{"id":8013,"date":"2021-06-30T19:15:11","date_gmt":"2021-06-30T18:15:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8013"},"modified":"2021-06-30T19:15:11","modified_gmt":"2021-06-30T18:15:11","slug":"bethany-mason-award-winner","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/bethany-mason-award-winner\/","title":{"rendered":"Un o Wobrau Prentisiaethau Cymru i Bethany, swyddog gwasanaethau profedigaeth"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/bethany-mason-award-winner\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/bethany-mason-award-winner\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13570\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13570\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Bethany-Mason-land-scaled-e1625076671684.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13570\" \/><p id=\"caption-attachment-13570\" class=\"wp-caption-text\">Bethany Mason, enillydd gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>Mae prentis swyddog gwasanaethau profedigaeth o\u2019r enw Bethany Mason wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys oherwydd ei pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb o dan amgylchiadau anodd.<\/p>\n<p>Mae Bethany, 21, o Llantrisant, yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac enillodd wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar 17 Mehefin.<\/p>\n<p>Ers i\u2019r ferch ifanc swil ymuno \u00e2 Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel prentis clerc mewnbynnu data yn 2016, mae Bethany, wedi llwyddo i oresgyn nifer o heriau anodd, gan wneud gwahaniaeth enfawr i staff Amlosgfa Glyn-taf ger Pontypridd a\u2019r teuluoedd galarus sy\u2019n defnyddio\u2019r amlosgfa.<\/p>\n<p>Mae wedi ymroi i\u2019w datblygiad personol, gan gwblhau Prentisiaeth Sylfaen ac, erbyn hyn, mae bron \u00e2 chwblhau NVQ lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, y ddau gymhwyster wedi\u2019u darparu gan Goleg y Cymoedd, Campws Nantgarw.<\/p>\n<p>Wrth ymateb i\u2019w llwyddiant, dywedodd Bethany: \u201cMae\u2019n wych cael ennill y wobr sy\u2019n dangos bod gwaith caled yn werth y drafferth. Rhaid i fi ddiolch i fy rheolwyr a fy hyfforddwyr am eu holl gefnogaeth.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n bwriadu manteisio ar bob cyfle a gaf yn y dyfodol a byddwn i\u2019n sicr yn argymell prentisiaeth achos mae\u2019n eich helpu i ddatblygu\u2019r sgiliau y mae arnoch eu hangen yn eich gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.<\/p>\n<p>Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i\u2019r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.<\/p>\n<p>Trwy gydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019i rheolwr, Ceri Pritchard, mae Bethany wedi meithrin sgiliau arwain ac wedi helpu i sicrhau bod Amlosga Glyn-taf yn rhedeg yn esmwyth trwy ddigideiddio a chanoli cofnodion claddu a chynlluniau mynwentydd ar gyfer mynwentydd Rhondda Cynon Taf.<\/p>\n<p>Yn ogystal, helpodd i gyflwyno porth digidol i ganfod cerddoriaeth ar gyfer gwasanaethau amlosgi, ynghyd \u00e2 gweddarllediadau a theyrngedau gweledol. Bu\u2019r rhain yn eithriadol o bwysig wrth gynnal angladdau o dan gyfyngiadau\u2019r pandemig.<\/p>\n<p>Mae ei gwaith wedi helpu\u2019r amlosgfeydd i redeg yn fwy effeithlon ac wedi helpu trefnwyr angladdau a phobl sy\u2019n ymchwilio i hanes eu teulu.<\/p>\n<p>Ychydig ar \u00f4l iddi gael secondiad i\u2019r t\u00eem gwasanaethau profedigaeth yn Amlosgfa Llwydcoed, aeth dau o gydweithwyr Bethany\u2019n s\u00e2l a bu\u2019n rhaid iddi ddysgu sgiliau newydd yn gyflym er mwyn iddi hi a\u2019i rheolwr allu rheoli\u2019r llwyth gwaith cymhleth a chynnig gwasanaeth da a dymunol i deuluoedd.<\/p>\n<p>\u201cYn ogystal \u00e2 rhoi\u2019r sgiliau i mi wneud fy ngwaith mewn ffordd broffesiynol a chydwybodol, mae\u2019r brentisiaeth wedi fy helpu i ddatblygu\u2019n bersonol a delio \u00e2 gwahanol sefyllfaoedd,\u201d meddai Bethany.<\/p>\n<p>\u201cMae wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder, fy hunan-fri a\u2019m sgiliau ac rwy\u2019n ymfalch\u00efo yn safon fy ngwaith.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Bethany, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: \u201cMae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud \u00e2 Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>\u201cMae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy\u2019n credu y bydd prentisiaethau\u2019n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau\u2019r pandemig.<\/p>\n<p>\u201cDyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a\u2019n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw\u2019r norm i gyflogwyr.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae prentis swyddog gwasanaethau profedigaeth o\u2019r enw Bethany Mason wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys oherwydd ei pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb o dan amgylchiadau anodd. Mae Bethany, 21, o Llantrisant, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/bethany-mason-award-winner\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8013","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8013","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8013"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8013\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8013"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8013"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8013"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}