{"id":8021,"date":"2021-07-01T19:56:46","date_gmt":"2021-07-01T18:56:46","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8021"},"modified":"2021-07-01T19:56:46","modified_gmt":"2021-07-01T18:56:46","slug":"karen-richards-award-winner","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/karen-richards-award-winner\/","title":{"rendered":"Gwobr genedlaethol yn cyfrif i Karen, y tiwtor cyfrifeg"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/karen-richards-award-winner\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/karen-richards-award-winner\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13582\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13582\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/Karen-Richards-Blurred-Background-scaled-e1625165590946.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13582\" \/><p id=\"caption-attachment-13582\" class=\"wp-caption-text\">Karen Richards, Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith<\/p><\/div>\n<p>Mae Karen Richards, sy\u2019n ysbrydoli ac yn cefnogi ei dysgwyr cyfrifeg i gyflawni eu potensial, wedi ennill gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru.<\/p>\n<p>Karen, 54, o\u2019r Coed-duon, yw tiwtor a chydlynydd cyfrifeg ACT, Caerdydd ers 2016 ac enillodd y wobr yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar 17 Mehefin.<\/p>\n<p>Mae cyfradd basio o 86% yn golygu bod dysgwyr Karen yn gwneud dipyn yn well na\u2019r cyfartaledd cenedlaethol. Mae ganddi bob amser dros 60 o ddysgwyr ar wahanol gamau o\u2019u hyfforddiant AAT (Association of Accounting Technicians) ac mae\u2019n dysgu mewn gweithdai dydd a rhai gyda\u2019r nos, a hynny ar-lein yn ystod y pandemig.<\/p>\n<p>Dywedodd Karen: \u201cPan ddechreuais i yn y gwaith, doeddwn i ddim yn disgwyl ennill gwobr fel hon. Roeddwn i wedi gwirioni pan oedd fy rheolwr yn awyddus i fy enwebu ac alla i ddim credu bod hyn wedi digwydd. Rwy wrth fy modd.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n ei gweld yn fraint fawr cael gweithio gyda dysgwyr a\u2019u gweld yn datblygu yn broffesiynol. Mae\u2019n deimlad gwych derbyn neges ebost gan ddysgwr sydd wedi fy mhasio i ac sy\u2019n gyfarwyddwr cyllid erbyn hyn. Rwy\u2019n gwybod bod nifer o fy nysgwyr yn gwylio\u2019r seremoni wobrwyo.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.<\/p>\n<p>Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i\u2019r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.<\/p>\n<p>Mae Karen yn defnyddio\u2019r cyfoeth o brofiad sydd ganddi i ddysgu Diploma Uwch a Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg mewn ffordd ddifyr a hwyliog. Yn ogystal \u00e2 hyfforddi ei dysgwyr Lefel 4 hi ei hunan yn ACT, mae Karen yn cynnig cefnogaeth i ddarparwyr dysgu eraill pan fydd eu dysgwyr yn ei chael yn anodd.<\/p>\n<p>Mae ganddi gymwysterau AAT i Lefel 4, Tystysgrif Addysg a Dyfarniad Aseswyr ac mae\u2019n ymroi i ehangu ei gwybodaeth a hybu ei datblygiad proffesiynol yn barhaus.<\/p>\n<p>A hithau\u2019n frwd o blaid dysgu a\u2019i gwneud yn haws i ddysgwyr ymdopi \u00e2 chymwysterau AAT, mae Karen yn addasu ei dull o ddysgu ac yn defnyddio gwahanol adnoddau sy\u2019n addas i wahanol ddysgwyr, rhai ohonynt yn wynebu rhwystrau fel dyslecsia a gorbryder.<\/p>\n<p>Rhedodd un dysgwr Lefel 2 allan o arholiad pan gafodd bwl o orbryder ond, gyda chefnogaeth Karen, aeth ymlaen i ennill cymhwyster Lefel 4.<\/p>\n<p>\u201cMae tiwtor yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu nod, yn gweithredu fel mentor, cheerleader a chlust i wrando,\u201d meddai Karen. \u201cMae\u2019n sefyllfa freintiedig a gallwch gael effaith bwerus \u2013 pa un bynnag a ydych chi\u2019n chwech oed neu\u2019n 60, mae angen profiad o lwyddiant ar bawb ohonom.<\/p>\n<p>\u201cPan rwy\u2019n derbyn sylwadau fel \u2018Wnaeth Karen byth anobeithio amdanaf i, hyd yn oed pan oeddwn i wedi anobeithio amdanaf fy hunan\u2019 mae\u2019n fy atgoffa pam rwy\u2019n dysgu.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Karen, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: \u201cMae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud \u00e2 Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>\u201cMae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy\u2019n credu y bydd prentisiaethau\u2019n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau\u2019r pandemig.<\/p>\n<p>\u201cDyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a\u2019n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw\u2019r norm i gyflogwyr.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Karen Richards, sy\u2019n ysbrydoli ac yn cefnogi ei dysgwyr cyfrifeg i gyflawni eu potensial, wedi ennill gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru. Karen, 54, o\u2019r Coed-duon, yw tiwtor a chydlynydd cyfrifeg ACT, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/karen-richards-award-winner\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8021","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8021","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8021"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8021\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8021"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8021"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8021"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}