{"id":7977,"date":"2021-05-24T18:56:07","date_gmt":"2021-05-24T17:56:07","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7977"},"modified":"2021-05-24T18:56:07","modified_gmt":"2021-05-24T17:56:07","slug":"annwen-roberts","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/annwen-roberts\/","title":{"rendered":"Llysgennad Prentisiaethau\u2019n cynghori disgyblion i ymchwilio i bob opsiwn cyn dewis gyrfa"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/annwen-roberts\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/annwen-roberts\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13512\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13512\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/Annwen-Roberts-4-land-e1621878440683.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"379\" class=\"size-full wp-image-13512\" \/><p id=\"caption-attachment-13512\" class=\"wp-caption-text\">Annwen Roberts, Llysgennad Prentisiaethau.<\/p><\/div>\n<p>Gweinyddes feithrin yw Annwen Roberts ac mae\u2019n cynghori disgyblion ysgol i ymchwilio i\u2019w holl opsiynau cyn penderfynu ar yrfa.<\/p>\n<p>Dewisodd Annwen, 28, o Gwm-ann, ger Llambed, wneud gradd mewn Datblygiad Plentyndod ar \u00f4l gadael yr ysgol ond hoffai pe bai wedi cael gwybod y gallai wneud prentisiaeth yn lle hynny.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu mod i wedi gwastraffu tair blynedd o fy mywyd, i fod yn onest, oherwydd wnaeth y radd ddim arwain at ddim byd,\u201d esboniodd. \u201cRwy\u2019n difaru peidio ag ymchwilio i\u2019r holl opsiynau oedd yn agored i fi. Byddwn i\u2019n sicr wedi dewis gwneud prentisiaeth yn lle mynd i\u2019r brifysgol pe bawn i\u2019n gwybod yr hyn rwy\u2019n ei wybod nawr.\u201d<\/p>\n<p>Mae Annwen, sy\u2019n gweithio ym Meithrinfa Enfys, Cross Inn, ger Llan-non, yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) ddwyieithog mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant gyda\u2019r darparwr dysgu Itec.<\/p>\n<p>Gan ei bod mor frwd dros brentisiaethau a\u2019r iaith Gymraeg, cafodd ei phenodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>Fel rhan o waith Llysgennad, mwynhaodd Annwen gymryd rhan mewn ymgyrch i feddiannu cyfrif Instagram neilltuol yn ystod Wythnos Prentisiaethau er mwyn rhoi cipolwg i bobl ar ei gwaith fel prentis. Mae\u2019n gobeithio cymryd rhan mewn gweithareddau eraill i hyrwyddo\u2019r iaith Gymraeg a phrentisiaethau dwyieithog pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniat\u00e1u.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n fraint cael hyrwyddo\u2019r iaith Gymraeg a phrentisiaethau Cymraeg,\u201d meddai. \u201cHoffwn i berswadio rhagor o bobl i siarad Cymraeg \u2013 fel fy mhartner oedd yn methu siarad Cymraeg pan gwrddon ni wyth mlynedd yn \u00f4l ond sy\u2019n rhugl erbyn hyn.<\/p>\n<p>\u201cGobeithio y gallaf i gyfrannu at gyflawni nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.\u201d<\/p>\n<p>Cafodd Annwen brofiad o weithio mewn meithrinfeydd yng Nghellan a\u2019r Eglwys Newydd, Caerdydd cyn dod adref i weithio bum mlynedd yn \u00f4l. Ei huchelgais yw bod yn arolygydd er mwyn sicrhau bod meithrinfeydd yn cael eu rhedeg yn iawn, gan gynnig y cyfleoedd gorau i blant.<\/p>\n<p>\u201cRwy wrth fy modd yng nghwmni plant, yn eu hannog i archwilio\u2019u hamgylchoedd a\u2019u herio\u2019u hunain,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Dechreuodd ar ei Phrentisiaeth Uwch ym mis Tachwedd 2019 ac mae wedi dal ati i weithio tuag at y cymhwyster er ei bod wedi colli ei thad ac wedi gorfod gohirio ei phriodas. Y bwriad yn awr yw priodi ym mis Rhagfyr.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Dana James, asesydd gydag Itec, mae Annwen yn fenyw ifanc sy\u2019n gweithio\u2019n galed, yn gweld gwaith ac sydd ag agwedd gadarnhaol. Dywedodd ei bod yn Llysgennad Prentisiaethau ardderchog.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu ei bod yn eithriadol o bwysig bod prentisiaid yn cael y cyfle i ddysgu yn eu dewis iaith,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<br \/>\nDywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r ail flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Gweinyddes feithrin yw Annwen Roberts ac mae\u2019n cynghori disgyblion ysgol i ymchwilio i\u2019w holl opsiynau cyn penderfynu ar yrfa. Dewisodd Annwen, 28, o Gwm-ann, ger Llambed, wneud gradd mewn Datblygiad Plentyndod ar \u00f4l gadael yr ysgol ond &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/annwen-roberts\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7977","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7977","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7977"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7977\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7977"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7977"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7977"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}