{"id":7968,"date":"2021-05-10T16:42:39","date_gmt":"2021-05-10T15:42:39","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7968"},"modified":"2021-09-24T09:47:41","modified_gmt":"2021-09-24T08:47:41","slug":"tom-acreman","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tom-acreman\/","title":{"rendered":"Tom, y Llysgennad Prentisiaethau, yn cael swydd ei freuddwydion gyda\u2019r Urdd"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/tom-acreman\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tom-acreman\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13499\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13499\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Tom-Acreman-1-ls-scaled-e1620661090663.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"308\" class=\"size-full wp-image-13499\" \/><p id=\"caption-attachment-13499\" class=\"wp-caption-text\">Tom Acreman sy\u2019n brentis.<\/p><\/div>\n<p>Bu Tom Acreman yn cynrychioli Cymru mewn gornestau athletau pan oedd yn yr ysgol. Yn awr, mae wedi sicrhau swydd ei freuddwydion yn darparu gweithgareddau chwaraeon mewn ysgolion a chymunedau yng nghymoedd Gwent a Chaerffili, diolch i brentisiaeth gydag Urdd Gobaith Cymru.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae Tom, 21, o Ystrad Mynach, yn cynnig hyfforddiant ar-lein yn unig i blant ledled Cymru ac yntau\u2019n gweithio ar Brentisiaeth mewn (Datblygu) Chwaraeon gyda\u2019r Urdd. Mae eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Arwain Gweithgareddau.<\/p>\n<p>Gan ei fod mor frwd dros hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog, penodwyd ef yn Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>Yn ystod Wythnos Prentisiaethau yn ddiweddar, cymerodd Tom ran mewn ymgyrch lle trefnodd NTfW a CCC i nifer o brentisiaid feddiannu cyfrif Instagram neilltuol er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i brentisiaid yng Nghymru ddefnyddio\u2019r Gymraeg.<\/p>\n<p>Er bod ei rieni\u2019n ddi-Gymraeg, aeth Tom i ysgol gynradd ac ysgol uwchradd Gymraeg a thra oedd yn yr ysgol bu\u2019n cynrychioli Cymru yn rhedeg traws-gwlad a phelltir hir a chafodd dreialon rygbi dan 16 i\u2019r Dreigiau.<\/p>\n<p>Gadawodd yr ysgol cyn mynd i\u2019r chweched dosbarth er mwyn dilyn cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus yn Saesneg yng Ngholeg y Cymoedd ac yna bu\u2019n gweithio mewn siop fferyllydd cyn i ffrind s\u00f4n wrtho am brentisiaethau\u2019r Urdd a fyddai\u2019n rhoi\u2019r cyfle iddo ddefnyddio\u2019i sgiliau mewn chwaraeon.<\/p>\n<p>\u201cI ddweud y gwir, dyma swydd fy mreuddwydion. Rwy wrth fy modd,\u201d meddai Tom. \u201cFe gefais i dair wythnos o brofiad o ddarparu gweithgareddau chwaraeon mewn ysgolion cyn y cyfnod clo cyntaf, felly mae gen i syniad sut fydd pethau pan ddaw\u2019r cyfyngiadau i ben ac rwy\u2019n edrych ymlaen yn ofnadwy.<\/p>\n<p>\u201cRwy wedi dysgu cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf am hyfforddi gwahanol fathau o bobl ac am baratoi\u2019n drwyadl ar gyfer y sesiynau. Mae sesiynau gweithgareddau ar-lein yr Urdd wedi fy helpu i fod yn well hyfforddwr.<\/p>\n<p>\u201cY peth gwych am brentisiaeth yw ei bod yn datblygu\u2019ch sgiliau cam wrth gam, gan eich gwneud yn fwy hyderus ac rwy\u2019n ei chael yn haws dysgu fel yna.\u201d<\/p>\n<p>Wrth s\u00f4n am ei gariad at y Gymraeg a\u2019r cyfle i fod yn llysgennad, dywedodd: \u201cRoedd fy rhieni\u2019n awyddus i mi fynd i ysgol Gymraeg am eu bod yn meddwl y byddai\u2019n agor drysau i mi ym myd busnes.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n falch o gael bod yn Llysgennad Prentisiaethau ac rwy\u2019n awyddus i roi gwybod i bobl ifanc eraill am y cyfleoedd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog, sy\u2019n bwysig iawn i mi.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Catrin Davis, rheolwr prentisiaethau\u2019r Urdd, bod Tom wedi\u2019i ddyfarnu\u2019n Brentis y Mis gyda\u2019r Urdd yn ddiweddar a\u2019i fod yn \u201cllysgennad penigamp\u201d.<\/p>\n<p>\u201cMae Tom yn un o\u2019n prentisiaid mwyaf brwd,\u201d meddai. \u201cRoedd yn un o\u2019r prentisiaid a ddewiswyd i feddiannu\u2019r cyfrif Instagram yn ystod yr Wythnos Prentisiaethau a chymerodd ran mewn gweithgareddau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.<\/p>\n<p>\u201cMae ein holl waith ni yn yr Urdd yn anelu at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Rhan bwysig arall o\u2019n gwaith yw galluogi pobl ifanc i addasu eu sgiliau yn y Gymraeg i\u2019w defnyddio yn y gweithle.\u201d<\/p>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r ail flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bu Tom Acreman yn cynrychioli Cymru mewn gornestau athletau pan oedd yn yr ysgol. Yn awr, mae wedi sicrhau swydd ei freuddwydion yn darparu gweithgareddau chwaraeon mewn ysgolion a chymunedau yng nghymoedd Gwent a Chaerffili, diolch i &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tom-acreman\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7968","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7968","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7968"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7968\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7968"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7968"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7968"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}