{"id":8017,"date":"2021-06-30T19:27:25","date_gmt":"2021-06-30T18:27:25","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8017"},"modified":"2021-06-30T19:27:45","modified_gmt":"2021-06-30T18:27:45","slug":"convey-law-award-winner","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/convey-law-award-winner\/","title":{"rendered":"Rhaglen Brentisiaethau\u2019n ennill gwobr genedlaethol i gwmni cyfreithiol sy\u2019n tyfu"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/convey-law-award-winner\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/convey-law-award-winner\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13540\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13540\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Convey-Law-1-Land-scaled-e1623440883281.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13540\" \/><p id=\"caption-attachment-13540\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr gyfarwyddwr Convey Law, Lloyd Davies, gyda Sophia Ramzan sy\u2019n diwtor prentisiaid a Sean McCarthy, prentis.<\/p><\/div>\n<p>Enillodd cwmni cyfreithwyr Convey Law o Gasnewydd un o Wobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar \u00f4l plesio\u2019r beirniaid \u00e2\u2019i gynlluniau uchelgeisiol i dyfu hyd at 50% eleni gyda help Rhaglen Brentisiaethau ddyfeisgar.<\/p>\n<p>Y cwmni hwn, sy\u2019n bwriadu dysgu dros 50 o drawsgludwyr newydd dan hyfforddiant dros y flwyddyn nesaf \u00e2\u2019i Raglen Brentisiaethau fewnol, a enillodd wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo rithwir ar 17 Mehefin.<\/p>\n<p>Aeth Convey Law ati i ddatblygu llwybr prentisiaethau \u201ctrawsnewidiol\u201d ar \u00f4l cael anhawster i recriwtio digon o drawsgludwyr ar gyfer twf y busnes.<\/p>\n<p>Mewn ymateb i\u2019r wobr, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Convey Law, Lloyd Davies: \u201cMae pawb ohonom yn teimlo\u2019n wylaidd iawn o gael ein cydnabod am waith gwych ein t\u00eem yn datblygu ein rhaglen brentisiaethau a\u2019n cyrsiau hyfforddi.<\/p>\n<p>\u201cPan wnaethom ni benderfynu gweithredu gan na allem gyflogi digon o staff profiadol fel y gallem dyfu, doeddem ni ddim yn breuddwydio y byddai ein hacademi hyfforddi a\u2019n cyrsiau hyfforddi yn ein harwain ar hyd llwybr mor anhygoel a fyddai\u2019n rhoi cymaint o foddhad i ni. Mae\u2019n golygu ein bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o bobl yma yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.<\/p>\n<p>Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i\u2019r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<br \/>\nTrefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.<\/p>\n<p>Gwelodd Convey Law ei bod yn fwy buddiol hyfforddi ei weithwyr ei hunan yn y dulliau diweddaraf a\u2019u helpu i ddatblygu mewn ffordd sy\u2019n adlewyrchu gwerthoedd a dulliau gweithredu\u2019r cwmni.<\/p>\n<p>Yn 2014, sefydlodd y cwmni The Conveyancing Academy, sydd \u00e2 phartneriaeth gyllido \u00e2 Choleg Caerdydd a\u2019r Fro, i ddarparu cyrsiau i\u2019r diwydiant trawsgludo ehangach yng Nghymru a Lloegr.<\/p>\n<p>Caiff prentisiaid wneud Prentisiaeth Trawsgludwr Gweithredol a Phrentisiaeth Uwch Technegydd Trawsgludo cyn cymhwyso yn Drawsgludwr Trwyddedig Rheoledig Lefel 6 wrth weithio mewn amgylchedd trawsgludo proffesiynol am dair neu bedair blynedd.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o bractisiau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr yn mabwysiadu ein Llwybr Trawsgludo ni dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hynny\u2019n hwyluso\u2019r ffordd i filoedd o Drawsgludwyr Trwyddedig ifanc ennill cymwysterau proffesiynol,\u201d meddai James Smith, rheolwr datblygu busnes yn The Conveyancing Academy.<\/p>\n<p>O ganlyniad i fuddsoddi yn ei Raglen Brentisiaethau ei hunan cafodd Convey Law ganlyniadau ardderchog gyda sgoriau Trustpilot a dulliau eraill o fesur gwasanaeth i gleientiaid yn codi o 78% i 90%.<\/p>\n<p>Bu\u2019r rhaglen yn help i\u2019r cwmni gyrraedd ei dargedau recriwtio gyda nifer y trawsgludwyr yn codi o 25 yn 2019 i 55 yn 2020. Dyblwyd nifer y prentisiaid o 15 i 30 mewn blwyddyn.<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Convey Law, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: \u201cMae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud \u00e2 Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>\u201cMae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy\u2019n credu y bydd prentisiaethau\u2019n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau\u2019r pandemig.<\/p>\n<p>\u201cDyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a\u2019n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw\u2019r norm i gyflogwyr.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Enillodd cwmni cyfreithwyr Convey Law o Gasnewydd un o Wobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar \u00f4l plesio\u2019r beirniaid \u00e2\u2019i gynlluniau uchelgeisiol i dyfu hyd at 50% eleni gyda help Rhaglen Brentisiaethau ddyfeisgar. Y cwmni hwn, sy\u2019n bwriadu dysgu &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/convey-law-award-winner\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8017","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8017","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8017"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8017\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8017"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8017"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8017"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}