{"id":8236,"date":"2021-12-16T06:00:50","date_gmt":"2021-12-16T06:00:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8236"},"modified":"2021-12-15T16:08:10","modified_gmt":"2021-12-15T16:08:10","slug":"jessica-isa-educ8","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jessica-isa-educ8\/","title":{"rendered":"Jessica, a fu\u2019n brentis, yn cyflogi prentisiaid yn ei salon ei hunan erbyn hyn"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/jessica-isa-educ8\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jessica-isa-educ8\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13917\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Jessica-Davies-reduced-scaled-e1639555454875.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13917\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Jessica-Davies-reduced-scaled-e1639555454875.jpg\" alt=\"Hairdresser and apprentice in salon\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13917\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13917\" class=\"wp-caption-text\">Jessica Davies yn goruchwylio\u2019i phrentis, Caitlin Simmonds, wrth ei gwaith yn y salon.<\/p><\/div>\n<p>Roedd Jessica Davies mor falch o\u2019r prentisiaethau trin gwallt a ddilynodd ar ddechrau ei gyrfa fel ei bod hi\u2019n cyflogi prentisiaid yn ei salon ei hunan erbyn hyn.<\/p>\n<p>Mewn dim ond 10 mlynedd, datblygodd Jessica, sy\u2019n 26, o fod yn ferch ifanc oedd \u00e2 swydd dydd Sadwrn i fod yn berchennog ar JD Hairdressing yn Abersychan, Torfaen, lle mae\u2019n cyflogi dwy brentis, Caitlin Simmonds, 19, a Jordan Jones, 17. <\/p>\n<p>Llwyddodd i wireddu breuddwyd plentyndod trwy ennill cymwysterau trin gwallt ond freuddwydiodd hi erioed y byddai\u2019n berchen busnes yn ddim ond 21 oed.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l ennill cymhwyster Trin Gwallt Lefel 1 tra oedd yn yr ysgol ac yn gweithio yn Hair on Harpers ar ddyddiau Sadwrn, symudodd ymlaen i wneud Prentisiaeth Sylfaen yn 16 oed.<\/p>\n<p>Yna, gwnaeth Jessica Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Barbwr a Phrentisiaeth mewn Trin Gwallt cyn manteisio ar y cyfle i brynu cynnwys Hair on Harpers bum mlynedd yn \u00f4l. Newidiwyd enw\u2019r salon i JD Hairdressing ac, erbyn hyn, mae Jessica\u2019n ymdrechu i ddatblygu\u2019r busnes cyn chwilio am gyfleoedd i ehangu.<\/p>\n<p>Trefnwyd ei phrentisiaethau gan ISA Training, Caerffili, ar ran Llywodraeth Cymru, a nhw sy\u2019n hyfforddi prentisiaid Jessica erbyn hyn.<\/p>\n<p>\u201cFues i\u2019n lwcus iawn i gael cyfle i ddysgu wrth weithio a mynd ymlaen i gwblhau prentisiaethau mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr,\u201d meddai Jessica, sy\u2019n byw ym Mhont-y-p\u0175l. \u201cDoeddwn i byth yn meddwl y cawn i fy salon fy hunan.<\/p>\n<p>\u201cYr uchafbwyntiau i mi yw gweld fy mhrentisiaid a\u2019r busnes yn tyfu \u2013 mae hynny\u2019n wych. Mae\u2019n anhygoel bod cleientiaid wedi bod yn ffyddlon i mi ers pan o\u2019n i\u2019n gweithio yma ar dyddiau Sadwrn pan o\u2019n i yn yr ysgol.<\/p>\n<p>\u201cYn fy marn i, prentisiaeth yw\u2019r ffordd orau i ddysgu. Fe ddysgais i lawer iawn gan y prentisiaid eraill ar y dechrau. Rwy eisiau rhoi yr un cyfle i bobl ifanc heddiw ag y ces i pan o\u2019n i\u2019n brentis.<\/p>\n<p>\u201cMae cael prentisiaid yn y salon yn help enfawr i\u2019r busnes ac i mi. Heblaw amdanyn nhw, fyddwn i ddim yn y man lle\u2019r ydw i heddiw a fyddai\u2019r busnes ddim mor llwyddiannus.\u201d<\/p>\n<p>Bu Caitlin, sy\u2019n byw yn Nhrefddyn, yn gweithio i Jessica ers dwy flynedd ac mae wedi cwblhau ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Trin Gwallt. Ei bwriad yn awr yw ychwanegu Gwaith Barbwr at ei CV.<\/p>\n<p>\u201cMae Jessica yn f\u00f2s ardderchog,\u201d meddai. \u201cMae wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus trwy fy ngwthio i wneud pethau nad o\u2019n i\u2019n gyfforddus yn eu gwneud i ddechrau. Ro\u2019n i eisiau gwneud prentisiaeth achos, yn fy marn i, rydych chi\u2019n dysgu mwy wrth weithio nag wrth fynd i\u2019r coleg.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Donna Friend, rheolwr rhaglenni ISA Training: \u201cRwy\u2019n credu ei bod yn wych i ni, sy\u2019n ddarparwr hyfforddiant, weld ein dysgwyr yn datblygu ac yn dod yn berchen ar eu busnes eu hunain \u2013 a gweld hwnnw\u2019n tyfu trwy ddefnyddio prentisiaid.<\/p>\n<p>\u201cMae ein cyflogwyr yn chwilio am ddysgwyr sydd \u00e2 sgiliau bywyd ac sydd wedi cael profiad yn y gweithle a dyna\u2019n union beth mae Jessica wedi\u2019i wneud.\u201d<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhelliad ariannol i gyflogwyr gyflogi prentis cyn 28 Chwefror y flwyddyn nesaf, os bydd arian ar gael, er mwyn hybu datblygiad y gweithlu.<\/p>\n<p>Mae cymelldaliadau o hyd at \u00a34,000 ar gael am gyflogi prentis 16\u201324 oed, hyd at \u00a32,000 am brentis 25 oed a throsodd ac mae taliad ychwanegol o \u00a31,500 i\u2019w gael am bob person ag anabledd a gyflogir.<\/p>\n<p>Gofynnir i gyflogwyr a hoffai wybod rhagor am y cymelldaliadau fynd i Borth Sgiliau Busnes Cymru https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/skills-and-training-programmes\/apprenticeships\/funding-available , ebost: apprenticeships@ntfw.org neu ffonio 03301 228338.<\/p>\n<p>T\u00eem Prentisiaethau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy\u2019n delio \u00e2 holl ymholiadau cyflogwyr am brentisiaethau trwy Borth Sgiliau Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y t\u00eem a Rhaglen Brentisiaethau Cymru eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.isatraining.co.uk\/\">ISA Training<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Roedd Jessica Davies mor falch o\u2019r prentisiaethau trin gwallt a ddilynodd ar ddechrau ei gyrfa fel ei bod hi\u2019n cyflogi prentisiaid yn ei salon ei hunan erbyn hyn. Mewn dim ond 10 mlynedd, datblygodd Jessica, sy\u2019n 26, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jessica-isa-educ8\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8236","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8236","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8236"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8236\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8236"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8236"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8236"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}