{"id":7971,"date":"2021-05-17T20:15:34","date_gmt":"2021-05-17T19:15:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7971"},"modified":"2021-05-17T20:07:28","modified_gmt":"2021-05-17T19:07:28","slug":"gethin-evans","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gethin-evans\/","title":{"rendered":"Llysgennad Prentisiaethau wedi newid gyrfa o fyd argraffu i fod yn blymer"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/gethin-evans\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gethin-evans\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13504\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/gethin-e1621272867384.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13504\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/gethin-e1621272867384.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"323\" class=\"size-full wp-image-13504\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13504\" class=\"wp-caption-text\">Mae Gethin Evans yn mwynhau ei yrfa newydd fel prentis plymer.<\/p><\/div>\n<p>Ar \u00f4l 12 mlynedd yn yr un swydd gyda chwmni argraffu, penderfynodd Gethin Evans newid ei yrfa er mwyn cael gwell dyfodol iddo ef a\u2019i deulu gan fod ei wraig yn disgwyl eu hail blentyn.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, nid yw&#8217;r daith i fod yn blymer wedi bod yn hollol esmwyth, gan ei fod wedi cael tri chyflogwr o fewn tair blynedd \u2013 a hynny heb unrhyw fai arno ef.<\/p>\n<p>Dechreuodd Gethin, 32, o Aberystwyth, ar brentisiaeth gyda ffrind o blymer ond penderfynodd hwnnw symud o&#8217;r ardal ar \u00f4l chwe mis, \u00e2 Gethin yn disgwyl ei ail fab o fewn wythnos.<\/p>\n<p>Yna bu&#8217;n gweithio i fusnes plymio arall am fwy na dwy flynedd cyn colli ei waith ym mis Ionawr oherwydd effaith pandemig Covid-19.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae Gethin, sy\u2019n benderfynol o lwyddo, wedi cael gwaith gydag AHE (Aber Heating Engineers) ac mae wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen i Brentisiaeth mewn Plymio a Gwresogi gyda Hyfforddiant Ceredigion Training.<\/p>\n<p>Er gwaethaf yr heriau y mae wedi\u2019u hwynebu o ran gwaith, nid yw\u2019n difaru gadael ei swydd wreiddiol fel rhwymwr llyfrau gyda chwmni argraffu lle nad oedd ganddo lawer o obaith am ddyrchafiad.<\/p>\n<p>Mae Gethin wrth ei fodd yn brentis plymer, yn cael dysgu crefft newydd, cwrdd \u00e2 phobl newydd a gwneud gwahanol waith bob dydd.<\/p>\n<p>Gan ei fod mor frwd dros yr iaith Gymraeg a phrentisiaethau, cafodd ei benodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>Cymraeg yw iaith gyntaf Gethin ac fe gymerodd ran mewn ymgyrch lle cafodd nifer o brentisiaid feddiannu cyfrif Instagram neilltuol yn ystod Wythnos Prentisiaethau er mwyn rhoi cipolwg i bobl ar ei waith fel prentis. Mae hefyd wedi gwneud fideo dwyieithog i Hyfforddiant Ceredigion Training i\u2019w ddefnyddio yn niwrnod agored y cwmni a gynhaliwyd ar lein.<\/p>\n<p>Mae\u2019n ei chyfrif yn fraint bod yn Llysgennad ac, ar \u00f4l iddo s\u00f4n wrth gyn-gydweithiwr ym maes argraffu am fanteision prentisiaeth, mae hwnnw yn brentis saer erbyn hyn. <\/p>\n<p>Mae Gethin yn deall yr angen i wneud ei brentisiaeth yn Saesneg gan fod y gwerslyfrau i gyd a llawer o\u2019r termau yn Saesneg ond mae\u2019n manteisio ar bob cyfle i siarad Cymraeg \u00e2 phrentisiaid eraill, tiwtoriaid, cydweithwyr a chwsmeriaid.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu ei bod yn bwysig iawn bod cyfleoedd i wneud prentisiaethau yn ddwyieithog lle bo modd ond rwy\u2019n deall bod angen gwneud rhai ohonyn nhw yn Saesneg,\u201d meddai. \u201cEr enghraifft, gallai cyfeithu rhai o\u2019r termau technegol i\u2019r Gymraeg wneud pethau\u2019n rhy gymhleth i ddysgwyr.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n defnyddio cymaint o Gymraeg ag y galla i yn y gwaith er mwyn rhoi hwb i hyder cydweithwyr sy\u2019n deall ac yn siarad ychydig o Gymraeg ond sydd heb yr hyder i\u2019w defnyddio.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu bod prentisiaethau\u2019n wych achos does dim gwell lle i ddysgu\u2019ch crefft nag yn y gweithle. Dyw astudio yn yr ystafell ddosbarth neu ddarllen llyfrau ddim yr un peth \u00e2 chael eich dwylo\u2019n frwnt yn y gwaith. Pe bawn i wedi cael cynnig prentisiaeth yn gynt, byddwn i wedi\u2019i chymryd.<\/p>\n<p>\u201cMae angen i ni newid y syniad sydd gan rai pobl mai dim ond ar gyfer pobl ifanc mae prentisiaethau. Mae angen rhoi mwy o sylw i brentisiaethau mewn ysgolion a\u2019u hyrwyddo fel llwybr gyrfa. Mae llawer o bobl yn mynd i\u2019r brifysgol i wneud gradd nad yw\u2019n arwain at swydd.\u201d<\/p>\n<p>Cafodd Gethin ei enwebu i fod yn Llysgennad Prentisiaethau gan Annabel Cooper, ei asesydd yn Hyfforddiant Ceredigion. \u201cMae Gethin yn frwd iawn dros yr iaith Gymraeg a\u2019i brentisiaeth ond dyw e ddim yn gwneud i neb deimlo\u2019n anghyfforddus am nad ydyn nhw\u2019n deall yr iaith,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r ail flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Ar \u00f4l 12 mlynedd yn yr un swydd gyda chwmni argraffu, penderfynodd Gethin Evans newid ei yrfa er mwyn cael gwell dyfodol iddo ef a\u2019i deulu gan fod ei wraig yn disgwyl eu hail blentyn. Fodd bynnag, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gethin-evans\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7971","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7971","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7971"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7971\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7971"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7971"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7971"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}