{"id":8004,"date":"2021-06-18T08:38:40","date_gmt":"2021-06-18T07:38:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8004"},"modified":"2021-06-18T08:38:40","modified_gmt":"2021-06-18T07:38:40","slug":"wbl-awards-ceremony","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wbl-awards-ceremony\/","title":{"rendered":"S\u00ear ym myd dysgu seiliedig ar waith yn disgleirio mewn seremoni wobrwyo rithwir"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wbl-awards-ceremony\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wbl-awards-ceremony\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Roedd s\u00ear y sector dysgu seiliedig ar waith yn disgleirio neithiwr (nos Iau) pan gafodd cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig eu cydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<\/p>\n<p>Roedd y seremoni wobrwyo flynyddol fawreddog, a gynhaliwyd dros y rhyngrwyd eleni, yn rhoi sylw i 35 o ymgeiswyr sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 101,590 o bobl ledled Cymru wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.<\/p>\n<p>Llongyfarchwyd yr enillwyr gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, a ddywedodd: \u201cMae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud \u00e2 Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>\u201cMae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy\u2019n credu y bydd prentisiaethau\u2019n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau\u2019r pandemig<\/p>\n<p>\u201cDyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a\u2019n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw\u2019r norm i gyflogwyr.\u201d<\/p>\n<div id=\"attachment_13551\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13551\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Compact-Orbital-Gears-scaled-e1624000682186.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"357\" class=\"size-full wp-image-13551\" \/><p id=\"caption-attachment-13551\" class=\"wp-caption-text\">Rob Price, rheolwr cynhyrchu Compact Orbital Gears, enillydd gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn, gyda\u2019r prentisiaid Ruben Clements, Rowan Morgan, Ollie Leadbetter, a Luke Jones sydd wedi cwblhau ei brentisiaeth.<\/p><\/div>\n<p>Compact Orbital Gears o Raeadr Gwy, a fu\u2019n enw blaenllaw yn y diwydiant g\u00ears arbenigol ers dros hanner canrif, a enillodd wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn. Mae wedi gweld manteision defnyddio prentisiaethau i ddatblygu gweithlu hyblyg \u00e2 sgiliau amrywiol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r penderfyniad i ganolbwyntio ar ddatblygu ei gronfa ei hunan o beirianwyr medrus yn y Canolbarth yn talu\u2019r ffordd i\u2019r cwmni, sydd \u00e2 43 o weithwyr, mewn cyfnod o brinder ledled Prydain.<\/p>\n<p>Mae Compact Orbital Gears yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn datblygu g\u00ears pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y byd awyrofod, moduron ac ynni gl\u00e2n.<\/p>\n<p>Mae gan y cwmni dri phrentis a phump o weithwyr ifanc eraill yn gweithio tuag at gymwysterau Addysg Bellach a ddarperir gan Myrick Training a Gr\u0175p Colegau NPTC, Campws y Drenewydd.<\/p>\n<div id=\"attachment_13553\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13553\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/William-Davies-land-scaled-e1624000809840.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13553\" \/><p id=\"caption-attachment-13553\" class=\"wp-caption-text\">William Davies, enillydd gwobr Prentis y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>William Davies, sydd wedi arbed \u00a320,000 y flwyddyn i\u2019w gyflogwr trwy awtomeiddio system cydosod cynnyrch, a enillodd wobr Prentis y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae William, 20, o Lwydcoed, Aberd\u00e2r, yn gweithio i Kautex Textron CVS Ltd yn Hengoed. Yn ogystal, rhoddodd argraffydd newydd 3D Rapid Prototyping ar waith er mwyn helpu i ddatblygu systemau cerbydau awtonomaidd, gwnaeth welliannau ym meysydd Iechyd a Diogelwch a chynhyrchiant ac mae wedi rheoli prosiect i adnewyddu cant\u00een a sicrhau ei fod yn ddiogel rhag Covid.<\/p>\n<p>Cwblhaodd Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg (Cymorth Technegol ym maes Peirianneg) chwe mis yn gynt na\u2019r disgwyl yng Ngholeg y Cymoedd lle\u2019r enillodd ddwy wobr. Ar hyn o bryd, mae\u2019n gweithio tuag at HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Pen-y-bont.<\/p>\n<div id=\"attachment_13555\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13555\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Karen-Richards-Blurred-Background-scaled-e1624000876922.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13555\" \/><p id=\"caption-attachment-13555\" class=\"wp-caption-text\">Karen Richards o ACT yng Nghaerdydd, enillydd gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.<\/p><\/div>\n<p>Karen Richards o ACT yng Nghaerdydd enillodd wobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae ei phrentisiaid Cyfrifeg wedi sicrhau cyfradd basio o 86% sydd gryn dipyn yn well na\u2019r cyfartaledd cenedlaethol.<\/p>\n<p>Mae Karen, 54, o\u2019r Coed-duon, yn defnyddio\u2019i phrofiad i ddysgu Diploma Uwch a Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg mewn ffordd ddifyr a hwyliog. Yn ogystal \u00e2 hyfforddi ei dysgwyr Lefel 4 hi ei hunan yn ACT, mae\u2019n yn cynnig cefnogaeth i ddarparwyr dysgu eraill pan fydd eu dysgwyr yn ei chael yn anodd.<\/p>\n<p>Mae gan Jessica Apps a Thibaud Gailliard, enillwyr gwobrau Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau, Ymgysylltu a Lefel 1 yn y drefn honno, stor\u00efau i\u2019n hysbrydoli.<\/p>\n<div id=\"attachment_13457\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13457\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Jessica-Apps-3-land-scaled-e1616613320864.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13457\" \/><p id=\"caption-attachment-13457\" class=\"wp-caption-text\">Jessica Apps, enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu).<\/p><\/div>\n<p>Symudodd Jessica, 19, o Botswana i gychwyn bywyd newydd ym Mlaenafon gyda\u2019i mam a\u2019i chwaer iau ym mis Tachwedd 2019. Erbyn hyn fe\u2019i disgrifir fel \u201cesiampl ddisglair\u201d wrth iddi anelu at yrfa fel athrawes.<\/p>\n<p>Roedd dilyn Rhaglen Ymgysylltu Creadigol ar ffurf Hyfforddeiaeth gyda Sgiliau Cyf yn fodd i Jessica ddatblygu ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol. Yn awr mae\u2019n astudio ar gyfer ei Lefelau A yng Ngholeg Gwent gyda\u2019r nod o fynd yn athrawes.<\/p>\n<div id=\"attachment_13467\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13467\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Thibaud-Gailliard-35-land-scaled-e1616703470409.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13467\" \/><p id=\"caption-attachment-13467\" class=\"wp-caption-text\">Thibaud Gailliard, enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaeth (Lefel 1).<\/p><\/div>\n<p>Ychydig o Saesneg oedd gan Thibaud, 21, o Lynebwy, pan ddaeth i Gymru o Ffrainc yn fachgen ifanc swil 16 oed ar \u00f4l i\u2019w fam farw o ganser. Doedd ganddo ddim cymwysterau ffurfiol na phrofiad o weithio.<\/p>\n<p>Erbyn hyn mae Thibaud yn rhugl mewn Saesneg a disgrifiwyd ei daith ddysgu fel un \u201canhygoel\u201d. Dilynodd Raglen Ymgysylltu yn y Cyfryngau Creadigol ar ffurf Hyfforddeiaeth a gwnaeth Brentisiaeth Sylfaen mewn TG gyda\u2019r darparwr hyfforddiant Sgiliau Cyf o Risga. Mae\u2019n gweithio iddyn nhw erbyn hyn fel gweinyddwr arweiniol.<\/p>\n<p>Anelu\u2019n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful a gasglodd Wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn am ei Raglen Rhannu Prentisiaethau sydd wedi llenwi bwlch sgiliau yn y diwydiant gweithgynhyrchu a mynd i\u2019r afael \u00e2 lefelau diweithdra uchel yn ardaloedd dau awdurdod lleol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhaglen o fudd i gwmn\u00efau sy\u2019n rhannu dysgwyr wrth iddynt gwblhau unedau tuag at eu prentisiaeth. Mae Anelu\u2019n Uchel yn cydweithio \u00e2 Choleg y Cymoedd, sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Choleg Gwent a Choleg Merthyr Tudful i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus trwy brentisiaethau.<\/p>\n<div id=\"attachment_13540\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13540\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Convey-Law-1-Land-scaled-e1623440883281.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13540\" \/><p id=\"caption-attachment-13540\" class=\"wp-caption-text\">Lloyd Davies, rheolwr gyfarwyddwr Convey Law, enillydd gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, gyda Sophia Ramzan sy\u2019n diwtor prentisiaid a Sean McCarthy sy\u2019n brentis.<\/p><\/div>\n<p>Convey Law o Gasnewydd yw Cyflogwr Canolig y Flwyddyn. Mae ganddo gynlluniau uchelgeisiol i dyfu hyd at 50% yn 2021 trwy Raglen Brentisiaethau fewnol ddyfeisgar a ddisgrifir gan Lloyd Davies, y rheolwr gyfarwyddwr, fel un \u201cdrawsnewidiol\u201d.<\/p>\n<p>Trwy bartneriaeth gyllido \u00e2 Choleg Caerdydd a\u2019r Fro, aeth y cwmni ati i greu The Conveyancing Academy yn 2014 a bu hynny\u2019n help i gynyddu nifer y trawsgludwyr o 25 yn 2019 i 55 yn 2020. Dyblwyd nifer y prentisiaid o 15 i 30 mewn blwyddyn.<\/p>\n<p>Bu hyblygrwydd yn allweddol i lwyddiant Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf, enillydd Gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn, sydd wedi dal i ffynnu er gwaethaf y pandemig byd-eang.<\/p>\n<div id=\"attachment_13406\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13406\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/RTC-Council-8-land-scaled-e1615718384114.jpg\" alt=\"RTC Council\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13406\" \/><p id=\"caption-attachment-13406\" class=\"wp-caption-text\">Sian Woolson, rheolwr t\u00eem cyflogaeth, addysg a hyfforddiant Cyngor Rhondda Cynon Taf, enillydd gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn, gyda\u2019r cydlynydd prentisiaid a graddedigion Maria Jones.<\/p><\/div>\n<p>Trefnwyd i\u2019r 80 o brentisiaid weithio gartref a dysgu o bell a chynigiwyd estyniadau i gyrsiau a dyddiadau cau. Bu prentisiaid yn cefnogi gwasanaethau hanfodol yn y gymuned \u2013 bu rhai\u2019n cydweithio \u00e2\u2019r GIG ar ddata am bobl oedd yn gorfod eu gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws, a bu rhai\u2019n dosbarthu parseli bwyd.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l bod yn gweithio yn sector y celfyddydau perffornio yn Llundain am sawl blwyddyn, daeth Natalie Morgan, 33, o Ben-arth, enillydd Gwobr Prentisiaeth Uwch y Flwyddyn, yn \u00f4l i Gymru a chael swydd gyda Gymnasteg Cymru.<\/p>\n<p>Cwblhaodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Portal Training o Gaerdydd ac yn awr mae wedi symud ymlaen i Lefel 5.<\/p>\n<p>Diolch i\u2019r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei phrentisiaeth, roedd modd i Natalie arwain prosiect llwyddiannus i gael merched ifanc a menywod o\u2019r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd i gymryd rhan mewn gymnasteg.<br \/>\nLansiwyd y clwb gydag 11 o ferched, ond tyfodd i dros 130 mewn dim ond 18 mis.<\/p>\n<p>Enillwyr eraill y gwobrau oedd: Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Bethany Mason, 21, o Lantrisant, sy\u2019n swyddog gwasanaethau profedigaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Doniau\u2019r Dyfodol, Sophie Williams, 24, o Hirwaun, sy\u2019n swyddog recriwtio rhanbarthol gydag Adran Faethu RhCT. Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith, Matt Redd, 41, o Gaerdydd, sy\u2019n gweithio i Sgil Cymru ac yn rhedeg cwmni cynhyrchu Standoff Pictures Ltd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Roedd s\u00ear y sector dysgu seiliedig ar waith yn disgleirio neithiwr (nos Iau) pan gafodd cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig eu cydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Roedd y seremoni wobrwyo flynyddol fawreddog, a gynhaliwyd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wbl-awards-ceremony\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8004","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8004","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8004"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8004\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8004"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8004"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8004"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}