{"id":7942,"date":"2021-03-29T11:45:59","date_gmt":"2021-03-29T10:45:59","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7942"},"modified":"2021-03-25T20:26:25","modified_gmt":"2021-03-25T20:26:25","slug":"chloe-harvey","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/chloe-harvey\/","title":{"rendered":"Taith ddysgu lwyddiannus Chloe yn cychwyn \u00e2 Hyfforddeiaeth"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/chloe-harvey\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/chloe-harvey\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13470\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13470\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Chloe-Harvey-15-land-scaled-e1616703856725.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13470\" \/><p id=\"caption-attachment-13470\" class=\"wp-caption-text\">Chloe Harvey, dysgu sgiliau i ddatblygu ei gyrfa.<\/p><\/div>\n<p>Er ei bod yn eithriadol o swil pan adawodd yr ysgol, erbyn hyn, ar \u00f4l cychwyn taith ddysgu ar Raglen Hyfforddeiaeth gan Lywodraeth Cymru, mae Chloe Harvey yn weithwraig hyderus.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l penderfynu nad oedd am fynd i\u2019r chweched dosbarth yn yr ysgol, aeth Chloe, 19, o Gil-maen, ger Penfro, i wneud Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gweinyddu Busnes gyda\u2019r darparwr dysgu PRP Training Ltd. Fe wnaeth hyn ei hysbrydoli i gael mwy o ffydd ynddi hi ei hunan.<\/p>\n<p>Diolch i\u2019w hyder newydd, cafodd Chloe leoliad gwaith gyda Genpower Ltd, Doc Penfro ac, er ei bod yn nerfus ar y dechrau, fe wnaeth y fath argraff nes bod y cwmni wedi creu prentisiaeth newydd fel y gallent ei chyflogi.<\/p>\n<p>Ers hynny, mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes ac wedi datblygu sgiliau ym maes trefnu, gwasanaethu cwsmeriaid a TG i\u2019w galluogi i addasu\u2019n hwylus i weithio gartref yn ystod pandemig Covid-19.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Chloe wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaeth (Lefel 1) yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<br \/>\nTrefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Bwriad Chloe yw symud ymlaen i wneud Prentsiaeth mewn Gweinyddu Busnes pan aiff yn \u00f4l i weithio yn y swyddfa ac, ar hyn o bryd, mae\u2019n helpu i hyfforddi aelodau newydd t\u00eem Genpower.<\/p>\n<p>Diolchodd Chloe i PRP Training, sydd wedi darparu ei holl hyfforddiant, ac i Genpower am eu cefnogaeth a\u2019u hanogaeth sydd wedi\u2019i galluogi i symud ymlaen yn ei gyrfa.<\/p>\n<p>\u201cMae fy sgiliau a fy hyder yn tyfu trwy\u2019r amser,\u201d meddai Chloe. \u201cAr y cyfan, bu\u2019n brofiad ardderchog o ddysgu ac rwy\u2019n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu yn fy ngwaith.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Laura Brockway, uwch-reolwr galwedigaethol PRP Training, iddo fod yn brofiad braf iawn gwylio Chloe yn blodeuo ar ei thaith ddysgu.<\/p>\n<p>\u201cFe welson ni Chloe yn datblygu o safbwynt personol a phroffesiynol yn ystod ei chyfnod gyda ni, gan ei gwthio ei hunan i oresgyn ofnau a rhwystrau er mwyn cyrraedd ei nod.<\/p>\n<p>\u201cBu\u2019n drawsnewidiad enfawr wrth iddi ddatblygu\u2019n fenyw ifanc hyderus a medrus. Mae ei gweld mor hyderus erbyn hyn yn gwneud fy ngwaith yn werth chweil. Mae pawb yma\u2019n falch iawn o\u2019r hyn y mae wedi\u2019i gyflawni.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Er ei bod yn eithriadol o swil pan adawodd yr ysgol, erbyn hyn, ar \u00f4l cychwyn taith ddysgu ar Raglen Hyfforddeiaeth gan Lywodraeth Cymru, mae Chloe Harvey yn weithwraig hyderus. Ar \u00f4l penderfynu nad oedd am fynd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/chloe-harvey\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7942","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7942","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7942"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7942\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7942"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7942"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7942"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}