\u2019r Quality Skills Alliance a sesiynau diweddaru Sgiliau Hanfodol bob chwarter yn ei helpu i feithrin ei sgiliau ei hunan. Bu dysgu i ddefnyddio Microsoft Teams yn enghraifft dda o hyn oherwydd bu\u2019n rhaid i Lydia gefnogi ei dysgwyr yn ystod y pandemig a hithau\u2019n gweithio gartref ym Maesteg.<\/p>\n<p>Dywedodd cyd-asesydd iddi gyda JGR Training, Lisa Moore: \u201cMae Lydia\u2019n ymddwyn fel mentor i\u2019r t\u00eem hyfforddi. Yn aml iawn, hi yw\u2019r cyntaf i arbrofi \u00e2 thechnolegau newydd a s\u00f4n wrth eraill am arferion gorau a syniadau defnyddiol.\u201d<\/p>\n<p>Ac meddai Delyth Lewis, sy\u2019n gweithio tuag at gymhwyster ILM Lefel 4: \u201cHeb amynedd ac arbenigedd Lydia, fyddwn i ddim wedi cael y fath flas ar ddysgu nac wedi bod mor frwd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Hyblygrwydd, y gallu i dalu sylw i fanylion a sgiliau trefnu da \u2013 dyna rai elfennau sy\u2019n allweddol i lwyddiant Lydia Harris yn hyfforddi rheolwyr. A hithau wedi gweithio i JGR Training, Pen-y-bont ar Ogwr ers degawd, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lydia-harris\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7910","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7910","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7910"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7910\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7910"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7910"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7910"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}