{"id":8188,"date":"2021-12-09T09:45:45","date_gmt":"2021-12-09T09:45:45","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8188"},"modified":"2021-12-06T15:03:05","modified_gmt":"2021-12-06T15:03:05","slug":"ewc-dec21","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ewc-dec21\/","title":{"rendered":"Newyddion gan Gyngor y Gweithlu Addysg"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ewc-dec21\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ewc-dec21\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<h4>Cymerwch gamau nesaf eich gyrfa gydag Addysgwyr Cymru<\/h4>\n<p>Ydych chi am gymryd camau nesaf eich gyrfa ym myd addysg? Neu efallai mai sefydliad ydych chi sy&#8217;n awyddus i bostio swydd, cymhwyster neu gyfle dysgu proffesiynol? Wel, gall <a href=\"https:\/\/educators.wales\/home\">Addysgwyr Cymru<\/a> helpu &#8211; yn rhad ac am ddim!<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Educators-Wales-scaled-e1638465270906.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Educators-Wales-scaled-e1638465270906.jpg\" alt=\"Ystafell ddosbarth gydag athro\/athrawes a dysgwyr\" width=\"460\" height=\"286\" class=\"alignleft size-full wp-image-13859\" \/><\/a><\/p>\n<p>Wedi&#8217;i ariannu gan Lywodraeth Cymru a&#8217;i ddatblygu gan Gyngor y Gweithlu Addysg, mae Addysgwyr Cymru yn cynnwys ystod o wasanaethau i gefnogi addysgwyr a darparwyr fel ei gilydd.<\/p>\n<p>Gallwch ymweld \u00e2&#8217;r porthol gyrfaoedd, lle gwelwch doreth o wybodaeth am yrfaoedd ym myd addysg, gan gynnwys y cymwysterau a&#8217;r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer rolau penodol.<\/p>\n<p>Efallai mai hyfforddiant yw\u2019r peth rydych chi\u2019n chwilio amdano; os taw e, ewch i&#8217;n porthol hyfforddiant lle gallwch chwilio am hyfforddiant i gael mynediad i&#8217;r proffesiwn neu&#8217;r cyfleoedd dysgu proffesiynol diweddaraf. Gall darparwyr hysbysebu eu cyfleoedd hyfforddi hefyd.<\/p>\n<p>Yn olaf, mae porthol swyddi Cymru gyfan yn darparu siop un stop i ddarparwyr sydd am bostio\u2019u cyfleoedd gwaith diweddaraf, a gweithwyr proffesiynol sy&#8217;n chwilio am y r\u00f4l ddelfrydol nesaf.<\/p>\n<h4>Mae digwyddiadau gaeaf Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau<\/h4>\n<p>Yn dilyn y digwyddiad llwyddiannus &#8216;Symud o ymarfer di-hiliol i ymarfer gwrth-hiliol&#8217; fis diwethaf, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cynnal dau ddigwyddiad arall i gefnogi dysgu proffesiynol a chodi ymwybyddiaeth o feysydd allweddol ym maes addysg. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Events-Cym-e1638468665769.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Events-Cym-e1638468665769.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"257\" class=\"alignleft size-full wp-image-8195\" \/><\/a><\/p>\n<p>Lansiodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ei Canllaw Ymarfer Da diweddaraf yn ei ddigwyddiad &#8216;Symud o ymarfer di-hiliol i ymarfer gwrth-hiliol&#8217; fis diwethaf. Mae&#8217;r ddogfen yn canolbwyntio ar fynd i&#8217;r afael \u00e2 hiliaeth ac yn ceisio cefnogi cofrestreion i ddeall sut y gall eu hymddygiad a&#8217;u hymarfer helpu i greu amgylcheddau cynhwysol a chroesawgar i ddysgwyr a phobl ifanc.<\/p>\n<p>Bydd CGA yn cynnal dau ddigwyddiad arall i gefnogi dysgu proffesiynol a chodi ymwybyddiaeth o feysydd allweddol ym maes addysg dros y misoedd nesaf:<\/p>\n<p><strong>Siarad yn Broffesiynol 2022 gyda&#8217;r Athro Yong Zhao &#8211; Myfyrwyr fel perchnogion dysgu a phartneriaid newid addysgol \u2013 26 Ionawr 2022, 19:00-20:30<\/strong><br \/>\nCaiff y digwyddiad hwn, na ddylid ei gyflwyno gan yr Athro Yong Zhao sy\u2019n arweinydd agweddau, yn addysgwr ac yn awdur enwog ac uchel iawn ei barch yn rhyngwladol. Trafodir ailsefydlu\u2019r dysgwr yn ganolbwynt ymarfer drwy ystyried dysgwyr fel y sbardun ar gyfer newid addysgol. Yn ei anerchiad, bydd yn gwahodd mynychwyr i ystyried arwyddoc\u00e2d amrywiaeth dysgwyr, bwriad dysgwyr, ac ymgysylltiad dysgwyr mewn newidiadau addysgol, yn arbennig ar \u00f4l y pandemig COVID-19.<\/p>\n<p><strong>Mae pawb yn arweinydd &#8211; felly sut olwg sydd ar hynny? &#8211; Dosbarth meistr gyda Dr Lyn Sharratt \u2013 1 Chwefror 2022, 14:00-16:00<\/strong><br \/>\nCaiff y dosbarth meistr hwn ei arwain gan yr athro, yr ymchwilydd, yr awdur a\u2019r cyflwynydd doniog, Dr Lyn Sharratt. Bydd yn archwilio arferion sy\u2019n cael effaith sylweddol gan sicrhau bod pob arweinydd, ymarferydd a dysgwr yn tyfu, yn cyflawni ac yn profi lles. Cewch wybod mwy am y digwyddiadau hyn a cofrestru ar eu cyfer.<br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ewc.wales\/site\/index.php\/cy\/datblygiad-proffesiynol\/digwyddiadau.html\">Digwyddiadau Cyngor y Gweithlu Addysg<\/a><\/p>\n<h4>Cyhoeddi canllaw newydd i helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 hiliaeth ym maes addysg<\/h4>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/EWC-racism-welsh-e1638470747401.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/EWC-racism-welsh-e1638470747401.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"259\" class=\"alignleft size-full wp-image-8197\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei <a href=\"https:\/\/www.ewc.wales\/site\/index.php\/cy\/priodoldeb-i-ymarfer\/canllawiau-ymarfer-da.html\">Ganllaw Ymarfer Da<\/a> diweddaraf ynghylch mynd i\u2019r afael \u00e2 hiliaeth.<\/p>\n<p>Cafodd y canllaw, sydd wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a BAMEed Wales, ei lansio i gyd-daro \u00e2 digwyddiad ar y cyd gan CGA, Addysgwyr Cymru a BAMEed, \u2018Symud o ymarfer di-hiliol i ymarfer gwrth-hiliol: hyrwyddo cydraddoldeb di-hiliol mewn addysg\u2019.<\/p>\n<p>Nod y ddogfen hon, y ddiweddaraf mewn cyfres o ganllawiau ymarfer da, yw cynorthwyo\u2019r holl gofrestreion i ddeall sut y gall eu hymddygiadau a\u2019u hymarfer helpu i greu amgylcheddau cynhwysol a chroesawgar i ddysgwyr a phobl ifanc.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n nodi\u2019n glir y camau y gellir eu cymryd wrth ganfod a mynd i\u2019r afael \u00e2 materion hiliaeth yn ogystal \u00e2 sut i hyrwyddo cydraddoldeb \u2013 i gyd yn unol \u00e2\u2019r cyfrifoldebau a nodir yng Nghod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ewc.wales\/\">Cyngor y Gweithlu Addysg<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cymerwch gamau nesaf eich gyrfa gydag Addysgwyr Cymru Ydych chi am gymryd camau nesaf eich gyrfa ym myd addysg? Neu efallai mai sefydliad ydych chi sy&#8217;n awyddus i bostio swydd, cymhwyster neu gyfle dysgu proffesiynol? Wel, gall &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ewc-dec21\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8188","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8188","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8188"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8188\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8188"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8188"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8188"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}