{"id":7949,"date":"2021-03-29T20:33:35","date_gmt":"2021-03-29T19:33:35","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7949"},"modified":"2021-03-29T20:33:35","modified_gmt":"2021-03-29T19:33:35","slug":"iestyn-morgan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/iestyn-morgan\/","title":{"rendered":"Llysgennad yn awyddus i hyrwyddo prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/iestyn-morgan\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/iestyn-morgan\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13479\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13479\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Iestyn-Morgan-land-e1617046172875.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"329\" class=\"size-full wp-image-13479\" \/><p id=\"caption-attachment-13479\" class=\"wp-caption-text\">Iestyn Morgan, Llysgennad Prentisiaethau.<\/p><\/div>\n<p>Roedd cael gwneud ei brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i Iestyn Morgan sydd wedi cael ei holl addysg a hyfforddiant hyd yma yn ei iaith gyntaf.<\/p>\n<p>Mae Iestyn, 25, rheolwr y bar yng ngwesty llwyddiannus yr Harbwrfeistr yn Aberaeron, wedi cwblhau ei Brentisiaeth mewn Arweinyddiaeth a Goruchwyliaeth Lletygarwch gyda Hyfforddiant Cambrian ac mae\u2019n ystyried symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch.<\/p>\n<p>Oherwydd ei frwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg a phrentisiaethau, cafodd ei benodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cCymraeg yw fy iaith gynta a dyna rwy\u2019n mwynhau ei siarad gartre, yn y gwaith a gyda ffrindiau,\u201d meddai Iestyn. \u201cRwy\u2019n credu ei bod yn bwysig iawn bod cyfleoedd ar gael i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac, wrth fod yn Llysgennad Prentisiaethau, rwy\u2019n gallu dangos i brentisiaid eraill ei bod yn bosibl.<\/p>\n<p>\u201cMae fy mhrentisiaeth wedi gwella fy sgiliau ym mhob agwedd ar fy ngwaith yn yr Harbwrfeistr a\u2019r tu allan. Mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ac wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o fy swydd a sut i arwain t\u00eem.\u201d<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gadael yr ysgol \u00e2 dwy Lefel A, BTEC mewn Technoleg Cerddoriaeth a Bagloriaeth Cymru, treuliodd Iestyn flwyddyn gap yn gweithio yn yr Harbwrfeistr cyn mynd i wneud Gradd mewn Technoleg Cerddoriaeth.<\/p>\n<p>Oherwydd ei gariad at Geredigion, daeth yn \u00f4l i Aberaeron a chael ei swydd lawn-amser bresennol. Yn ogystal \u00e2\u2019i waith, mae\u2019n chwarae cerddoriaeth bop acwstig yn Gymraeg gyda Gwenno, ei chwaer, ac mae\u2019n chwarae mewn band gyda ffrindiau o\u2019r brifysgol.<\/p>\n<p>Cyn cyfnod clo Covid-19, llwyddodd Iestyn i gyfuno\u2019i waith a\u2019i ganu pan gafodd ef a Gwenno gyfle i gefnogi Bryn F\u00f4n mewn perfformiad yn yr Harbwrfeistr.<\/p>\n<p>Dywed Iestyn ei fod yn hapus i symud ymlaen \u00e2\u2019i yrfa ym myd lletygarwch yn yr Harbwrfeistr ond bod ganddo un llygad ar gyfleoedd i recordio, cynhyrchu a gwneud gwaith theatr er mwyn defnyddio\u2019i sgiliau ym myd technoleg cerddoriaeth.<\/p>\n<p>Roedd yn canmol y gefnogaeth a gafodd gan y swyddog hyfforddiant Hazel Thomas yn Hyfforddiant Cambrian a enwebodd ef i fod yn Llysgennad Prentisiaethau.<\/p>\n<p>\u201cMae Iestyn yn Llysgennad ardderchog dros y Gymraeg a gall annog dysgwyr eraill sy\u2019n awyddus i wneud prentisiaeth yn eu mamiaith,\u201d meddai  hi. \u201cGyda\u2019r platfform dysgu a ddefnyddiwn ni yn Hyfforddiant Cambrian, gall y dysgwyr gyfieithu eu gwaith i\u2019w dewis iaith wrth gyffwrdd botwm, diolch i\u2019r ddyfais gyfieithu newydd a ychwanegwyd at y Cynorthwyydd Dysgu.<\/p>\n<p>\u201cEr mwyn cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o filiwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050, mae\u2019n rhaid i ni roi cyfle i brentisiaid ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a gall y sg\u00ecl honno eu helpu i gael gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r ail flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Roedd cael gwneud ei brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i Iestyn Morgan sydd wedi cael ei holl addysg a hyfforddiant hyd yma yn ei iaith gyntaf. Mae Iestyn, 25, rheolwr y bar yng ngwesty &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/iestyn-morgan\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7949","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7949","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7949"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7949\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7949"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7949"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7949"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}