{"id":8015,"date":"2021-06-30T19:22:27","date_gmt":"2021-06-30T18:22:27","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8015"},"modified":"2021-06-30T19:22:27","modified_gmt":"2021-06-30T18:22:27","slug":"compact-orbital-gears-award-winner","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/compact-orbital-gears-award-winner\/","title":{"rendered":"Cwmni g\u00ears arbenigol o\u2019r Canolbarth yn ennill gwobr genedlaethol o bwys"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/compact-orbital-gears-award-winner\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/compact-orbital-gears-award-winner\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13551\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13551\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Compact-Orbital-Gears-scaled-e1624000682186.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"357\" class=\"size-full wp-image-13551\" \/><p id=\"caption-attachment-13551\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr cynhyrchu Compact Orbital Gears, Rob Price gyda\u2019r prentisiaid Ruben Clements, Rowan Morgan, Ollie Leadbetter a Luke Jones, sydd wedi cwblhau ei brentisiaeth.<\/p><\/div>\n<p>Mae cwmni peirianneg o\u2019r Canolbarth, sydd wedi datblygu gweithlu hyblyg \u00e2 sgiliau amrywiol gan ddod yn enw blaenllaw yn y diwydiant g\u00ears arbenigol ers dros hanner canrif, wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys.<\/p>\n<p>Enillodd Compact Orbital Gears, sy\u2019n cyflogi 43 yn Rhaeadr Gwy, wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni\u2019n dylunio, yn cynhyrchu ac yn datblygu g\u00ears pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y byd awyrofod, moduron ac ynni gl\u00e2n. Y gallu hwn i gynnig cynnyrch wedi\u2019i gynllunio\u2019n arbennig yw\u2019r allwedd i lwyddiant y cwmni.<\/p>\n<p>Dywedodd Tricia Evans, rheolydd ariannol Compact Orbital Gears, fod y cwmni\u2019n hapus iawn o gael ei gydnabod am ei ymrwymiad i ddarparu prentisiaethau o safon uchel.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni wrth ein bodd o fod wedi ennill y wobr achos mae\u2019n cydnabod ymroddiad pawb yn y cwmni sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r Rhaglen Brentisiaethau,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n gamp enfawr i gwmni bach o\u2019r Canolbarth ddod i\u2019r brig am gyflogi prentisiaid yn y gymuned ac mae\u2019n glod i bawb sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglen, yn cynnwys Myrick Training a Gr\u0175p Colegau NPTC.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaid yn hollol hanfodol i\u2019n busnes ni. Rydym yn gorfod meithrin ein gweithwyr medrus ein hunain yma yn y Canolbarth, gan gefnogi\u2019r gymuned leol.\u201d<\/p>\n<p>Roedd y gwobrau\u2019n dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori ar 17 Mehefin.<\/p>\n<p>Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i\u2019r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 5,645 o bobl ledled y Canolbarth wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.<\/p>\n<p>Sefydlwyd Compact Orbital Gears yn yr 1960au ac mae\u2019n ymfalch\u00efo yn ei weithlu medrus, ei ysbryd  teuluol a\u2019i hanes maith o gyflogi prentisiaid o\u2019r Canolbarth.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae gan y cwmni dri phrentis a phump o weithwyr ifanc eraill yn gweithio tuag at gymwysterau Addysg Bellach. Mae Myrick Training a Gr\u0175p Colegau NPTC, Campws y Drenewydd yn darparu cymwysterau ym meysydd peirianneg, a busnes a gweinyddu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r penderfyniad i ganolbwyntio ar ddatblygu ei gronfa ei hunan o beirianwyr medrus yn talu\u2019r ffordd i Compact Orbital Gears mewn cyfnod o brinder ledled Prydain. Mae\u2019r Rhaglen Brentisiaethau\u2019n cynnig hyfforddiant technegol, gyda chyfarwyddyd arbenigol gan weithwyr profiadol yn y cwmni sy\u2019n rhannu eu sgiliau a\u2019u gwybodaeth gyda\u2019r prentisiaid.<\/p>\n<p>Gan fod Compact Orbital Gears yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu, mae\u2019r staff yn tueddu i aros yn hir a nod hirdymor y cwmni yw cyflwyno peiriannau cyfrifiadurol, modern, a fydd yn ddelfrydol ar gyfer helpu prentisiaid i ddatblygu.<\/p>\n<p>Ym marn y cwmni, mae twf organig yn allweddol i\u2019w lwyddiant, ac mae\u2019n cynnig lleoliadau gwaith i raddedigion ac i ddarpar beirianwyr o ysgolion yr ardal.<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Compact Orbital Gears, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: \u201cMae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud \u00e2 Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>\u201cMae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy\u2019n credu y bydd prentisiaethau\u2019n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau\u2019r pandemig.<\/p>\n<p>\u201cDyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a\u2019n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw\u2019r norm i gyflogwyr.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cwmni peirianneg o\u2019r Canolbarth, sydd wedi datblygu gweithlu hyblyg \u00e2 sgiliau amrywiol gan ddod yn enw blaenllaw yn y diwydiant g\u00ears arbenigol ers dros hanner canrif, wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys. Enillodd Compact Orbital Gears, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/compact-orbital-gears-award-winner\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8015","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8015","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8015"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8015\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8015"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8015"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8015"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}