{"id":7957,"date":"2021-04-15T10:29:32","date_gmt":"2021-04-15T09:29:32","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7957"},"modified":"2021-04-15T10:29:32","modified_gmt":"2021-04-15T09:29:32","slug":"poppy-evans","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/poppy-evans\/","title":{"rendered":"Poppy\u2019r Llysgennad yn gwneud iawn am amser a gollwyd trwy ddilyn Prentisiaeth Uwch"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/poppy-evans\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/poppy-evans\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13488\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13488\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Poppy-Evans-20-land-scaled-e1618478721200.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"291\" class=\"size-full wp-image-13488\" \/><p id=\"caption-attachment-13488\" class=\"wp-caption-text\">Poppy Evans, Llysgennad Prentisiaethau.<\/p><\/div>\n<p>Mae gan Poppy Evans yrfa addawol mewn llywodraeth leol diolch i Brentisiaeth Uwch.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l astudio\u2019r gyfraith yn y brifysgol am ddwy flynedd, penderfynodd Poppy, 24, o Gaerfyrddin nad hwnnw oedd y cwrs iddi hi ac aeth ati i wneud iawn am yr amser a gollwyd trwy wneud prentisiaeth fel cynorthwyydd cymorth busnes gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae\u2019n symud ymlaen yn ei gyrfa a chafodd ddyrchafiad yn ddiweddar i fod yn swyddog digidol recriwtio ac ymgysylltu \u00e2 theuluoedd gyda chyfrifoldeb am waith marchnata a chyfathrebu ar ran gwasanaethau plant a theuluoedd y cyngor. Ei huchelgais yw dringo i fod yn un o\u2019r uwch-reolwyr.<\/p>\n<p>Mae Poppy yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Busnes a Gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd addysg Gymraeg yn yr ysgol a\u2019r brifysgol er nad oedd ei rhieni\u2019n siarad yr iaith.<\/p>\n<p>Gan ei bod mor frwd o blaid y Gymraeg a phrentisiaethau, penodwyd hi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru a\u2019r NTfW sy\u2019n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n falch o gael bod yn Llysgennad Prentisiaethau ac rwy\u2019n edrych ymlaen at ddangos bod prentisiaethau\u2019n addas i bobl o bob oed a phob cefndir,\u201d meddai Poppy.<\/p>\n<p>\u201cYn sicr, chefais i ddim gwybod am y posibilrwydd o wneud prentisiaeth pan oeddwn i yn yr ysgol ond hoffwn feddwl y bydd fy chwaer iau yn cael gwybod am yr holl opsiynau sy\u2019n agored iddi pan fydd hi\u2019n cyrraedd y cyfnod hwnnw. Mae cyfrifoldeb ar ysgolion i arwain a mentora eu myfyrwyr.<\/p>\n<p>\u201cPe bawn i wedi dechrau ar brentisiaeth yn lle mynd i\u2019r brifysgol, mae\u2019n fwy na thebyg y byddwn i yn un o\u2019r uwch-reolwyr erbyn hyn.\u201d<\/p>\n<p>Gan droi at ei chariad at y Gymraeg, dywedodd Poppy: \u201cO safbwynt polis\u00efau cenedlaethol, mae\u2019r pwyslais ar ddwyieithrwydd yn gryf ac yn cryfhau. Mae bod yn ddwyieithog yn sicr yn fuddiol pan fyddwch yn ymgeisio am swydd broffesiynol yma yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Fel rhan o\u2019i gwaith, mae\u2019n ymdrechu i hyrwyddo\u2019r iaith Gymraeg yn unol \u00e2 pholisi dwyieithog y cyngor ac mae\u2019n Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant, gan ganolbwyntio\u2019n neilltuol ar faeth.<\/p>\n<p>Dywedodd Julie Mason-Davies, uwch-asesydd LRC Training: \u201cPob clod i Poppy am gael ei phenodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau. Mae\u2019n rhywbeth i ymfalch\u00efo ynddo.<\/p>\n<p>\u201cEr ei bod yn rhugl yn y Gymraeg, mae\u2019n un o\u2019r ychydig bobl sydd wedi dewis gwneud y Brentisiaeth Uwch trwy gyfrwng yr iaith. Fel rhan o\u2019i swydd, mae\u2019n ymroi i hyrwyddo defnydd o\u2019r iaith ac mae wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau i wneud hynny.\u201d<\/p>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r ail flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae gan Poppy Evans yrfa addawol mewn llywodraeth leol diolch i Brentisiaeth Uwch. Ar \u00f4l astudio\u2019r gyfraith yn y brifysgol am ddwy flynedd, penderfynodd Poppy, 24, o Gaerfyrddin nad hwnnw oedd y cwrs iddi hi ac aeth &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/poppy-evans\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7957","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7957","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7957"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7957\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7957"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7957"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7957"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}