{"id":8145,"date":"2021-12-09T09:30:41","date_gmt":"2021-12-09T09:30:41","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8145"},"modified":"2021-12-06T15:02:14","modified_gmt":"2021-12-06T15:02:14","slug":"trawsnewid-digidol-dsw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/trawsnewid-digidol-dsw\/","title":{"rendered":"Trawsnewidiad Digidol Dysgu Seiliedig ar Waith"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wbl-digital-transformation\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/trawsnewid-digidol-dsw\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/enews-story-7-12-2021-KS-e1638720725731.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/enews-story-7-12-2021-KS-e1638720725731.jpg\" alt=\"Clawr adroddiad JISC ar ddysgu seiliedig ar waith 2021\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"alignleft size-full wp-image-13887\" \/><\/a><\/p>\n<p>Wrth i ni agos\u00e1u at ddiwedd blwyddyn, rydym yn aml yn edrych yn \u00f4l gan fyfyrio ar yr hyn a fu a meddwl tybed beth a ddaw nesaf. Aeth fy myfyrdodau \u00e2 mi yn \u00f4l i 2008, pan wnaethom ni gynnal arolwg e-ddysgu Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW). <\/p>\n<p>Bryd hynny, dim ond 16% o ddarparwyr DSW oedd ag unrhyw fath o strategaeth ddigidol, ychydig iawn roedd dros 50% o\u2019r rheolwyr yn ei ddeall am y sgiliau roedd ar staff eu hangen ar gyfer e-ddysgu, dim ond traean o&#8217;r darparwyr oedd yn rhoi unrhyw fath o gyfle i ddysgwyr ddefnyddio technoleg i gofnodi tystiolaeth a doedd dysgu cyfunol heb hyd yn oed ei ystyried \u2013 sefyllfa sy&#8217;n hollol ddieithr i ni heddiw, yn bennaf o ganlyniad i gydweithredu a rhannu gweledigaeth.<\/p>\n<p>Ymlaen \u00e2 ni wedyn i 2019, pan aeth darparwyr DSW ati, ar y cyd \u00e2 Jisc, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, i helpu i lunio ac yna gofleidio fframwaith Digidol 2030 a, wedyn, y safonau dysgu ac addysgu digidol. <\/p>\n<h4>Gweledigaeth Digidol 2030<\/h4>\n<p>Bydd darparwyr dysgu \u00f4l-16 yn integreiddio technoleg ddigidol i\u2019w gwaith yn ddi-dor; ac yn annog arloesi wrth ddefnyddio dulliau cynhwysol, hygyrch a dwyieithog i wella profiad y dysgwr. Ar sail ymwybyddiaeth o\u2019r sgiliau digidol y mae eu hangen i gefnogi economi Cymru, bydd darparwyr yn sicrhau bod dysgwyr a staff yn datblygu\u2019r galluoedd a\u2019r hyder digidol y bydd arnynt eu hangen er mwyn llwyddo mewn bywyd bob-dydd ac mewn gwaith. <\/p>\n<p>Mae Jisc yn dal i gydweithio \u00e2\u2019r sector i\u2019w helpu i roi Digidol 2030 ar waith ac i fesur y cynnydd at wireddu ei weledigaeth a chyrraedd ei nodau, gan ddefnyddio fersiwn wedi&#8217;i haddasu o wasanaeth <a href=\"https:\/\/digitalinsights.jisc.ac.uk\/digital-experience-insights-wales-post-16-providers\/mewnwelediad-i-gymru\/\">Digital Experience Insights gan Jisc<\/a>. Yn 2021, cymerodd dros 1000 o ddysgwyr DSW a 200 o staff ran yn yr arolwg, gan helpu i bennu meysydd i\u2019w gwella a\u2019u blaenoriaethu.<\/p>\n<h4>Rhai uchafbwyntiau<\/h4>\n<ul>\n<li>Rhoddodd 83% o ddysgwyr sg\u00f4r uchel i ansawdd yr addysgu a&#8217;r dysgu digidol ar eu cwrs.<\/li>\n<li>Mae 81% o ddysgwyr yn rhoi sg\u00f4r uchel i ddarpariaeth ddigidol eu darparwr dysgu\n<li>Mae gan ddwy ran o dair o ddysgwyr fynediad at ddeunyddiau cwrs ar-lein a 58% at adnoddau hyfforddi sgiliau ar-lein pryd bynnag y bo angen.<\/li>\n<li>Rhoddodd tri chwarter y dysgwyr sg\u00f4r uchel i ansawdd y dulliau cyflwyno ar eu cyrsiau o ran diwallu eu hanghenion wrth gwblhau eu cwrs, gyda 69% yn rhoi sg\u00f4r uchel i\u2019r dulliau cyflwyno fel rhai oedd yn diwallu anghenion cyflogwyr presennol neu ddarpar gyflogwyr.<\/li>\n<li>Mae 83% o&#8217;r staff addysgu yn cael eu symbylu i ddefnyddio technoleg i gefnogi addysgu ond dim ond 57% sy&#8217;n hyderus  wrth ddefnyddio offer digidol \u201cyn yr ystafell ddosbarth\u201d.<\/li>\n<li>Mae\u2019r ganran sy\u2019n rhoi sg\u00f4r gadarnhaol i welliant parhaus profiad y dysgwr a phrosesau busnes trwy ddefnydd effeithiol ac arloesol o dechnoleg ddigidol wedi mwy na dyblu, o 30% yn 2019 i 65% yn 2021.<\/li>\n<li>Yn yr un modd, mae\u2019r sg\u00f4r ar gyfer staff ac uwch-reolwyr sy\u2019n deall manteision technoleg ddigidol wedi codi o 29% i 62%.<\/li>\n<li>Mae\u2019r sg\u00f4r ar gyfer staff sydd \u00e2 galluoedd a hyder mewn dulliau digidol wedi codi o 37% yn 2019 i 59% yn 2021.<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Gwella dysgu digidol<\/h4>\n<p>Er bod llawer i\u2019w ddathlu yn y ffigurau hyn, nid yw\u2019r sefyllfa\u2019n f\u00eal i gyd. Er enghraifft, mae\u2019r twf sydyn yng ngalluoedd a hyder staff mewn dulliau digidol yn rhywbeth i\u2019w groesawu. Fodd bynnag, mae\u2019r un dystiolaeth yn dangos bod 41% o staff yn dal i deimlo nad oes ganddynt allu na hyder mewn dulliau digidol.<br \/>\nYn 2022, mae Llywodraeth Cymru\u2019n ariannu Jisc i gynnig amryw o gyfleoedd datblygu strategol a phroffesiynol ar gyfer arweinwyr ac ymarferwyr DSW yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>cynnal y cwrs addysgeg ddigidol o\u2019r enw \u2018Crafted Teaching, Active Learning\u2019 eto<\/li>\n<li>cwrs pwrpasol ar gyfer Arweinwyr Digidol yng Nghymru<\/li>\n<li>llunio rhaglen newydd \u2018dylunio dysgu\u2019<\/li>\n<li>cydweithio \u00e2 chynrychiolwyr o\u2019r sector i greu adnoddau llythrennedd digidol<\/li>\n<li>adolygiadau o waith cyflenwi digidol, gan arwain at gynllun gweithredu gan y gwahanol sefydliadau i fynd i\u2019r afael \u00e2 blaenoriaethau digidol a bennwyd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Credaf fod \u201camserau digidol\u201d hyd yn oed fwy cyffrous o flaen y sector ac edrychwn ymlaen at gydweithio ar y daith ddigidol.<\/p>\n<p>Alyson Nicholson, Pennaeth Jisc Cymru<br \/>\nE-bost: <a href=\"mailto:Alyson.Nicholson@Jisc.ac.uk\">Alyson.Nicholson@Jisc.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Wrth i ni agos\u00e1u at ddiwedd blwyddyn, rydym yn aml yn edrych yn \u00f4l gan fyfyrio ar yr hyn a fu a meddwl tybed beth a ddaw nesaf. Aeth fy myfyrdodau \u00e2 mi yn \u00f4l i 2008, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/trawsnewid-digidol-dsw\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8145","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8145","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8145"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8145\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8145"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8145"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8145"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}