{"id":8010,"date":"2021-06-30T19:05:02","date_gmt":"2021-06-30T18:05:02","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8010"},"modified":"2021-06-30T19:05:40","modified_gmt":"2021-06-30T18:05:40","slug":"aspire-large-employer-award-winner","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aspire-large-employer-award-winner\/","title":{"rendered":"Raglen Rhannu Prentisiaethau Anelu\u2019n Uchel yn ennill gwobr genedlaethol"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aspire-large-employer-award-winner\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aspire-large-employer-award-winner\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13566\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13566\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Aspire-12-land-scaled-e1625076103746.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"296\" class=\"size-full wp-image-13566\" \/><p id=\"caption-attachment-13566\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr rhanbarthol datblygu sgiliau Anelu\u2019n Uchel, Tara Lane, ac Andrew Bevan, cydlynydd prosiectau Anelu\u2019n Uchel Blaenau Gwent, Jared Green, cydlynydd prosiectau Anelu\u2019n Uchel Merthyr Tudful a Deb Ryan-Newton, rheolwr cyflogadwyedd Merthyr Tudful.<\/p><\/div>\n<p>Mae Rhaglen Brentisiaethau lwyddiannus sy\u2019n anadlu bywyd newydd i\u2019r sector gweithgynhyrchu uwch yn ardaloedd dau awdurdod lleol yn y de wedi\u2019i chydnabod \u00e2 gwobr genedlaethol o bwys.<\/p>\n<p>Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu\u2019n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful a enillodd Wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar 17 Mehefin.<\/p>\n<p>Cafodd y Rhaglen Rhannu Prentisiaethau ei chreu chwe blynedd yn \u00f4l i fynd i\u2019r afael \u00e2 lefelau diweithdra uchel a lefelau sgiliau cymharol isel yn y diwydiant gweithgynhyrchu ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful.<\/p>\n<p>Eisoes, cafodd 123 o brentisiaid a nifer o gwmn\u00efau fudd uniongyrchol o ddulliau gweithredu arloesol y rhaglen. Caiff y dysgwyr eu cylchdroi o gwmpas nifer o gyflogwyr er mwyn llenwi bylchau sgiliau trwy gael hyfforddiant yn y gwaith a chwblhau unedau tuag at eu prentisiaeth.<\/p>\n<p>Dywedodd y rheolwr datblygu sgiliau rhanbarthol, Tara Lane: \u201cRydym mor falch ein bod wedi ennill y wobr bwysig hon eto a hoffem ddiolch i\u2019n partneriaid, y cyflogwyr ac, yn bwysicaf oll, i\u2019n prentisiaid am eu gwaith caled mewn blwyddyn a fu mor anodd i bawb.<\/p>\n<p>\u201cMae wedi bod yn dipyn o her ond mae pawb wedi addasu i\u2019r ffyrdd gwahanol o weithio a gallwn ymfalch\u00efo nad ydym wedi colli yr un prentis trwy gydol y pandemig a\u2019n bod wedi dal ati i gynnig rhaglen hyfforddi a chefnogi o safon uchel.<\/p>\n<p>\u201cT\u00eem bychan iawn ydym ni ac, er clod i\u2019n staff, fe lwyddon nhw i gystadlu \u00e2\u2019r cyflogwyr mawr eraill. Rhaid canmol eu hymdroddiad a\u2019u hangerdd wrth helpu prentisiaid i sicrhau gyrfaoedd trwy raglen brentisiaethau.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.<\/p>\n<p>Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i\u2019r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.<\/p>\n<p>Sefydlwyd Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu\u2019n Uchel yn wreiddiol yn 2015 pan sylwodd Bwrdd Ardal Fenter Glyn Ebwy bod prinder gweithwyr \u00e2 sgiliau Lefel 3 ac uwch ym Mlaenau Gwent. Ar \u00f4l dwy flynedd, ymunodd Merthyr Tudful \u00e2 nhw i geisio sicrhau twf busnesau a gwella sgiliau gan ostwng lefelau diweithdra.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae Anelu\u2019n Uchel yn cydweithio \u00e2 Choleg y Cymoedd, sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Choleg Gwent, a Choleg Merthyr Tudful i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus. Gwn\u00e2nt hyn trwy gynnig prentisiaethau mewn Peirianneg Drydanol, Peirianneg Fecanyddol, TGCh, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg Ansawdd ynghyd \u00e2 Gweinyddu Busnesau, Gweinyddu Masnachol, a Chyllid.<\/p>\n<p>Y nod yw recriwtio 20 o brentisiaid newydd bob blwyddyn ac mae Anelu\u2019n Uchel wedi sicrhau llwyddiant o 100% wrth drefnu bod t\u00eem yn hwyluso\u2019r drefn o sicrhau gwaith gyda gwahanol gyflogwyr a delio ag unrhyw broblemau wrth iddynt godi. Mae dros 30 o gyflogwyr wedi dod yn rhan o\u2019r rhaglen.<\/p>\n<p>\u201cMae Anelu\u2019n Uchel yn batrwm gwych o gydweithio,\u201d meddai Matthew Tucker, pennaeth cynorthwyol Coleg y Cymoedd. \u201cOherwydd llwyddiant y rhaglen, mae Anelu\u2019n Uchel yn un o brif brosiectau\u2019r sector.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Anelu\u2019n Uchel, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: \u201cMae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud \u00e2 Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>\u201cMae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy\u2019n credu y bydd prentisiaethau\u2019n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau\u2019r pandemig.<\/p>\n<p>\u201cDyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a\u2019n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw\u2019r norm i gyflogwyr.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Rhaglen Brentisiaethau lwyddiannus sy\u2019n anadlu bywyd newydd i\u2019r sector gweithgynhyrchu uwch yn ardaloedd dau awdurdod lleol yn y de wedi\u2019i chydnabod \u00e2 gwobr genedlaethol o bwys. Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu\u2019n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aspire-large-employer-award-winner\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8010","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8010","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8010"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8010\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8010"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8010"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8010"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}