{"id":7960,"date":"2021-04-19T17:04:28","date_gmt":"2021-04-19T16:04:28","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7960"},"modified":"2021-04-19T17:04:28","modified_gmt":"2021-04-19T16:04:28","slug":"michelle-dolan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/michelle-dolan\/","title":{"rendered":"Michelle yn datblygu gyrfa lwyddiannus ar \u00f4l ffoi rhag cam-drin domestig"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/michelle-dolan\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/michelle-dolan\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13399\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/09.03.21-mh-NTFW-Michelle-Dolan-29-scaled-e1615408273843.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13399\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/09.03.21-mh-NTFW-Michelle-Dolan-29-scaled-e1615408273843.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13399\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13399\" class=\"wp-caption-text\">Mae Michelle Dolan wedi adeiladu bywyd newydd iddi hi a\u2019i meibion.<\/p><\/div>\n<p>Mae menyw sydd wedi datblygu gyrfa lwyddiannus a magu pedwar mab ar ei phen ei hunan ar \u00f4l dioddef cam-drin domestig yn gobeithio y bydd ei stori\u2019n ysbrydoli menywod eraill i gredu ynddyn nhw eu hunain.<\/p>\n<p>Roedd bywyd Michelle Dolan, sy\u2019n 46 oed, ar chwal pan ddihangodd hi a\u2019i meibion o\u2019u cartref ond erbyn hyn, 17 mlynedd yn ddiweddarach, mae\u2019n mwynhau bywyd a hithau\u2019n ddirprwy reolwr cartref preswyl ar gyfer oedolion \u00e2 phroblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yng Nghlydach, ger Abertawe.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gweithio rhan amser tra oedd yn magu ei meibion, sydd rhwng 18 a 23 oed erbyn hyn, penderfynodd Michelle blymio i\u2019r pen dwfn bum mlynedd yn \u00f4l a churo ar ddrws cartref Awelon, Clydach a gofyn am swydd.<\/p>\n<p>Cafodd ffurflen gais ac yna gyfweliad a chael swydd fel gweithiwr cymorth. Ers hynny, mae Michelle wedi dringo ysgol gyrfa yn y cartref, gan ddod yn ddirprwy reolwr sy\u2019n arwain t\u00eem o 17 aelod o staff.<\/p>\n<p>Gan fod ganddi gymaint o feddwl o\u2019i swydd, y cartref, ei chydweithwyr a\u2019r bobl y mae\u2019n gofalu amdanynt, mae Michelle wedi penderfynu gwella\u2019i sgiliau a\u2019i gwybodaeth trwy Raglen Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Er ei bod wedi gadael byd addysg ers 20 mlynedd, cwblhaodd Michelle Brentisiaeth (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) Lefel 3) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yna, cafodd ei hannog gan asesydd PeoplePlus, Yvonne Hammond, i symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch, QCF Lefel 5 Uwch, gan barhau i\u2019w chefnogi i gwblhau Dyfarniad Rheolwyr Cofrestredig QCF Lefel 5.<\/p>\n<p>I\u2019w helpu i gwblhau\u2019r fframwaith a symud ymlaen, aeth Michelle ati i wella\u2019i sgiliau mewn Saesneg a Mathemateg. Erbyn hyn mae\u2019n Rheolwr Gofal Cofrestredig ac mae\u2019n gobeithio parhau \u00e2\u2019i thaith ddysgu trwy wneud Prentisiaeth Uwch gyda\u2019r Sefydliad Rheolaeth.<\/p>\n<p>\u201cYn fuan ar \u00f4l dechrau gweithio gydag Awelon Healthcare, roeddwn i\u2019n gwybod mai dyna oedd y lle i mi,\u201d meddai Michelle. \u201cGall y gwaith fod yn heriol iawn ar brydiau ond mae llawer o foddhad i\u2019w gael hefyd.<\/p>\n<p>\u201cDyw e ddim yn teimlo fel gwaith am fy mod yn ei fwynhau gyaint. Rwy wrth fy modd yn ymwneud \u00e2 defnyddwyr y gwasanaethau a\u2019n gweld sut y maen nhw\u2019n symud ymlaen gyda ni.<\/p>\n<p>\u201cBrwdfrydedd a chefnogaeth Yvonne oedd y sbardun i fi symud ymlaen i\u2019r Brentisiaeth Uwch ac rwy\u2019n falch iawn o\u2019r hyn rwy wedi\u2019i gyflawni. Mae\u2019r cymwysterau wedi newid fy mywyd mewn sawl ffordd.\u201d<\/p>\n<p>Mae Michelle yn gobeithio y bydd ei stori hi\u2019n ysbrydoli menywod eraill sydd wedi dianc o berthynas lle maen nhw\u2019n cael eu cam-drin a dyma yw ei chyngor iddyn nhw: \u201cCamwch ymlaen un dydd ar y tro, gosodwch dargedau bach i chi\u2019ch hunan a chredu ynoch chi\u2019ch hunan.<\/p>\n<p>\u201cPan adewais i fy nghyn-\u0175r, roeddwn i wedi colli fy hyder a fy hunan-fri i gyd. Roeddwn i\u2019n teimlo mod i\u2019n hollol ddi-werth fel person ac fel mam. Erbyn hyn, rwy wrth fy modd yn fy ngwaith, mae gen i gymwysterau ac rwy\u2019n batrwm i fy meibion \u2013 pob un ohonyn nhw\u2019n gwneud yn dda.<\/p>\n<p>\u201cMae fy hen fywyd yn teimlo fel breuddwyd gan fy mod wedi dod ymlaen mor bell. Rwy wedi dangos bod popeth yn bosibl os credwch ynoch chi\u2019ch hunan.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Yvonne yn llawn canmoliaeth i Michelle am barhau i ddysgu, ac am ei sgiliau arwain a\u2019i hymroddiad. \u201cMae\u2019n ymroi, nid yn unig i ennill cymwysterau a datblygu\u2019n bersonol ond hefyd i\u2019r sefydliad y mae\u2019n gweithio iddi, i\u2019w chydweithwyr ac i\u2019r bobl y mae\u2019n eu cefnogi.<\/p>\n<p>\u201cMae lles y bobl y mae\u2019n eu cefnogi ac ansawdd eu bywyd yn cael blaenoriaeth ganddi bob amser.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchwyd Michelle am ei thaith ddysgu ysbrydoledig gan Humie Webbe,  Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ar gyfer Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<br \/>\n\u201cMae stori Michelle yn dangos beth y gallwch ei gyflawni trwy fod yn benderfynol a chael cefnogaeth addas,\u201d meddai Humie. \u201cEin gweledigaeth ni yw creu amgylchedd dysgu sy\u2019n rhoi cyfle i bawb wireddu eu potensial trwy eu doniau a gwaith caled, beth bynnag yw eu cefndir.<\/p>\n<p>\u201cRydym am sicrhau bod pobl yn sylweddoli bod prentisiaethau\u2019n agored i bawb a bod y rhwystrau sy\u2019n atal pobl rhag cymryd rhan ynddynt yn cael eu chwalu.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae menyw sydd wedi datblygu gyrfa lwyddiannus a magu pedwar mab ar ei phen ei hunan ar \u00f4l dioddef cam-drin domestig yn gobeithio y bydd ei stori\u2019n ysbrydoli menywod eraill i gredu ynddyn nhw eu hunain. Roedd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/michelle-dolan\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7960","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7960","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7960"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7960\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7960"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7960"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7960"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}