{"id":8412,"date":"2022-03-23T08:00:51","date_gmt":"2022-03-23T08:00:51","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8412"},"modified":"2022-03-22T10:19:38","modified_gmt":"2022-03-22T10:19:38","slug":"rlp-mawrth-2022","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlp-mawrth-2022\/","title":{"rendered":"Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/rlp-march-2022\">English<\/a> | <id=\"top\"> <id=\"wel\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlp-mawrth-2022\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/aerial-view-of-industrial-buildings-highway-sml-e1647943441553.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/aerial-view-of-industrial-buildings-highway-sml-e1647943441553.jpg\" alt=\"aerial view of industrial buildings\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"alignleft size-full wp-image-14413\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae disgwyl i\u2019r Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau tair blynedd ar gyfer 2022-2025 gael eu lansio yn nes ymlaen eleni.<\/p>\n<p>Dechreuwyd trafod gyda busnesau eisoes, gan s\u00f4n am y sgiliau y bydd angen amdanynt yn y dyfodol a\u2019r heriau y mae angen mynd i\u2019r afael \u00e2 nhw. Cyfle i weld beth sy\u2019n digwydd yn eich rhanbarth chi.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlp-mawrth-2022#ccrsp\">Prifddinas-Ranbarth Caerdydd<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlp-mawrth-2022#rlspsww\">Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlp-mawrth-2022#nweab\">Uchelgais Gogledd Cymru<\/a><\/p>\n<h4 id=\"ccrsp\"> <strong id=\"english\"><a href=\"https:\/\/www.cardiffcapitalregion.wales\/cy\/\">Prifddinas-Ranbarth Caerdydd<\/a><\/strong><\/h4>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ccr-logo-sml.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" style=\"border: none; box-shadow: none;\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/ccr-logo-sml.jpg\" alt=\"\" width=\"240\" height=\"149\" class=\"alignleft size-full wp-image-14403\" \/><\/a><br \/>\nMae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu&#8217;n rhanbarthol gyda&#8217;r nod o ysgogi\u2019r galw am swyddi a sgiliau trwy roi\u2019r hyblygrwydd i ddatblygu ymatebion ar sail anghenion lleol a rhanbarthol.  Mae PSPRC yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y cyfeiriad strategol ar gyfer sgiliau ac yn gwneud argymhellion ar feysydd twf neu ddirywiad, ar sail tystiolaeth gadarn a chysylltiad cryf \u00e2 chyflogwyr a rhanddeiliaid. <\/p>\n<p>Lansiwyd PSPRC ym mis Hydref 2019 a datblygu Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau tair blynedd 2019-22 a ddefnyddir i lunio\u2019r blaenoriaethau sgiliau ar gyfer cyflogwyr ledled y rhanbarth ac i ddylanwadu ar y ddarpariaeth a gynigir drwy\u2019r sectorau Addysg Bellach a dysgu seiliedig ar waith.  Paratowyd y Cynllun trwy driongli gwybodaeth am y farchnad lafur, ymchwilio ac ymgysylltu \u00e2 chyflogwyr ac fe\u2019i lluniwyd gan y Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau a grwpiau clwstwr blaenoriaeth o dan arweiniad cyflogwyr. <\/p>\n<p>Yn fwy diweddar, mae PSPRC wedi bod yn gweithio i ddatblygu Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau tair blynedd rhanbarthol newydd a gaiff ei lansio yn hydref 2022. Er mwyn cefnogi&#8217;r broses ymgysylltu hollbwysig, bydd PSPRC yn cynnal digwyddiad yn nes ymlaen eleni ac iddo ddau ddiben.  Yn gyntaf, bydd y digwyddiad yn fan cychwyn i drafodaethau gyda chyflogwyr, rhanddeiliaid a darparwyr addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 i helpu i ganfod heriau y mae angen mynd i&#8217;r afael \u00e2 nhw ym maes sgiliau. <\/p>\n<p>Yn ail, bydd PSPRC yn defnyddio\u2019r digwyddiad fel cyfle i hyrwyddo Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc wrth randdeiliaid allweddol ledled y de-ddwyrain ac i annog cydweithio ar draws y rhanbarth.  Yn hyn o beth, mae PSPRC wedi ymrwymo i ddeall sefyllfa\u2019r rhanbarth yn well ac i ganfod pa gymorth \/ darpariaeth sydd ar gael i bobl ifanc yn lleol ac yn rhanbarthol ar hyn o bryd ym meysydd addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a llesiant. <\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy y datblygiad hwn, cysylltwch \u00e2: <a href=\"mailto:RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk\">RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlp-mawrth-2022#top\">yn \u00f4l i&#8217;r brig>><\/a><\/p>\n<h4 id=\"rlspsww\"> <strong id=\"english\"><a href=\"http:\/\/www.rlp.org.uk\/cym\">Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru<\/a><\/strong><\/h4>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/sww-logo-sml.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" style=\"border: none; box-shadow: none;\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/sww-logo-sml.jpg\" alt=\"\" width=\"240\" height=\"149\" class=\"alignleft size-full wp-image-14402\" \/><\/a><br \/>\nErs i ni gyhoeddi&#8217;r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru, bu newid enfawr yn y ffordd y mae pobl yn gweithio; y mathau o swyddi sydd ar gael ac, yn bwysicach efallai, y sgiliau sydd eu hangen bellach gan ddiwydiant i hybu eu busnesau ar \u00f4l y pandemig. Mae&#8217;r cyfnod cythryblus y mae llawer wedi&#8217;i wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu bod sgiliau newydd wedi&#8217;u nodi fel gofyniad allweddol i fusnesau ac felly mae&#8217;n bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau ein bod yn darparu&#8217;r sgiliau cywir yn ein colegau a&#8217;n prifysgolion; drwy ein darpariaeth prentisiaethau a thrwy&#8217;r cynnig galwedigaethol mewn ysgolion. Mae eich cyfranogiad CHI yn y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer 2022-2025 yn ALLWEDDOL i sicrhau ein bod yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru pa sgiliau sydd eu hangen yn ein hardal a ble mae angen iddynt ddyrannu eu cyllid er mwyn bodloni&#8217;r gofynion sgiliau a nodwyd.<\/p>\n<p>Mae cannoedd o fusnesau o bob rhan o&#8217;r rhanbarth wedi bod yn ymgysylltu \u00e2&#8217;r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (RLSP) nid yn unig drwy ein harolwg sgiliau ar-lein ond drwy ein grwpiau clwstwr yn y sector Diwydiant, sy&#8217;n gyfle i bawb ddweud eu dweud am sgiliau a thrafod anghenion sgiliau yn y dyfodol wrth i ddiwydiannau ddatblygu.  Diolch ichi am eich cyfranogiad a gobeithiwn y byddwch yn parhau yn y ddeialog \u00e2&#8217;r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ac yn dweud eich dweud yn y cynllun yr ydym yn ei baratoi ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Ar gyfer y miloedd o fusnesau micro, bach, canolig a mawr yn y rhanbarth nad ydynt eisoes wedi ymwneud \u00e2&#8217;r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, rydym yn un o bedair partneriaeth sgiliau yng Nghymru sy&#8217;n gweithio ar draws y rhanbarth i ddeall y blaenoriaethau allweddol o ran sgiliau y mae diwydiannau yn ein rhanbarthau yn eu hwynebu. Rydym yn defnyddio&#8217;r wybodaeth hon i lywio&#8217;r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i lywio&#8217;r broses o ddyrannu cyllid ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru ac yn enwedig yn ein rhanbarth. Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn ymuno \u00e2 ni yn y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol i sicrhau y gallwn gynnwys eich llais yn ein cynllun. Gallwch ymuno \u00e2 gr\u0175p clwstwr diwydiant neu gwblhau&#8217;r arolwg ar-lein neu gysylltu \u00e2 ni i gael trafodaeth.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol hefyd yn arwain ar y Rhaglen Sgiliau a Thalentau ar gyfer Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda chyllid ar gyfer prosiect peilot allweddol i ddatblygu&#8217;r atebion hyfforddi arloesol hynny ar gyfer cyrsiau nad ydynt yn cael eu darparu yn ein hardal ar hyn o bryd. Gallwch gymryd rhan drwy gysylltu \u00e2&#8217;r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol  yn ein grwpiau clwstwr neu arolygon.<\/p>\n<p>Byddwch yn rhan o&#8217;r broses o newid y dirwedd sgiliau drwy gwblhau&#8217;r arolwg HEDDIW, peidiwch ag oedi! Anfonwch yr arolwg ymlaen i&#8217;ch cysylltiadau busnes a&#8217;u hannog i gymryd rhan a lleisio eu barn ar sgiliau yn Ne-orllewin Cymru. <a href=\"https:\/\/www.surveymonkey.co.uk\/r\/3B2GJFF\">www.surveymonkey.co.uk\/r\/3B2GJFF<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlp-mawrth-2022#top\">yn \u00f4l i&#8217;r brig>><\/a><\/p>\n<h4 id=\"nweab\"> <strong id=\"english\"><a href=\"https:\/\/uchelgaisgogledd.cymru\/\">Uchelgais Gogledd Cymru<\/a><\/strong><\/h4>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/nwr-logo-sml.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" style=\"border: none; box-shadow: none;\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/nwr-logo-sml.jpg\" alt=\"\" width=\"240\" height=\"149\" class=\"alignleft size-full wp-image-14404\" \/><\/a><br \/>\nWrth i&#8217;n Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth presennol ar gyfer Gogledd Cymru ddod i ben ddiwedd y flwyddyn hon rydym nawr yn blaenoriaethu datblygiad ein cynllun tair blynedd newydd. Cyn bo hir byddwn yn mynd yn fyw gydag arolwg cyflogwyr ac yn ystod mis Mai a mis Mehefin byddwn yn cynnal nifer o weithdai ac ymgynghoriadau partneriaid, rhanddeiliaid a chyflogwyr. Bydd y gweithdai a\u2019r ymgynghoriadau hyn yn nodi\u2019r blaenoriaethau sgiliau a chyflogaeth allweddol ar gyfer ein rhanbarth, yn unol \u00e2\u2019n cynllun economaidd rhanbarthol, gan gynnwys y Cynllun Twf Gogledd Cymru. Byddwn hefyd yn nodi sectorau allweddol a thwf rhanbarthol a sut i leihau\u2019r prinder sgiliau sy\u2019n wynebu busnesau yn ein sectorau twf rhanbarthol ac isranbarthol.<\/p>\n<p>Byddwn yn canolbwyntio ar addysg a sgiliau \u00f4l-16, addysg uwch, mewnwelediad gyrfaol a sut y gallwn helpu i ddarparu addysg ysgol wych yn ogystal \u00e2 gwella cysylltiadau \u00e2 busnes. Byddwn yn edrych ar sut i adeiladu sgiliau gweithlu, hyrwyddo prentisiaethau, STEM a dulliau newydd o ddenu talent i&#8217;r rhanbarth gan ystyried sgiliau lefel uwch.<\/p>\n<p>Bydd tynnu sylw at y darlun ehangach o ran cyflogadwyedd a nodi camau gweithredu allweddol y gall cyflogwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid eu cyflawni yn bwysig iawn i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei cerrig milltir cenedlaethol fel yr amlygwyd yn y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau a gyhoeddwyd yn ddiweddar &#8211; Cymru gryfach, decach a gwyrddach. <\/p>\n<p>Mae gennym r\u00f4l ganolog i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni\u2019r weledigaeth ar gyfer Cymru Decach, Gryfach, Weddech, mewn perthynas \u00e2\u2019r 5 maes gweithredu allweddol:<\/p>\n<ul>\n<li>Pobl ifanc yn gwireddu eu potensial<\/li>\n<li>Mynd i&#8217;r afael ag anghydraddoldeb economaidd<\/li>\n<li>Hyrwyddo Gwaith Teg i Bawb<\/li>\n<li>Cefnogi pobl \u00e2 chyflwr iechyd hirdymor i weithio<\/li>\n<li>Meithrin diwylliant dysgu am oes<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch \u00e2 Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol <a href=\"mailto:SianLloydRoberts@uchelgaisgogledd.cymru\">SianLloydRoberts@uchelgaisgogledd.cymru<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlp-mawrth-2022#top\">yn \u00f4l i&#8217;r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae disgwyl i\u2019r Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau tair blynedd ar gyfer 2022-2025 gael eu lansio yn nes ymlaen eleni. Dechreuwyd trafod gyda busnesau eisoes, gan s\u00f4n am y sgiliau y bydd angen amdanynt yn y dyfodol a\u2019r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rlp-mawrth-2022\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8412","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8412","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8412"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8412\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8412"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8412"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8412"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}