{"id":7954,"date":"2021-04-07T13:42:47","date_gmt":"2021-04-07T12:42:47","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7954"},"modified":"2021-04-07T13:44:40","modified_gmt":"2021-04-07T12:44:40","slug":"llio-jones","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/llio-jones\/","title":{"rendered":"Llio\u2019r llysgennad yn frwd o blaid prentisiaethau dwyieithog"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/llio-jones\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/llio-jones\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13484\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13484\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Llio-Jones-e1617799134777.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"374\" class=\"size-full wp-image-13484\" \/><p id=\"caption-attachment-13484\" class=\"wp-caption-text\">Llio Bryn Jones, sy\u2019n brentis.<\/p><\/div>\n<p>Mae Llio Bryn Jones sy\u2019n brentis gydag Urdd Gobaith Cymru wedi hen arfer \u00e2 r\u00f4l llysgennad. Mae\u2019n falch o\u2019i chefndir amaethyddol ac o\u2019r iaith Gymraeg ac mae yn ei helfen yn hyfforddi pobl mewn gwahanol chwaraeon.<\/p>\n<p>Penodwyd Llio, 18, o Henllan, ger Dinbych, yn Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru a\u2019r NTfW sy\u2019n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>Fel llysgennad, mae\u2019n hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog ac yn annog rhagor o bobl i siarad Cymraeg, yn enwedig yn y gweithle.<\/p>\n<p>Bu Llio yn Llysgennad Ifanc Platinwm gyda\u2019r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid yng Nghymru ac yn Llysgennad Chwaraeon Ifanc yn Sir Ddinbych. Hefyd, hi oedd Gwirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn yn Sir Ddinbych yn 2019.<\/p>\n<p>Cafodd addysg Gymraeg yn Ysgol Llannefydd ac Ysgol Glan Clwyd ac yn awr mae\u2019n gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn mewn Arwain Gweithgareddau gyda\u2019r Urdd.<\/p>\n<p>\u201cDoedd gen i ddim awydd mynd i\u2019r brifysgol ac mae\u2019r Urdd wedi rhoi cyfle gwych i mi wireddu fy nymuniad i fod yn hyfforddwr chwaraeon,\u201d meddai Llio sydd \u00e2\u2019i theulu\u2019n ffermio defaid a gwartheg b\u00eeff.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n well o lawer gen i brentisiaeth gan nad ydw i\u2019n gyfforddus yn yr ystafell ddosbarth. Rydych chi\u2019n cael cymaint o brofiad ymarferol a chyfarfod \u00e2 phobl arbennig iawn wrth weithio ac ennill cymwysterau fydd yn eich helpu yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>Uchelgais Llio yw bod yn swyddog datblygu chwaraeon ac mae eisoes wedi ennill amryw o gymwysterau ym meysydd iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a hyfforddi chwaraeon i\u2019w helpu i symud ymlaen.<\/p>\n<p>Yn ystod cyfnod Covid-19, yn hytrach na darparu gweithgareddau chwaraeon i blant mewn ysgolion ac yn y gymuned, mae wedi addasu i\u2019w darparu yn ddigidol. \u201cMae\u2019r plant wrth eu bodd \u00e2\u2019r sesiynau gweithgareddau rhithwir, fel gymnasteg a ph\u00eal rwyd,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Wrth s\u00f4n am ei chariad at yr iaith Gymraeg a\u2019i r\u00f4l fel Llysgennad Prentisiaethau, dywedodd Llio ei bod yn awyddus i sicrhau bod pobl ifanc eraill yn cael gwybod am gyfleoedd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n bwysig i mi fy mod yn cael gwneud gwaith sydd wrth fy modd trwy gyfrwng y Gymraeg,\u201d esboniodd. \u201cMae\u2019r iaith Gymraeg yn rhan ohonof i. Mae\u2019n help mawr i rywun os ydyn nhw\u2019n gallu siarad dwy iaith ac mae rhai cwmn\u00efau\u2019n chwilio am bobl \u00e2\u2019r gallu hwnnw.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Catrin Davis, rheolwr prentisiaethau\u2019r Urdd, fod Llio wedi dechrau ei phrentisiaeth fis Medi diwethaf a\u2019i bod yn dod ymlaen yn dda trwy addasu i gael gwersi arweinyddiaeth ar lein.<\/p>\n<p>\u201cMae Llio\u2019n llysgennad gwych ac yn aelod o Gr\u0175p Llywio ein Fforwm Prentisiaethau,\u201d meddai. \u201cMae ein holl waith ni yn yr Urdd yn anelu at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050.<\/p>\n<p>\u201cRhan bwysig arall o\u2019n gwaith yw galluogi pobl ifanc i addasu eu sgiliau yn y Gymraeg i\u2019w defnyddio yn y gweithle.\u201d<\/p>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r ail flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Llio Bryn Jones sy\u2019n brentis gydag Urdd Gobaith Cymru wedi hen arfer \u00e2 r\u00f4l llysgennad. Mae\u2019n falch o\u2019i chefndir amaethyddol ac o\u2019r iaith Gymraeg ac mae yn ei helfen yn hyfforddi pobl mewn gwahanol chwaraeon. Penodwyd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/llio-jones\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7954","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7954","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7954"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7954\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7954"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7954"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7954"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}