{"id":8387,"date":"2022-03-08T02:00:45","date_gmt":"2022-03-08T02:00:45","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8387"},"modified":"2022-09-13T10:11:45","modified_gmt":"2022-09-13T09:11:45","slug":"diwrnod-rhyngwladol-y-menywod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/diwrnod-rhyngwladol-y-menywod\/","title":{"rendered":"Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ysbrydoli sgyrsiau am yrfaoedd lle mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/international-womens-day-2022\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/diwrnod-rhyngwladol-y-menywod\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_14133\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14133\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/lindsay-james-preece-e1646066764620.jpg\" alt=\"Female apprentice standing by company van\" width=\"460\" height=\"286\" class=\"size-full wp-image-14133\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14133\" class=\"wp-caption-text\">Lindsay James Preece, Level 3 Plumbing<\/p><\/div>\n<p>Er mwyn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD) ar 8 Mawrth, mae sefydliad sy\u2019n cynrychioli darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn bwriadu cynnal tair trafodaeth yn ystod y mis gyda\u2019r nod o sicrhau cydbwysedd rhwng dynion a menywod ac amrywiaeth mewn prentisiaethau.<\/p>\n<p>Bydd trafodaethau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn canolbwyntio ar ganfod ffyrdd cynaliadwy o fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r anghydbwysedd rhwng y rhywiau sydd mewn prentisiaethau mewn sectorau fel adeiladu a pheirianneg.  <\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi\u2019r dasg i NTfW o ddarparu rhagor o gyfleoedd i ferched mewn prentisiaethau mewn sectorau lle mae llawer mwy o ddynion ac i ddynion mewn sectorau lle mae llawer mwy o ferched.<\/p>\n<p>Mae #IWD2022, ar y thema #RhwygoRhagfarn #BreakTheBias, yn achlysur byd-eang sy\u2019n dathlu\u2019r hyn y mae menywod yn ei gyflawni yn gymdeithasol, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol ac mae\u2019n galw am gydraddoldeb rhwng y rhywiau. <\/p>\n<p>Mae ymgyrch #RhwygoRhagfarn #BreakTheBias yn gofyn i bobl dynnu sylw at stereoteipio a gwahaniaethu ar sail rhywedd er mwyn creu byd amrywiol, teg a chynhwysol lle mae dynion a menywod yn gyfartal.<\/p>\n<p>Cynhelir trafodaeth gyntaf NTfW, \u2018Sicrhau Cydbwysedd rhwng y Rhywiau mewn Prentisiaethau\u2019, ar 24 Mawrth. Y pynciau allweddol fydd: darparu rhaglen brentisiaethau gynhwysol ar sail data, cynyddu cyfranogiad a chefnogaeth cyflogwyr, dysgu oddi wrth brentisiaid, a rhwygo rhagfarn gyda chyflogwyr, darparwyr, dylanwadwyr a theulu <\/p>\n<p>Ymhlith y merched ysbrydoledig fydd yn siarad mae cyn-brentis o\u2019r enw Charlie Hargreaves o Wates Construction, a Catrin Atkins, cydsefydlydd Women in Tech Cymru, a fydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar eu llwybrau nhw i\u2019r diwydiannau adeiladu a thechnoleg.  <\/p>\n<p>Teitlau\u2019r trafodaethau eraill fydd \u2018Sicrhau bod rhagor o bobl anabl yn cymryd rhan mewn prentisiaethau\u2019 ar 28 Mawrth a \u2018Sicrhau bod rhagor o bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn cymryd rhan mewn prentisiaethau\u2019 ar 30 Mawrth. <\/p>\n<p>Trefnir y trafodaethau, sydd ar gyfer gwahoddedigion yn unig, gan Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW. Gellir cysylltu \u00e2 hi ar <a href=\"mailto:humie.webbe@ntfw.org?Subject=International Women's Day\">humie.webbe@ntfw.org<\/a>.<\/p>\n<p>\u201cMae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i gydnabod prentisiaid benywaidd a dathlu eu llwyddiant,\u201d meddai Humie.  \u201cMae thema eleni, #RhwygoRhagfarn #BreaktheBias yn tynnu sylw at yr angen i dargedu cefnogaeth fel y gall menywod lwyddo yn y gyrfaoedd o&#8217;u dewis, yn enwedig mewn diwydiannau sydd wedi bod yn lle i ddynion yn bennaf, fel adeiladu a pheirianneg. <\/p>\n<p>\u201cWrth inni ymdrechu i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn prentisiaethau yn y sectorau adeiladu a pheirianneg, lle mae menywod yn brin, rydym yn awyddus i gydweithio \u00e2 chyflogwyr i dynnu sylw at eu harferion da ac i annog menywod a merched ifanc i ymuno \u00e2\u2019r diwydiant.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae newid canfyddiad, agweddau ac ymddygiad pobl yn fuddsoddiad hirdymor. Mae trafodaethau wedi\u2019u targedu yn ffordd dda o edrych ar yr hyn sy&#8217;n angenrheidiol er mwyn i fenywod a dynion fynd i weithio mewn meysydd lle nad ydyn nhw\u2019n cael eu cynrychioli&#8217;n ddigonol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae\u2019r pedwar prif ddeiliad contract sy\u2019n darparu prentisiaethau a rhaglenni dysgu eraill i Lywodraeth Cymru, wedi dod at ei gilydd o dan faner NTfW ar #IWD2022 i dynnu sylw at fenywod llwyddiannus yn eu cwmn\u00efau.<\/p>\n<p>Mae <strong>Zoe Goodall, cyfarwyddwr cyflenwi ACT Training, Caerdydd<\/strong>, wedi dringo o fod yn asesydd dan hyfforddiant yn 2005 i fod yn gyfarwyddwr sy\u2019n gyfrifol am gyflenwi holl raglenni dysgu\u2019r cwmni. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Zoe-Goodall_ACT-cropped-scaled-e1646324819742.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Zoe-Goodall_ACT-cropped-scaled-e1646324819742.jpg\" alt=\"Portrait photo of Zoe Goodall\" width=\"460\" height=\"305\" class=\"alignleft size-full wp-image-14188\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae Zoe, sy&#8217;n rhoi pwyslais mawr ar les a hapusrwydd, wedi arwain datblygiad a thwf y ddarpariaeth yn ACT, a enwyd yn Gyflogwr y Flwyddyn y DU: Platinwm (250+) yng Ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2021. <\/p>\n<p>Wrth edrych yn \u00f4l ar ei gyrfa hyd yma, dywedodd Zoe, \u201cRwy\u2019n eithriadol o falch o gael bod yn rhan o stori lwyddiant ACT a thaith y cwmni hyd yma.  Ers i mi ymuno 17 o flynyddoedd yn \u00f4l, rwy wedi gweld ACT yn tyfu ac yn datblygu\u2019n aruthrol o lai na 100 o staff i gyflogi bron 400 o bobl ddawnus tu hwnt erbyn hyn. <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n enghraifft o\u2019r ffordd y gall prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith gynnig cyfleoedd gwych am yrfaoedd a bod yn fan cychwyn ar gyfer llwyddiant aruthrol.\u201d<\/p>\n<p>Mae <strong>Amanda Williams, Pennaeth Rheoli Contractau a Phartneriaethau gydag ITEC Skills and Employment, Caerdydd<\/strong>, wedi cael sawl dyrchafiad o swydd weinyddol chwe wythnos yn 1994 i\u2019w swydd bresennol 28 mlynedd yn ddiweddarach<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Amanda-Williams_ITEC-cropped-scaled-e1646324880943.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Amanda-Williams_ITEC-cropped-scaled-e1646324880943.jpg\" alt=\"Portrait of Amanda Williams\" width=\"230\" height=\"151\" class=\"alignright size-full wp-image-14189\" \/><\/a><\/p>\n<p>A hithau yn ei helfen yn swydd rheolwr, enillodd Wobr Hyfforddiant Genedlaethol am reoli\u2019r rhaglen Gateway to Work. Bu&#8217;n rheolwr contractau, yn rheolwr busnes ac yn rheoli rhaglenni Llywodraeth Cymru ym meysydd Hyfforddeiaethau a Sgiliau Cyflogadwyedd ar ran y cwmni cyn rheoli cadwyn gyflenwi prentisiaethau ledled de-ddwyrain, gorllewin a chanolbarth Cymru.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l ennill NVQ mewn Arwain T\u00eem a chymhwyster mewn Rheoli ac Arwain i&#8217;w helpu i symud ymlaen yn ei gyrfa, dywedodd Amanda: \u201cMae cael ffydd ym mhobl eraill yr un mor bwysig \u00e2 bod \u00e2 ffydd ynoch chi&#8217;ch hunan. <\/p>\n<p>\u201cDangosodd rheolwr ffydd ynof i, ac wedyn ro&#8217;n i&#8217;n gallu dangos ffydd mewn pobl eraill, gan ysbrydoli a galluogi pobl i gyflawni eu dyheadau.  Does dim pen draw ar eich potensial oherwydd, bob dydd, rydych yn dal i dyfu a gwella nid eich bywyd eich hun yn unig ond bywydau&#8217;r bobl o&#8217;ch cwmpas hefyd.\u201d <\/p>\n<p>Mae gan <strong>Ann Nicholas, cyfarwyddwr cyfrifon cwsmeriaid gydag Educ8 Training, Caerffili<\/strong>, dros 16 mlynedd o brofiad ym maes hyfforddiant ac addysg a hi oedd y cyntaf o\u2019i theulu i fynd i\u2019r brifysgol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Ann-Nicholas_Educ8-cropped-scaled-e1646324919133.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Ann-Nicholas_Educ8-cropped-scaled-e1646324919133.jpg\" alt=\"Portrait of Ann Nicholas\" width=\"230\" height=\"151\" class=\"alignleft size-full wp-image-14190\" \/><\/a><\/p>\n<p>A hithau&#8217;n llysgennad dros ddysgu gydol oes, mae&#8217;n credu\u2019n angerddol mewn prentisiaethau, ac addysgu a dysgu o safon uchel.  Mae hi a\u2019i phum cyd-gyfarwyddwr wedi sicrhau mai Educ8 oedd y Cwmni Canolig Gorau i Weithio Iddo yn 2021, y Darparwr Addysg a Hyfforddiant Gorau i Weithio Iddo yn 2021 a Chyflogwr y Flwyddyn yr FSB.  Mae&#8217;r cwmni, sy&#8217;n un o&#8217;r Fast Growth 50, wedi ennill statws Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl hefyd.<\/p>\n<p>Ymunodd Ann ag Educ8 fel uwch-reolwr cyfrifon yn 2017 a dychwelodd at y cwmni i&#8217;w swydd bresennol yn 2020 ar \u00f4l cyfnod fel pennaeth recriwtio gyda Trafnidiaeth Cymru.<\/p>\n<p>\u201cRwy&#8217;n cydweithio \u00e2\u2019r bwrdd cyfarwyddwyr, gan rannu syniadau, cefnogi ein gilydd wrth wynebu heriau ac mewn llwyddiant, a chysoni ein nodau er mwyn sicrhau ein bod yn helpu ein gilydd i dyfu, gwella a chyrraedd cerrig milltir personol neu broffesiynol,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cRydym wedi adeiladu cwmni wedi&#8217;i seilio ar werthoedd ac ethos.  Ein staff sydd wrth galon y busnes ac mae gennym enw da iawn am ddarpariaeth bwrpasol, o safon uchel.  Felly, mae\u2019r busnes yn ehangu\u2019n gyflym.\u201d<\/p>\n<p>Mae <strong>Catherine Watkin, swyddog cyllid Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng<\/strong>, yn aelod allweddol o\u2019r staff, yn cefnogi\u2019r cyfarwyddwr cyllid ac yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau Cymraeg yn y cwmni.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Cath-Watkin_CTC-cropped-v2-scaled-e1646324971124.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Cath-Watkin_CTC-cropped-v2-scaled-e1646324971124.jpg\" alt=\"Portrait of Catherine Watkin\" width=\"460\" height=\"305\" class=\"alignleft size-full wp-image-14191\" \/><\/a><\/p>\n<p>Ers iddi ymuno \u00e2\u2019r cwmni ar raglen Twf Swyddi Cymru 10 mlynedd yn \u00f4l, mae wedi cyflawni pum prentisiaeth, yn fwyaf diweddar Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Rheoli, Lefel 3.<\/p>\n<p>\u201cRwy mor falch o\u2019r hyn rydw i wedi\u2019i gyflawni yn Hyfforddiant Cambrian. Fyddwn i ddim wedi gallu ei wneud heb y dechreuad gefais i drwy Twf Swyddi Cymru,\u201d meddai Cath.  \u201cMae&#8217;r cwmni wedi fy nghefnogi i barhau i ddysgu trwy nifer o brentisiaethau.<\/p>\n<p>\u201cMae deng mlynedd wedi hedfan heibio ac rwy\u2019n edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf.   Mae\u2019r cwmni wedi esblygu dros fy nghyfnod i yma ac rwy\u2019n falch o fod yn rhan o gwmni sy\u2019n newid ac yn tyfu\u2019n barhaus.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.internationalwomensday.com\/\">International Women&#8217;s Day<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Er mwyn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD) ar 8 Mawrth, mae sefydliad sy\u2019n cynrychioli darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn bwriadu cynnal tair trafodaeth yn ystod y mis gyda\u2019r nod o sicrhau cydbwysedd rhwng dynion a menywod &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/diwrnod-rhyngwladol-y-menywod\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8387","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8387","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8387"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8387\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8774,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8387\/revisions\/8774"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8387"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8387"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8387"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}