{"id":8442,"date":"2022-03-23T08:00:22","date_gmt":"2022-03-23T08:00:22","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8442"},"modified":"2022-03-21T11:13:32","modified_gmt":"2022-03-21T11:13:32","slug":"educ8-mawrth22","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-mawrth22\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau \u2013 Yr Allwedd i Adferiad Busnesau ar \u00f4l Covid?"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/Educ8-march22\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/Educ8-mawrth22\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>I lawer o fusnesau, bu&#8217;r pandemig yn gyfnod ansicr. Mae&#8217;r cyfnodau clo a&#8217;r cyfyngiadau wedi effeithio ar bob agwedd ar waith sefydliadau, o gadwyni cyflenwi i drefniadau gweithio a chyflenwi nwyddau a gwasanaethau. Cafodd effaith aruthrol hefyd ar y farchnad swyddi, gyda diweithdra&#8217;n cynyddu ymhlith pobl ifanc ar ddechrau&#8217;r cyfnodau clo, yn enwedig yn y sectorau a gafodd eu taro waethaf.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n bwysicach nag erioed cefnogi cyflogwyr a dysgwyr trwy waith hyfforddi a datblygu. Rydym ni yn Educ8 yn cydnabod bod hyfforddiant o ansawdd da yn hanfodol i baratoi ein cymunedau at y dyfodol.<br \/>\nWrth i\u2019r sefyllfa economaidd a chymdeithasol barhau i esblygu\u2019n gyflym, bydd sgiliau a phrentisiaethau yn chwarae rhan arwyddocaol yn adferiad busnesau ar \u00f4l y pandemig, gan eu helpu i addasu a thyfu wrth symud ymlaen.<\/p>\n<div id=\"attachment_14361\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/WNS_220222_Educ8_Training_15-scaled-e1647519654561.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14361\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/WNS_220222_Educ8_Training_15-scaled-e1647519654561.jpg\" alt=\"Grant Santos, Chief Executive Officer, Educ8 Training\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-14361\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14361\" class=\"wp-caption-text\">Grant Santos, Prif Swyddog Gweithredol, Educ8 Training<\/p><\/div>\n<p><strong>Mae\u2019n anodd recriwtio<\/strong><br \/>\nMewn baromedr busnes gan y <a href=\"https:\/\/www.open.ac.uk\/business\/news\/open-university-business-barometer#DownloadBB\">Brifysgol Agored<\/a>, cytunodd 63% o&#8217;r penderfynwyr bod eu sefydliad wedi&#8217;i chael yn anodd recriwtio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac nad oedd gan ymgeiswyr y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swydd.<\/p>\n<p>Mae tua 64% o&#8217;r farn bod diffyg sgiliau ymgeiswyr wedi ymestyn y broses recriwtio ac mae sawl busnes wedi recriwtio ar lefel is na\u2019r disgwyl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan wario arian ar ddysgu sgiliau i weithwyr newydd, ar gost o \u00a316,800 ar gyfartaledd.<\/p>\n<p>Er hynny, mae cyflogwyr blaengar wedi amlinellu eu strategaethau hyfforddi er mwyn sicrhau llwyddiant eu busnes yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Dywed mwy na hanner y bydd prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith yn chwarae rhan hanfodol yn nyfodol eu sefydliadau, ac mae 96% o&#8217;r busnesau sy\u2019n cyflogi prentisiaid ar hyn o bryd yn disgwyl cynnal neu gynyddu nifer eu prentisiaethau yn y 12 mis nesaf.<\/p>\n<p>Ledled y Deyrnas Unedig, mae llywodraethau wedi ymrwymo i wario ar addysg a hyfforddiant. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn pontio\u2019r bwlch sgiliau a helpu busnesau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p>Yng Nghymru, buddsoddodd y Llywodraeth \u00a3152m mewn prentisiaethau yn 2021, yn cynnwys \u00a318.7m mewn cymelliadau i gyflogwyr i recriwtio a chefnogi pobl ifanc. Wedi hynny, lansiodd Llywodraeth Cymru ei <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/y-warant-i-bobl-ifanc-html\">Gwarant i Bobl Ifanc<\/a>, er mwyn cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed.<\/p>\n<p>Cafodd cymelliadau <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/cyllid-chymhwystra\">a lansiwyd yn ystod y pandemig<\/a> i helpu busnesau Cymru i recriwtio prentisiaid eu hymestyn i 2022, gyda busnesau\u2019n gallu hawlio hyd at \u00a34,000 am bob prentis newydd, ar saili oedran ac oriau eu contract.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cymelliadau hyn, sy\u2019n rhan o adduned Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau i ddod dros effeithiau\u2019r coronafeirws, yn golygu bod <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/llywodraeth-cymrun-ymestyn-y-cynllun-cymhellion-i-fusnesau-ar-gyfer-recriwtio-prentisiaid-gan\">dros 5,500 o brentisiaid newydd eisoes wedi&#8217;u recriwtio<\/a> ers mis Awst 2020 \u2013 roeddent i fod i gau ym mis Medi 2021, ond byddant yn parhau yn awr tan ddiwedd Mawrth 2022.<\/p>\n<p><strong>Yr allwedd i adeiladu dyfodol busnesau<\/strong><br \/>\nSeilir y gefnogaeth ariannol hon i brentisiaethau ar fanteision pendant fel y dengys <a href=\"https:\/\/www.apprenticeships.gov.uk\/employers\/benefits-of-hiring-apprentice\">data<\/a> gan drefnwyr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau:<\/p>\n<ul>\n<li>Dywedodd 86% o gyflogwyr fod prentisiaethau yn eu helpu i ddatblygu sgiliau sy\u2019n berthnasol i\u2019w sefydliad<\/li>\n<li>Dywedodd 78% fod prentisiaethau yn eu helpu i fod yn fwy cynhyrchiol<\/li>\n<li>Dywedodd 74% eu bod yn helpu i wella ansawdd eu cynnyrch neu eu gwasanaeth<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;r cyfraddau uchel hyn yn dangos bod prentisiaethau o fudd i&#8217;r ddwy ochr.<br \/>\nMae prentis yn ychwanegu gwerth at fusnes, fel y wybodaeth ddiweddaraf trwy ddysgu parhaus ac ymdrin \u00e2 thasgau lefel isel fel y gall staff uwch ganolbwyntio ar faterion lle mae angen eu sylw. Gallai hyn olygu ailadeiladu neu hyd yn oed uwchraddio\u2019r busnes, paratoi ar gyfer y \u2018normal nesaf\u2019 a beth fydd hynny\u2019n ei olygu.<\/p>\n<p>Yn ogystal, gall prentisiaeth fod yn addas ar gyfer aelod presennol o&#8217;r staff, fel rhai sydd mewn swyddi rheoli, er mwyn datblygu eu sgiliau a\u2019u dulliau arwain ac, yn eu tro, wella\u2019r ffordd y mae\u2019r busnes yn gweithredu.<\/p>\n<p>Gan fod modd addasu prentisiaethau i ddiwallu anghenion y cyflogwyr, nhw sy&#8217;n penderfynu pa sgiliau ddylai eu gweithiwr delfrydol eu cael, cyn cydweithio ag Educ8 Training i greu cwricwlwm i&#8217;w datblygu.<\/p>\n<p>Trwy ymateb yn uniongyrchol i fylchau sgiliau penodol, mae prentisiaeth yn gyfle i lenwi swydd wag mewn ffordd sy\u2019n hybu twf a datblygiad parhaus ac yn codi safon busnes, gan roi mantais iddo yn eu sector.<\/p>\n<p>Sefydlwyd Educ8 Training ar set o werthoedd penodol, mewn ymateb i brinder sgiliau yn ne Cymru. Caiff ei sbarduno gan werthoedd fel gonestrwydd, uniondeb, parch a phositifrwydd ac rydym yn credu&#8217;n angerddol mewn sicrhau bod pobl yn cyrraedd eu llawn botensial i hybu swyddi a mentergarwch yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mewn byd cystadleuol ar \u00f4l Covid, mae meithrin potensial yn rhan hanfodol o&#8217;r ffordd y mae busnesau&#8217;n symud ymlaen o wneud dim ond goroesi i ffynnu unwaith eto.<\/p>\n<p>Grant Santos<br \/>\nPrif Swyddog Gweithredol, Educ8 Training <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/\">Educ8 Training<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg I lawer o fusnesau, bu&#8217;r pandemig yn gyfnod ansicr. Mae&#8217;r cyfnodau clo a&#8217;r cyfyngiadau wedi effeithio ar bob agwedd ar waith sefydliadau, o gadwyni cyflenwi i drefniadau gweithio a chyflenwi nwyddau a gwasanaethau. Cafodd effaith aruthrol hefyd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-mawrth22\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8442","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8442","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8442"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8442\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8442"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8442"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8442"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}