{"id":7981,"date":"2021-06-02T07:46:09","date_gmt":"2021-06-02T06:46:09","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7981"},"modified":"2021-06-02T07:49:20","modified_gmt":"2021-06-02T06:49:20","slug":"woramon-davies-and-omar-bojang","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/woramon-davies-and-omar-bojang\/","title":{"rendered":"Woramon ac Omar yn datblygu gyrfaoedd yn y GIG diolch i brentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/woramon-davies-and-omar-bojang\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/woramon-davies-and-omar-bojang\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13518\" style=\"width: 471px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13518\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Woramon-and-Omar-kitchen-land-scaled-e1622616116492.jpg\" alt=\"\" width=\"461\" height=\"294\" class=\"size-full wp-image-13518\" \/><p id=\"caption-attachment-13518\" class=\"wp-caption-text\">Y prentisiaid Woramon Davies ac Omar Bojang y tu allan i Ysbyty Coffa Aberhonddu.<\/p><\/div>\n<p>Mae Woramon Davies ac Omar Bojang, sy\u2019n brentisiaid yn y GIG, yn datblygu gyrfaoedd newydd diolch i Raglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru, ar \u00f4l dod i Gymru o Wlad Thai a Gambia yn y drefn honno.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddau\u2019n gynorthwywyr gwasanaethau gwesty gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn adran arlwyo Ysbyty Coffa Aberhonddu. Maent yn gwneud eu prentisiaethau trwy Gweithlu Cymru sy\u2019n rhan o Gonsortiwm Academi Sgiliau Cymru yng Ngr\u0175p Colegau NPTC.<\/p>\n<p>Roedd Woramon yn weinyddwraig mewn banc yn Bangkok cyn symud i Gymru yn 2009 gan ei bod yn priodi ac mae ganddi fab pedair oed erbyn hyn.<\/p>\n<p>Daeth Omar i Brydain o Gambia yn 2009 at ei wraig, sy\u2019n Saesnes. Mae yntau wedi newid gyrfa i weithio yn y sector lletygarwch ar \u00f4l cael ei hyfforddi\u2019n blastrwr. Mae ganddo ef a\u2019i wraig dri o blant.<\/p>\n<p>Llwyddodd y ddau i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Cynhyrchu a Choginio Bwyd dri mis yn gynnar, er gwaetha\u2019r her o orfod dysgu o bell oherwydd Covid-19. Erbyn hyn, maent wedi symud ymlaen i Brentisiaeth mewn Lletygarwch ac maent yn gobeithio cwblhau honno\u2019n gynnar hefyd.<\/p>\n<p>Mae Woramon ac Omar, sydd wedi dysgu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), yn gweithio tuag at gymhwyster Cyfathrebu Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru fel rhan o\u2019u fframwaith cymwysterau, gyda chefnogaeth eu hasesydd Tim Brodrick-Jones, o Gweithlu Cymru.<\/p>\n<p>Gofynnodd y ddau am gael gwneud prentisiaeth ynghyd \u00e2\u2019u swyddi llawn amser gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys am eu bod yn awyddus i ddysgu mwy am brosesau coginio bwyd er mwyn helpu pobl s\u00e2l ac oedrannus yn yr ysbyty i wella.<\/p>\n<p>Pan gyflwynwyd cyfyngiadau pandemig Covid-19 ym mis Mawrth y llynedd, cafodd ymweliadau \u00e2\u2019r gweithle eu hatal a dechreuwyd dysgu ar lein yn lle wyneb yn wyneb ond nid oedd hyn yn ddigon i atal Woramon ac Omar rhag parhau \u00e2\u2019u taith ddysgu.<\/p>\n<p>Llwyddodd y ddau i gwblhau\u2019r holl dasgau a osodwyd a thynnu lluniau\u2019r prydau yr oeddent wedi\u2019u paratoi. Yna, roedd Tim yn rhoi s\u00eal bendith ar yr asesiadau ar-lein a wnaed o dan amodau arbennig.<\/p>\n<p>\u201cRoedd gan Woramon ac Omar wybodaeth ardderchog am yr arferion gweithio a oedd ynghlwm wrth baratoi a choginio bwyd yn yr ysbyty. Roedd y gwaith manwl a wnaethant yn brawf o hyn,\u201d meddai Tim.<\/p>\n<p>\u201cRoedd cwblhau eu Prentisiaeth Sylfaen dri mis yn gynnar yn dipyn o gamp, o ystyried bod y ddau\u2019n gweithio llawn amser i\u2019r GIG, lle roedd cyfyngiadau Covid-19 a llai o staff nag arfer yn aml iawn.<\/p>\n<p>\u201cMaent yn dal i goginio bwyd i holl gleifion a staff yr ysbyty, gan gadw nhw\u2019u hunain, eu cydweithwyr a\u2019u teuluoedd ifanc yn ddiogel. Mae Woramon ac Omar yn dysgu eu plant gartref hefyd yn ogystal \u00e2 gweithio mewn swyddi prysur.\u201d<\/p>\n<p>Dysgodd Woramon goginio gan ei thad, sy\u2019n rhedeg bwyty yn Bangkok. Hoffai ddilyn \u00f4l ei draed ac agor caffi neu fwyty yn Aberhonddu gan arbenigo mewn bwyd o Brydain a Gwlad Thai.<\/p>\n<p>\u201cGofynnais am gael gwneud prentisiaeth am fy mod yn awyddus i ddysgu a datblygu fy ngyrfa,\u201d meddai. \u201cMae wedi cymryd amser hir i mi ddysgu Saesneg ac rwy\u2019n dal i ddysgu ond rwy\u2019n dal i obeithio gorffen y brentisiaeth yn gynnar.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Omar fod y brentisiaeth yn meincnodi\u2019r sgiliau y mae wedi\u2019u datblygu dros y naw mlynedd ddiwethaf tra bu\u2019n gweithio yn yr ysbyty. \u201cRwy\u2019n croesawu pob cyfle i feithrin fy sgiliau ac ennill cymwyster i ddangos fy mod yn gallu gwneud y gwaith,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu ei bod yn fantais fawr i chi fynd i addysg bellach i wella\u2019ch sgiliau iaith hefyd, boed hynny mewn Saesneg neu iaith arall, gan ei fod yn datblygu\u2019ch gallu i wneud pethau.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchwyd Woramon ac Omar ar eu taith ddysgu lwyddiannus gan Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n ysbrydoliaeth clywed bod Woramon ac Omar wedi symud ymlaen mor dda \u00e2\u2019u prentisiaethau, gan fagu plant a dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol ar yr un pryd,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cEin gweledigaeth ni yw creu amgylchedd dysgu sy\u2019n rhoi cyfle i bawb wireddu eu potensial trwy eu doniau a gwaith caled, beth bynnag yw eu cefndir. Rydym am sicrhau bod pobl yn sylweddoli bod prentisiaethau\u2019n agored i bawb a bod y rhwystrau sy\u2019n atal pobl rhag cymryd rhan ynddynt yn cael eu chwalu.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Woramon Davies ac Omar Bojang, sy\u2019n brentisiaid yn y GIG, yn datblygu gyrfaoedd newydd diolch i Raglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru, ar \u00f4l dod i Gymru o Wlad Thai a Gambia yn y drefn honno. Mae\u2019r ddau\u2019n &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/woramon-davies-and-omar-bojang\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-7981","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7981","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7981"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7981\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7981"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7981"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7981"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}