{"id":7987,"date":"2021-06-11T19:38:22","date_gmt":"2021-06-11T18:38:22","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7987"},"modified":"2021-06-12T00:21:39","modified_gmt":"2021-06-11T23:21:39","slug":"traineeship-finalists","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/traineeship-finalists\/","title":{"rendered":"Cyfle i gwrdd \u00e2\u2019r Hyfforddeion sydd ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/traineeship-finalists\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/traineeship-finalists\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir ar 17 Mehefin.<\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori mewn seremoni ddigidol.<\/p>\n<p>Y seremoni wobrwyo yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Mae\u2019n rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 101,590 o bobl ledled Cymru wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.<\/p>\n<p>Heddiw, cyflwynwn chwech o hyfforddeion llwyddiannus sy\u2019n cystadlu am wobrau mewn dau gategori.<\/p>\n<h2>Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu)<\/h2>\n<p>Symudodd <strong>Jessica Apps<\/strong> o ben draw\u2019r byd i gychwyn bywyd newydd ym Mlaenafon gyda\u2019i mam a\u2019i chwaer iau ym mis Tachwedd 2019 ac erbyn hyn fe\u2019i disgrifiwyd fel \u201cesiampl ddisglair\u201d wrth iddi anelu at yrfa fel athrawes.<\/p>\n<p>Roedd dilyn Rhaglen Ymgysylltu Creadigol ar Hyfforddeiaeth gyda Sgiliau Cyf yn fodd i Jessica ddatblygu ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol. Yn awr mae\u2019n astudio ar gyfer ei Lefelau A yng Ngholeg Gwent gyda\u2019r nod o fynd yn athrawes.<\/p>\n<p>Meddai Jessica: \u201cYmuno \u00e2 Sgiliau i wneud yr Hyfforddeiaeth oedd y penderfyniad gorau a wnes i. Ar \u00f4l dim ond pum mis, roeddwn i\u2019n teimlo mor hapus a bodlon yn fy mywyd newydd ac ro\u2019n i\u2019n cymryd y camau nesaf tuag at swydd fy mreuddwydion.\u201d<\/p>\n<p>Mae <strong>Ross Vincent<\/strong> yn paratoi am yrfa ym myd adeiladu, ar \u00f4l cymryd diddordeb mewn gosod brics tra oedd yn gwneud Hyfforddeiaeth.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l yr Hyfforddeiaeth, mae Ross, 18, sy\u2019n byw yn Noc Penfro, wedi mynd ymlaen i sicrhau prentisiaeth gydag Evan Pritchard Contractors yn Hwlffordd, lle mae ei dad, Carl, yn rheolwr safle.<\/p>\n<p>Ac yntau wedi cwblhau Hyfforddeiaethau Ymgysylltu a Lefel 1 mewn Gwaith Brics, mae\u2019n gweithio tuag at Ddiploma Lefel 2 mewn Gosod Brics a Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Daear, y cyfan yng Ngholeg Sir Benfro.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l wynebu heriau ar gwrs arall yn y coleg, dywedodd Ross ei fod yn benderfynol o lwyddo a dilyn gyrfa yn y maes.<\/p>\n<div id=\"attachment_13460\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13460\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Lewis-O-Neill-scaled-e1616614418320.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13460\" \/><p id=\"caption-attachment-13460\" class=\"wp-caption-text\">Lewis O\u2019Neill, o Garden City, Glannau Dyfrdwy, sydd yn rownd derfynol am wobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu).<\/p><\/div>\n<p>Mae <strong>Lewis O\u2019Neill,<\/strong> 17, o Garden City, Glannau Dyfrdwy wedi troi cornel yn ei fywyd ac mae\u2019n edrych ymlaen at yrfa ym maes clustogwaith dodrefn diolch i Raglen Hyfforddeiaethau gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae Lewis wedi cwblhau Rhaglenni Hyfforddeiaethau Ymgysylltu a Lefel 1 a Dyfarniad Estynedig City &#038; Guilds Lefel 1 mewn Cyflogadwyedd. Roedd wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau a bu trwy\u2019r system gyfiawnder cyn dechrau gweithio gyda Coleg Cambria.<\/p>\n<p>\u201cErbyn hyn, mae gen i swydd dda a rhagolygon da ac rwy\u2019n gobeithio y gall fy stori i ysbrydoli rhywun arall,\u201d meddai Lewis sy\u2019n gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Clustogwaith Dodrefn.<\/p>\n<h2>Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Lefel 1)<\/h2>\n<p>Ychydig o Saesneg oedd gan <strong>Thibaud Gailliard<\/strong> pan ddaeth i Gymru o Ffrainc yn fachgen ifanc swil 16 oed ar \u00f4l i\u2019w fam farw o ganser. Doedd ganddo ddim cymwysterau ffurfiol na phrofiad o weithio. Ers hynny, disgrifiwyd ei daith ddysgu fel un \u201canhygoel\u201d.<\/p>\n<p>Bu Thibaud, 21 oed, o Lynebwy, yn lwcus i ganfod Rhaglen Ymgysylltu yn y Cyfryngau Creadigol ar ffurf Hyfforddeiaeth gan y darparwr hyfforddiant Sgiliau Cyf o Risga. Yn fuan iawn, aeth ati i ddysgu Saesneg, gwella\u2019i sgiliau mewn TG, dylunio a cherddoriaeth ac ennill nifer fawr o gymwysterau.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l yr Hyfforddeiaeth, aeth Thibaud ymlaen i wneud Dyfarniad Lefel 1 i Ddefnyddwyr TGCh gyda chwmni Sgiliau. Erbyn hyn, mae\u2019n gweithio iddynt fel gweinyddwr arweiniol ac yn gwneud Prentisiaeth Sylfaen mewn TG.<\/p>\n<div id=\"attachment_13473\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13473\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Jamie-Hopkins-47-land-scaled-e1616704068677.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13473\" \/><p id=\"caption-attachment-13473\" class=\"wp-caption-text\">Jamie Hopkins, o Gas-gwent, sydd yn rownd derfynol am wobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Lefel 1).<\/p><\/div>\n<p>Cafodd <strong>Jamie Hopkins<\/strong> ei fwlio\u2019n ddrwg yn yr ysgol a gadawodd heb gymwysterau. Cymerodd bedair blynedd iddo ailddarganfod ei gariad at ddysgu, a hynny diolch i Hyfforddeiaeth gydag Itec.<\/p>\n<p>Dywed Jamie, 20, o Beachley, ger Cas-gwent, mai\u2019r gefnogaeth un-i-un a gafodd gan oruchwyliwr y gweithdy, John Smith yng Nghanolfan Itec, Casnewydd a newidiodd ei fywyd. Yno, cwblhaodd Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd.<\/p>\n<p>Mae Jamie, sy\u2019n gobeithio cael prentisiaeth gyda busnes lleol a gyrfa\u2019n gwneud gwaith saer cywrain, yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 1 Gwaith Coed yng Ngholeg Gwent, Casnewydd.<\/p>\n<p>Dywedodd John fod Jamie\u2019n \u201cddysgwr ardderchog gyda dyfodol disglair o\u2019i flaen.\u201d<\/p>\n<p>Er ei bod yn eithriadol o swil pan adawodd yr ysgol, erbyn hyn, ar \u00f4l cychwyn taith ddysgu ar Raglen Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru, mae <strong>Chloe Harvey<\/strong> yn weithwraig hyderus.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l penderfynu nad oedd am fynd i\u2019r chweched dosbarth yn yr ysgol, daeth Chloe, 19, o Gil-maen, ger Penfro, i gysylltiad \u00e2\u2019r darparwr dysgu PRP Training Ltd.<\/p>\n<p>Bu cwblhau Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gweinyddu Busnes yn ysbrydoliaeth i Chloe a chafodd leoliad gwaith gyda Genpower Ltd, Doc Penfro. Llwyddodd i greu\u2019r fath argraff nes bod y cwmni wedi creu prentisiaeth newydd fel y gallent ei chyflogi.<\/p>\n<p>Ers hynny, mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes ac wedi datblygu sgiliau ym maes trefnu, gwasanaethu cwsmeriaid a TG sydd wedi\u2019i galluogi i addasu\u2019n hwylus i weithio gartref yn ystod pandemig Covid-19. Erbyn hyn, mae Chloe yn helpu i hyfforddi aelodau newydd t\u00eem Genpower.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir ar 17 Mehefin. Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/traineeship-finalists\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7987","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7987","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7987"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7987\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7987"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7987"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7987"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}