{"id":7964,"date":"2021-05-04T09:38:55","date_gmt":"2021-05-04T08:38:55","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7964"},"modified":"2021-05-04T09:38:55","modified_gmt":"2021-05-04T08:38:55","slug":"zach-chapman","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/zach-chapman\/","title":{"rendered":"Prentis yn goresgyn anabledd gan anelu at fod yn hyfforddwr personol"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/zach-chapman\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/zach-chapman\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13392\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/KFP_4349-scaled-e1615407876368.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13392\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/KFP_4349-scaled-e1615407876368.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13392\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13392\" class=\"wp-caption-text\">Zach Chapman, yn goresgyn anabledd i ddatblygu gyrfa fel hyfforddwr personol.<\/p><\/div>\n<p>Mae\u2019r prentis poblogaidd Zach Chapman yn gwrthod gadael i\u2019w anabledd ei rwystro rhag dilyn ei uchelgais o fod yn hyfforddwr personol.<\/p>\n<p>Mae parlys yr ymennydd atacsig yn amharu ar gydsymudiad, cydbwysedd a lleferydd Zach, 20, o Gei Connah. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed heb wybod pa lwybr gyrfa i\u2019w ddilyn ac yn poeni pa gyfleoedd fyddai ar gael iddo.<\/p>\n<p>Ond, oherwydd ei ddiddordeb mewn ffitrwydd, cafodd swydd gyda Lifestyle Fitness, sy\u2019n rhedeg y gampfa yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy, ac mae\u2019n gobeithio cwblhau ei Brentisiaeth mewn Hyfforddi Personol ym mis Ebrill, gyda chymorth y darparwr dysgu Babcock Training.<\/p>\n<p>Treuliodd Zach y rhan fwyaf o\u2019r flwyddyn ddiwethaf ar ffyrlo oherwydd pandemig Covid-19 a bu hynny\u2019n gyfle iddo gwblhau gwaith theori a rhannau ysgrifenedig ei brentisiaeth, rhywbeth mae\u2019n gallu ei wneud yn rhagorol.<\/p>\n<p>Yn ystod y cyfnod clo, cofrestrodd ar gwrs ar-lein HFE Lefel 3 Ymarfer Corff ar gyfer Cleientiaid Anabl a fydd yn arwain at gymhwyster mewn hyfforddi pobl anabl.<\/p>\n<p>Fel rhan o\u2019i brentisiaeth, bu Zach yn arwain dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein i ddau gleient, cafodd yr holl waith a osodwyd iddo ei gwblhau\u2019n brydlon, a bu mewn sesiynau hyfforddi ar-lein. Bu Babcock yn cynnig cymorth un-i-un o bell dros Microsoft Teams er mwyn sicrhau nad oedd y cyfnod clo yn ei ddal yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Oherwydd ei anabledd, roedd Zach yn nerfus ynghylch siarad \u00e2 chwsmeriaid i ddechrau ond mae\u2019r brentisiaeth wedi rhoi hwb i\u2019w hyder, ei wybodaeth a\u2019i sgiliau.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n ddiolchgar iawn i Lifestyle Fitness am y cyfle i wneud y brentisiaeth \u2013 wnes i erioed ddychmygu y cawn i\u2019r fath gyfle,\u201d meddai Zach. \u201cRoeddwn i braidd yn amheus  ar y dechrau o faint y gaIlwn i ei wneud ond dwi wedi synnu fy hunan.<\/p>\n<p>\u201cPan adewais i\u2019r ysgol yn 16 oed, doedd gen i ddim gwaith na phrentisiaeth a wnes i ddim dechrau gweithio tan ro\u2019n i\u2019n 19. Dwi\u2019n credu y dylai fod mwy o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc, yn enwedig rai ag anableddau.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n lwcus iawn fod y bobl sydd o \u2018nghwmpas yn fy nghefnogi \u2013 teulu, ffrindiau, cydweithwyr a fy hyfforddwr.\u201d<\/p>\n<p>Mae Zach yn cynghori pobl ifanc anabl eraill i fynd ati o ddifri i ystyried prentisiaeth. \u201cBeth sydd gennych chi i\u2019w golli?\u201d gofynnodd. \u201cRydw i wedi cyfuno fy niddordeb mewn ffitrwydd \u00e2 swydd \u2013 rhaid i chi gael cydbwysedd rhwng gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau a gwneud bywoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae gen i ffordd bell i fynd i gyrraedd fy nod ond mae\u2019r brentisiaeth wedi bod yn help mawr i mi gyrraedd lle dw i eisiau bod yn fy ngyrfa.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd rheolwr Lifestyle Fitness, Craig Wright, fod y brentisiaeth wedi trawsnewid bywyd Zach trwy roi hwb i\u2019w wybodaeth, ei hyder a\u2019i sgiliau cyfathrebu.<\/p>\n<p>\u201cDydi Zach ddim yn gweld bai mewn pobl eraill, mae bob amser yn awyddus i helpu ac mae\u2019r staff a\u2019r cleientiaid i gyd wrth eu bodd ag o,\u201d meddai. \u201cMae\u2019r math o berson sy\u2019n rhoi profiad da i chi ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers iddo gychwyn ei brentisiaeth.<\/p>\n<p>\u201cPan fydd Zach wedi cael ei gymwysterau i gyd, bydd yn gyfle i ni gael hyfforddwr personol ychwanegol yn y gampfa. Bydd hynny\u2019n fanteisiol i\u2019n busnes a bydd y cleientiaid yn gallu trefnu sesiynau un-i-un hefo fo.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd hyfforddwr rhanbarthol Babcock Training yn y gogledd, Hannah Jones: \u201cMae Zach yn un da am ddysgu ac mae wedi gwneud yn ardderchog wrth symud ymlaen \u00e2\u2019i brentisiaeth yn ystod y cyfnod clo.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n awyddus iawn i ddysgu ac mae wedi addasu\u2019n dda iawn i ddysgu o bell. Rydan ni\u2019n disgwyl i\u2019r gampfa ailagor r\u0175an fel y gall orffen y gwaith arsyllu a chwblhau ei brentisiaeth.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchwyd Zach ar ei daith ddysgu lwyddiannus gan Humie Webbe,  Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ar gyfer Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>\u201cEin gweledigaeth ni yw creu amgylchedd dysgu sy\u2019n rhoi cyfle i bawb wireddu eu potensial trwy eu doniau a gwaith caled, beth bynnag yw eu cefndir, meddai Humie.<\/p>\n<p>\u201cRydym am sicrhau bod pobl yn sylweddoli bod prentisiaethau\u2019n agored i bawb a bod y rhwystrau sy\u2019n atal pobl rhag cymryd rhan ynddynt yn cael eu chwalu.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae\u2019r prentis poblogaidd Zach Chapman yn gwrthod gadael i\u2019w anabledd ei rwystro rhag dilyn ei uchelgais o fod yn hyfforddwr personol. Mae parlys yr ymennydd atacsig yn amharu ar gydsymudiad, cydbwysedd a lleferydd Zach, 20, o Gei &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/zach-chapman\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7964","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7964","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7964"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7964\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7964"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7964"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7964"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}