{"id":8019,"date":"2021-06-30T19:32:41","date_gmt":"2021-06-30T18:32:41","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8019"},"modified":"2021-06-30T19:32:41","modified_gmt":"2021-06-30T18:32:41","slug":"jessica-apps-award-winner","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jessica-apps-award-winner\/","title":{"rendered":"Gwobr genedlaethol i ddysgwraig a symudodd o Affrica i gychwyn bywyd newydd yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/jessica-apps-award-winner\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jessica-apps-award-winner\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13579\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13579\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Jessica-Apps-29-camera-land-scaled-e1625077820421.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13579\" \/><p id=\"caption-attachment-13579\" class=\"wp-caption-text\">Jessica Apps, Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu)<\/p><\/div>\n<p>Mae merch ifanc sy\u2019n anelu at yrfa fel athrawes ar \u00f4l symud o Affrica i gychwyn bywyd newydd yn ne Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys.<\/p>\n<p>Jessica Apps, 19, o Forgeside, Blaenafon, a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar 17 Mehefin.<\/p>\n<p>Er bod ganddi gymwysterau cyfatebol i TGAU pan ddaeth i Brydain o Botswana, doedd Jessica ddim yn cael mynd i goleg ac felly collodd ei hyder ac roedd yn teimlo\u2019n unig tan iddi ymuno \u00e2 Sgiliau Cyf sydd wedi\u2019i disgrifio fel esiampl ddisglair.<\/p>\n<p>Roedd dilyn Rhaglen Ymgysylltu Creadigol ar Hyfforddeiaeth yn fodd i Jessica ddatblygu ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol a bu hynny\u2019n hwb i\u2019w hyder. Yn ogystal, gwnaeth Wobr Efydd Dug Caeredin a gwneud llawer o ffrindiau newydd.<\/p>\n<p>Yn awr mae\u2019n astudio ar gyfer Lefel A mewn Cymdeithaseg, Ffotograffiaeth a Llenyddiaeth yng Ngholeg Gwent ac mae\u2019n gobeithio mynd i\u2019r brifysgol i astudio cymdeithaseg a mynd yn athrawes.<\/p>\n<p>Mewn ymateb i\u2019w llwyddiant, dywedodd Jessica: \u201cMae\u2019r wobr hon yn golygu cymaint i mi. Roeddwn yn nerfus iawn cyn symud i Gymru ac ro\u2019n i\u2019n poeni a oeddwn i\u2019n gwneud y peth iawn. Mae\u2019r wobr yn dangos fy mod i yn gwneud rhywbeth yn iawn.<\/p>\n<p>\u201cMae Sgiliau Cyf a fy nheulu wedi fy nghefnogi a fy ysgogi i gyflawni fy mhotensial. Roedd gwneud Hyfforddeiaeth yn sicr yn werth chweil gan ei fod wedi newid fy mywyd yma yng Nghymru ac rwy\u2019n edrych ymlaen at fynd i\u2019r brifysgol ym mis Medi.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.<\/p>\n<p>Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i\u2019r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.<\/p>\n<p>Mae Jessica, a symudodd i Gymru gyda\u2019i mam a\u2019i chwaer iau, yn awyddus i barhau i wirfoddoli gyda Sgiliau Cyf er mwyn helpu pobl ifanc eraill sy\u2019n teimlo wedi ymddieithrio oddi wrth addysg a gwaith fel yr oedd hi ar un adeg.<\/p>\n<p>\u201cAlla i ddim diolch digon i Sgiliau am fy helpu i ddatblygu i\u2019r person ydw i heddiw,\u201d meddai. \u201cRwy wedi bod yn awyddus i helpu pobl erioed ac rwy wir yn mwynhau gwirfoddoli gyda\u2019r cwmni. Mae hynny wedi rhoi hwb i fy awydd i fod yn athrawes.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Jessica, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: \u201cMae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud \u00e2 Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>\u201cMae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy\u2019n credu y bydd prentisiaethau\u2019n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau\u2019r pandemig.<\/p>\n<p>\u201cDyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a\u2019n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw\u2019r norm i gyflogwyr.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae merch ifanc sy\u2019n anelu at yrfa fel athrawes ar \u00f4l symud o Affrica i gychwyn bywyd newydd yn ne Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys. Jessica Apps, 19, o Forgeside, Blaenafon, a enillodd wobr Dysgwr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jessica-apps-award-winner\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8019","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8019","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8019"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8019\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8019"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8019"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8019"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}