{"id":8008,"date":"2021-06-30T18:53:24","date_gmt":"2021-06-30T17:53:24","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8008"},"modified":"2021-06-30T18:53:24","modified_gmt":"2021-06-30T17:53:24","slug":"natalie-morgan-award-winner","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/natalie-morgan-award-winner\/","title":{"rendered":"Natalie yn ennill gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn ar \u00f4l newid gyrfa"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/natalie-morgan-award-winner\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/natalie-morgan-award-winner\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13423\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13423\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Natalie-Morgan-31-land-scaled-e1616011697986.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13423\" \/><p id=\"caption-attachment-13423\" class=\"wp-caption-text\">Natalie Morgan, enillydd gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>Mae penderfyniad Natalie Morgan i ddod yn \u00f4l i Gymru i ddilyn gyrfa mewn chwaraeon gyda Gymnasteg Cymru, ar \u00f4l gweithio yn sector y celfyddydau perfformio am sawl blwyddyn, yn talu ar ei ganfed iddi.<\/p>\n<p>Enillodd Natalie, 33, o Ben-arth, wobr Prentis Uwch y Flwyddyn pan gyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 mewn seremoni rithwir ar 17 Mehefin.<\/p>\n<p>Llwyddodd i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Portal Training o Gaerdydd ac yn awr mae wedi symud ymlaen i Lefel 5.<\/p>\n<p>Diolch i\u2019r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei phrentisiaeth, roedd Natalie yn gallu arwain prosiect llwyddiannus i ymgysylltu \u00e2 merched ifanc a menywod o gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd ac arweiniodd hynny at ffurfio clwb gymnasteg ar eu cyfer.<\/p>\n<p>Lansiwyd y clwb gydag 11 o ferched, ond tyfodd i dros 130, gyda chynnydd o 98% yn nifer yr aelodau mewn dim ond 18 mis. Llwyddodd Gymnasteg Cymru i gyrraedd y nod o adeiladu clwb sy\u2019n cael ei redeg gan y gymuned ei hunan, gan fod pob un o\u2019r 10 o oedolion oedd yn gwirfoddoli wedi dod yn hyfforddwyr cymwysedig erbyn hyn, ac mae 16 o arweinyddion chwaraeon ifanc yn eu helpu.<\/p>\n<p>Llwyddodd y prosiect i feithrin cysylltiadau y tu allan i\u2019r clwb hefyd. Mae Gymnasteg Cymru wedi meithrin partneriaethau cryf gyda sefydliadau fel Diverse Cymru, Ysgol Gynradd Mount Stuart and Chyngor Caerdydd.<\/p>\n<p>\u201cMae ennill y wobr hon yn meddwl y byd i mi,\u201d meddai Natalie. \u201cRwy wrth fy modd o feddwl fy mod wedi gallu rheoli prosiect mor wych yn y gymuned wrth wneud fy mhrentisiaeth.<\/p>\n<p>\u201cRwy wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy mor ddiolchgar bod y brentisiaeth wedi agor y drws i gymaint o gyfleoedd eraill.<br \/>\n\u201cByddwn yn argymell Prentisiaeth Uwch yn fawr i unrhyw un sy\u2019n ei ystyried. Mae\u2019n ffordd wych o barhau i ddysgu ac yn gyfle i ehangu\u2019ch gwybodaeth wrth weithio ar brosiectau ardderchog.\u201d <\/p>\n<p>Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.<\/p>\n<p>Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i\u2019r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.<\/p>\n<p>Mae Natalie yn gweithio ar ddau brosiect arall o ganlyniad i\u2019w phrentisiaeth: un gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru a\u2019r llall ar gyfer UEFA, ar y cyd \u00e2 Disney, i hyrwyddo llythrennedd corfforol trwy adrodd straeon. Mae hefyd wedi lansio ei busnes bach ei hunan, The Sweet and Sound Co.<\/p>\n<p>Dywedodd Carys Kizito, rheolwr cydymffurfio gyda Gymnasteg Cymru: \u201cMae Natalie wedi defnyddio ei hangerdd a\u2019i hymroddiad i ddysgu er mwyn rhoi cyfleoedd da i bobl eraill.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Natalie, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: \u201cMae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud \u00e2 Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>\u201cMae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy\u2019n credu y bydd prentisiaethau\u2019n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau\u2019r pandemig.<\/p>\n<p>\u201cDyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a\u2019n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw\u2019r norm i gyflogwyr.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae penderfyniad Natalie Morgan i ddod yn \u00f4l i Gymru i ddilyn gyrfa mewn chwaraeon gyda Gymnasteg Cymru, ar \u00f4l gweithio yn sector y celfyddydau perfformio am sawl blwyddyn, yn talu ar ei ganfed iddi. Enillodd Natalie, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/natalie-morgan-award-winner\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8008","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8008","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8008"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8008\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8008"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8008"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8008"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}