{"id":7997,"date":"2021-06-11T21:00:30","date_gmt":"2021-06-11T20:00:30","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7997"},"modified":"2021-06-11T21:01:53","modified_gmt":"2021-06-11T20:01:53","slug":"employer-finalists","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/employer-finalists\/","title":{"rendered":"Cyfle i gwrdd \u00e2\u2019r cyflogwyr sydd ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/employer-finalists\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/employer-finalists\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir ar 17 Mehefin.<\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori mewn seremoni ddigidol.<\/p>\n<p>Y seremoni wobrwyo yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Mae\u2019n rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 101,590 o bobl ledled Cymru wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.<\/p>\n<p>Heddiw, cyflwynwn gyflogwyr llwyddiannus sy\u2019n cystadlu am wobrau mewn pedwar gategori.<\/p>\n<h2>Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1 i 49 o weithwyr)<\/h2>\n<p>Mae <strong>Compact Orbital Gears<\/strong> wedi datblygu gweithlu hyblyg \u00e2 sgiliau amrywiol gan sicrhau ei fod yn enw blaenllaw yn y diwydiant g\u00ears arbenigol ers dros hanner canrif.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni, sy\u2019n cyflogi 43, yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn datblygu g\u00ears pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y byd awyrofod, moduron ac ynni gl\u00e2n. Mae\u2019r penderfyniad i ganolbwyntio ar ddatblygu ei gronfa ei hunan o beirianwyr medrus yn talu\u2019r ffordd i Compact Orbital Gears mewn cyfnod o brinder ledled Prydain.<\/p>\n<p>Mae gan y cwmni dri phrentis a phump o weithwyr ifanc eraill yn gweithio tuag at gymwysterau Addysg Bellach a ddarperir gan Myrick Training a Gr\u0175p Colegau NPTC.<\/p>\n<p>Dywed cwmni gofal cartref <strong>Wales England Care Ltd<\/strong> fod ei Raglen Brentisiaethau\u2019n hanfodol i\u2019w gynlluniau i dyfu a\u2019i bod eisoes wedi hybu ei berfformiad ac ansawdd ei waith, gan sicrhau bod staff yn aros yn hirach.<\/p>\n<p>Yn y flwyddyn ddiwethaf, dywed y cwmni o Gasnewydd fod y rhaglen wedi cyfrannu at gynnydd o 57% mewn gwerthiant a sg\u00f4r cymderadwyaeth o 98% gan gleientiaid. Gwnaed hyn trwy wella sgiliau, hyder ac effeithlonrwydd ei staff a lleihau costau, gan arwain at gynnydd o 177% mewn incwm net.<\/p>\n<p>Mae cryn dipyn yn llai o fynd a dod ymhlith y staff ers i\u2019r prentisiaethau gael eu cyflwyno ac mae\u2019r oriau gofal a ddarperir bob wythnos wedi cynyddu o 200 i 1,000 ers 2017.<\/p>\n<p>Mae Wales England Care yn ymroi i gynnig gofal o\u2019r safon uchaf. Mae ganddynt weithlu o 42, yn cynnwys 13 o brentisiaid sy\u2019n gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lefelau 2 i 5. Darperir yr hyfforddiant gan ei chwaer gwmni, Wales England Care Training.<\/p>\n<div id=\"attachment_13539\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13539\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Thomas-Skips-land-1-e1623440833705.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13539\" \/><p id=\"caption-attachment-13539\" class=\"wp-caption-text\">Iestyn a Natasha Thomas, cyfarwyddwyr Thomas Skip and Plant Hire, sydd yn rownd derfynol am wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn, gyda Louise Jones a Malcolm Williams, prentisiaid.<\/p><\/div>\n<p>Dywed <strong>Thomas Skip and Plant Hire,<\/strong> o Gaernarfon, bod prentisiaethau dwyieithog yn allweddol i dwf y cwmni annibynnol llwyddiannus ym maes sgipiau a rheoli gwastraff.<\/p>\n<p>Gan fod cynifer o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg, mae\u2019r cwmni o\u2019r farn ei bod yn bwysig i\u2019r staff ddysgu trwy gyfrwng yr iaith. Mae prentisiaethau, a ddarperir gan Hyfforddiant Cambrian, yn helpu\u2019r cwmni i gadw staff yn hirach, cynnig gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a dysgu mwy am y diwydiant gwastraff.<\/p>\n<p>Mae Thomas Skip and Plant Hire, sydd \u00e2 thri phrentis mewn gweithlu o 10, yn ymroi i warchod yr amgylchedd trwy gadw cymaint o wastraff ag y bo modd rhag mynd i safleoedd tirlenwi.<\/p>\n<h2>Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 i 249 o weithwyr)<\/h2>\n<p>Mae cwmni <strong>Andrew Scott Limited<\/strong> o Bort Talbot, a oedd yn dathlu ei ben blwydd yn 150 oed yn 2020, yn dal i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus.<\/p>\n<p>Dechreuodd nifer o\u2019r uwch-reolwyr presennol eu gyrfa fel prentisiaid gyda\u2019r cwmni \u2013 y cwmni adeiladu hynaf yng Nghymru sy\u2019n dal i fynd ac un sy\u2019n benderfynol o wneud y defnydd gorau o\u2019r \u2018bunt Gymreig\u2019 trwy recriwtio prentisiaid lleol a\u2019u hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd maith.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 Rhaglen Brentisiaethau uniongyrchol y cwmni o Fargam, mae Andrew Scott Ltd wedi cefnogi dros 50 o bobl trwy Gynllun Rhannu Prentisiaethau Cyfle.<\/p>\n<p>Mae CITB Cymru yn lleoli prentisiaid ar gyrsiau Gosod Brics, Gwaith Saer a Gweithredydd Adeiladu Peirianneg Sifil yng Ngholeg Sir G\u00e2r a Choleg Castell-nedd Port Talbot.<\/p>\n<div id=\"attachment_13540\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13540\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Convey-Law-1-Land-scaled-e1623440883281.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13540\" \/><p id=\"caption-attachment-13540\" class=\"wp-caption-text\">Lloyd Davies, rheolwr gyfarwyddwr Convey Law sydd yn rownd derfynol am wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, gyda Sophia Ramzan sy\u2019n diwtor prentisiaid a Sean McCarthy sy\u2019n brentis.<\/p><\/div>\n<p>Mae gan <strong>Convey Law<\/strong> gynlluniau uchelgeisiol i dyfu hyd at 50% yn 2021 trwy Raglen Brentisiaethau fewnol ddyfeisgar a ddisgrifir gan y rheolwr gyfarwyddwr fel un drawsnewidiol.<\/p>\n<p>Datblygodd y cwmni o Gasnewydd y dull hwn o weithredu ar \u00f4l cael anhawster i recriwtio trawsgludwyr. Gwelodd ei bod yn well hyfforddi prentisiaid yn y dulliau diweddaraf a\u2019u helpu i ddysgu mewn ffordd sy\u2019n adlewyrchu gwerthoedd a dulliau gweithredu\u2019r cwmni.<\/p>\n<p>Trwy bartneriaeth gyllido \u00e2 Choleg Caerdydd a\u2019r Fro, aeth Convey Law ati i greu The Conveyancing Academy yn 2014 a bu hynny\u2019n help i\u2019r cwmni gyrraedd ei dargedau recriwtio, gyda nifer y trawsgludwyr yn codi o 25 yn 2019 i 55 yn 2020. Dyblwyd nifer y prentisiaid o 15 i 30 mewn blwyddyn.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l <strong>Cambria Maintenance Services Limited,<\/strong> sydd \u00e2 chanolfannau yn Ewlo a Chaerdydd, bu buddsoddi yn natblygiad y gweithlu a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn hanfodol i lwyddiant y busnes sy\u2019n gwneud gwaith cynnal a chadw ar dros 12,000 o dai ledled Cymru.<\/p>\n<p>Mae gan y cwmni dros 160 o staff, yn cynnwys 16 o brentisiaid sy\u2019n allweddol i lwyddiant y busnes yn y dyfodol. Mae Cambria, sy\u2019n rhan o Gr\u0175p Tai Wales &#038; West, wedi cyflogi 37 o brentisiaid dros y 10 mlynedd diwethaf a\u2019r bwriad yw cyflogi rhagor fel rhan o gynllun treigl pum mlynedd.<\/p>\n<p>Mae Coleg Cambria a Choleg Caerdydd a\u2019r Fro yn cynnig Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw ynghyd \u00e2 Phrentisiaethau mewn Gosod Systemau ac Offer Electrodechnegol a Gwaith Plymwr a Gwresogi ar gyfer cwmni Cambria.<\/p>\n<h2>Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 i 4,999 o weithwyr)<\/h2>\n<div id=\"attachment_13541\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13541\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Heddlu-Dyfed-Powys-Police-40-land-scaled-e1623440951296.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"297\" class=\"size-full wp-image-13541\" \/><p id=\"caption-attachment-13541\" class=\"wp-caption-text\">Y Cwnstabl Angela Williams, swyddog datblygiad proffesiynol gyda Gwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu Dyfed Powys sydd yn rownd derfynol am wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>Llwyddodd <strong>Heddlu Dyfed Powys Police,<\/strong> sydd \u00e2\u2019i bencadlys yng Nghaerfyrddin, i drawsnewid ei broses recriwtio ar \u00f4l i\u2019w raglenni dysgu seiliedig ar waith dalu ar eu canfed.<\/p>\n<p>Mae wedi cyflogi 200 o brentisiaid dros y pum mlynedd diwethaf. Mae dros 150 ohonynt yn gweithio i\u2019r sefydliad ar hyn o bryd gan ddilyn un o\u2019r deg cwrs a ddarperir gan hyd at naw darparwr dysgu.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei haddasu i fodloni anghenion penodol fel bod yr hyn a ddysgir yn berthnasol i\u2019r gwasanaeth a roddir i\u2019r cyhoedd.<\/p>\n<p>Yn ogystal ag agor y drws i bobl newydd, mae ffeiriau gyrfaoedd mewnol yn annog aelodau\u2019r staff i ddatblygu eu gyrfa a symud ymlaen, gan lenwi bylchau sgiliau \u00e2 phobl fedrus, wybodus a brwd.<\/p>\n<p>Mae <strong>Anelu\u2019n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful<\/strong> wedi creu Rhaglen Brentisiaethau arloesol er mwyn llenwi\u2019r bwlch sgiliau sydd yn y diwydiant gweithgynhyrchu a mynd i\u2019r afael \u00e2 lefelau diweithdra uchel yn ardaloedd dau o awdurdodau lleol y de.<\/p>\n<p>Mae Rhaglen Rhannu Prentisiaethau o fudd i gwmn\u00efau sydd wedi mabwysiadu ei dulliau gweithredu arloesol lle caiff dysgwyr eu cylchdroi o gwmpas nifer o gyflogwyr gan gwblhau unedau tuag at eu prentisiaeth.<\/p>\n<p>Yn 2015, sylwodd Bwrdd Ardal Fenter Glyn Ebwy bod prinder gweithwyr \u00e2 sgiliau Lefel 3 ac uwch ym Mlaenau Gwent ac, ar \u00f4l dwy flynedd, ymunodd Merthyr Tudful \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae Anelu\u2019n Uchel yn cydweithio \u00e2 Choleg y Cymoedd, sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Choleg Gwent, a Choleg Merthyr Tudful i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus. Gwn\u00e2nt hyn trwy gynnig prentisiaethau mewn Peirianneg Drydanol, Peirianneg Fecanyddol, TGCh, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg Ansawdd ynghyd \u00e2 Gweinyddu Busnesau, Gweinyddu Masnachol, a Chyllid.<\/p>\n<p>Mae <strong>Dow Silicones UK Limited,<\/strong> y Barri, yn llwyddo i feithrin llawer o\u2019i weithwyr arbenigol ei hunan gan ddefnyddio prentisiaethau.<\/p>\n<p>Ac yntau\u2019n un o\u2019r cwmn\u00efau mwyaf yn y byd ym maes gwyddoniaeth mater, bu Dow yn cynhyrchu nwyddau rhyngol silicon yn y Barri ers 1952. Mae\u2019r cwmni\u2019n cydweithio\u2019n agos \u00e2 nifer o ddarparwyr dysgu, yn cynnwys Coleg Caerdydd a\u2019r Fro (CAVC), gan gynnig pum llwybr dysgu ar Lefelau 2 a 3, a thri llwybr arall ar ffurf Prentisiaethau Uwch.<\/p>\n<p>Mae t\u00eem prentisiaid cynnal a chadw Dow yn cynllunio, yn adeiladu ac yn darparu proses ar gyfer offer gweithiol y gall y coleg eu defnyddio wrth ddysgu ar y campws.<\/p>\n<p>Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae llawer o brentisiaid wedi symud ymlaen i swyddi uchel gyda\u2019r cwmni sydd hefyd yn cynnig Prentisiaethau Gradd mewn partneriaeth \u00e2 Phrifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru i bobl sy\u2019n awyddus i ganfod cyfleoedd newydd ar gyfer eu gyrfa.<\/p>\n<h2>Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5,000 a mwy o weithwyr)<\/h2>\n<p>Bu hyblygrwydd yn allweddol i lwyddiant Rhaglen Brentisiaethau <strong>Cyngor Rhondda Cynon Taf<\/strong> sydd wedi dal i ffynnu er gwaethaf heriau pandemig byd-eang a Storm Dennis.<\/p>\n<p>Trefnwyd i\u2019r 80 o brentisiaid weithio gartref a dysgu o bell a chynigiwyd estyniadau i gyrsiau a dyddiadau cau. Bu prentisiaid yn cefnogi gwasanaethau hanfodol yn y gymuned \u2013 bu rhai\u2019n cydweithio \u00e2\u2019r GIG ar ddata am bobl oedd yn gorfod eu gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws, ac mae rhai wedi bod yn dosbarthu parseli bwyd.<\/p>\n<p>Mewn ymateb i\u2019r storm fis Chwefror diwethaf, a achosodd ddifrod i ffyrdd, pontydd a chanol trefi yn yr ardal, mae\u2019r cyngor wedi recriwtio pedwar prentis ychwanegol mewn peirianneg sifil.<\/p>\n<p>Gyda\u2019r fath ymrwymiad i hyfforddiant, roedd cyfradd cwblhau prentisiaethau gyda\u2019r cyngor yn 94%, gydag wyth o bob deg prentis yn mynd ymlaen i weithio gyda\u2019r cyngor.<\/p>\n<div id=\"attachment_13411\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13411\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/SUHB-6-land-scaled-e1615721510161.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"291\" class=\"size-full wp-image-13411\" \/><p id=\"caption-attachment-13411\" class=\"wp-caption-text\">Marie-Andree Lachapelle, rheolwr ehangu mynediad a chynhwysiant yn y gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sydd yn rownd derfynol am wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn.gyda\u2019r cydlynydd datblygu staff a phrentisiaid, Abbie Finch, a Bethany Jones, cyn-brentis sy\u2019n oruchwylydd meddygol a deintyddol \u00f4l-raddedig erbyn hyn.<\/p><\/div>\n<p>Cymru iachach a mwy cyfartal yw\u2019r nod i Raglen Brentisiaethau <strong>Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe<\/strong> sydd \u00e2 29 o brentisiaid a 18 arall yn disgwyl dechrau ar 17 o Fframweithiau Prentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae Academi Prentisiaid y Bwrdd Iechyd yn cydweithio \u00e2\u2019r darparwyr hyfforddiant Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg G\u0175yr Abertawe ac yn cynnig cyfle i \u2018brofi cyn prynu\u2019 sy\u2019n golygu y caiff dysgwyr newid eu llwybr dysgu i ddilyn cwrs mwy addas.<\/p>\n<p>Dywedodd y cydlynydd datblygiad staff a phrentisiaid Abbie Finch: \u201cMae\u2019n nod gennym gynnig rhagor o gyfleoedd am brentisiaethau i rai sydd ag anabledd a phobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal \u00e2 mynd i\u2019r afael ag anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod ymhlith ein staff o 12,500.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir ar 17 Mehefin. Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/employer-finalists\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7997","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7997","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7997"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7997\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7997"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7997"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7997"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}