{"id":8562,"date":"2022-06-21T07:00:29","date_gmt":"2022-06-21T06:00:29","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8562"},"modified":"2022-06-06T14:18:58","modified_gmt":"2022-06-06T13:18:58","slug":"antur-waunfawr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/antur-waunfawr\/","title":{"rendered":"Clod i fenter gymdeithasol o\u2019r gogledd am ei gweithle dwyieithog"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/antur-waunfawr\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/antur-waunfawr\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae menter gymdeithasol flaenllaw o\u2019r gogledd sy\u2019n cynnig swyddi a hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymunedau yn cael clod am hybu gweithle dwyieithog.<\/p>\n<div id=\"attachment_14552\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/PB027-2022-82-scaled-e1654365289661.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14552\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/PB027-2022-82-scaled-e1654365289661.jpg\" alt=\"Manager and apprentices outstide industrial building\" width=\"460\" height=\"316\" class=\"size-full wp-image-14552\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14552\" class=\"wp-caption-text\">Uwch-reolwr Antur Waunfawr, Haydn Jones (canol) gyda dau o\u2019r prentisiaid, Dafydd Emrys (chwith) a Tom Griffiths.<\/p><\/div>\n<p>Mae Antur Waunfawr, sydd \u00e2 safleoedd yn y Waunfawr a Chaernarfon, yn cyflogi 120 o staff ac yn cefnogi 64 o oedolion ag anawsterau dysgu, gan ddarparu gwasanaethau gwerthfawr ym meysydd ailddefnyddio, ailgylchu ac iechyd a lles.<\/p>\n<p>Nod y fenter gymdeithasol yw creu cymdeithas arloesol, gyfartal, gynhyrchiol, garbon-isel trwy feithrin teulu o fusnesau lleol cynaliadwy i gefnogi cymunedau cadarn a llesiant i bawb.<\/p>\n<p>Mae busnesau Antur Waunfawr yn ailgylchu gwastraff, yn darparu gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol, yn atgyweirio ac yn ailgylchu dodrefn, yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu tecstilau ac yn llogi ac yn atgyweirio beiciau fel rhan o ganolfan iechyd a lles.  Mae gan y cwmni gwsmeriaid ledled y gogledd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r holl staff yn siarad Cymraeg ac mae saith wrthi&#8217;n gweithio tuag at brentisiaethau a gyflenwir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian sy\u2019n darparu hyfforddiant ledled Cymru, a Progression Training.<\/p>\n<p>Mae un gweithiwr wrthi&#8217;n cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, a gyflenwir yn uniaith Gymraeg.  Mae dau weithiwr yn anelu at Brentisiaeth Sylfaen mewn Ailgylchu Cynaliadwy Lefelau 2 a 3 trwy WAMITAB ac mae pedwar yn gweithio tuag at Brentisiaethau City &#038; Guilds mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a 3 yn ddwyieithog.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cymeradwyo Antur Waunfawr am hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle. <\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae\u2019r iaith Gymraeg yn rhan o hunaniaeth y cwmni ac rydan ni\u2019n falch o gael bod yn weithle lle gallwn ni ddefnyddio\u2019r iaith yn naturiol,\u201d meddai uwch-reolwr Antur Waunfawr, Haydn Jones. \u201cMae\u2019r rhan fwyaf o ddefnyddwyr ein gwasanaethau yn Gymry Cymraeg.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cEin nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn dal i gael defnyddio\u2019r iaith Gymraeg yn y gwaith o ddydd i ddydd ar \u00f4l gorffen eu haddysg. Does dim rhaid iddyn nhw fod yn rhugl yn yr iaith. Gallan nhw ddefnyddio Cymraeg syml. Mae angen i ni groesawu ac annog rhai sy\u2019n dysgu Cymraeg.<\/p>\n<p>\u201cByddai\u2019n wych pe bai modd defnyddio\u2019r Gymraeg mewn rhagor o weithleoedd.\u201d<\/p>\n<p>Wrth s\u00f4n am werth prentisiaethau dwyieithog, dywedodd: \u201cMaen nhw\u2019n rhan hanfodol o\u2019n cwmni ni. Mae\u2019n ffordd o feithrin datblygiad y staff gan eu helpu i feistroli eu gwaith a rhoi\u2019r hyder iddyn nhw symud ymlaen.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n cael boddhad mawr o weld balchder ein staff pan fyddan nhw\u2019n llwyddo yn eu prentisiaeth.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Amy Edwards, pennaeth rheoli adnoddau cynaliadwy ac ynni gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, fod Antur Waunfawr yn \u201cgwmni gwych a gaiff ei arwain gan ei ddatganiad cenhadaeth\u201d.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwasanaethau maen nhw\u2019n eu darparu ar gyfer y gymuned a\u2019r ffordd maen nhw\u2019n gwneud hynny yn wych. Maen nhw\u2019n awyddus iawn i hyfforddi a chynyddu sgiliau eu gweithwyr ac mae 18 ohonyn nhw wedi gwneud prentisiaethau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian dros yr wyth mlynedd ddiwethaf.<\/p>\n<p>\u201cUn rheswm dros ein dewis ni i ddarparu hyfforddiant y cwmni ym maes rheoli gwastraff yw bod gennym ni swyddogion hyfforddi ac aseswyr sy\u2019n siarad Cymraeg ac yn gallu cyflenwi\u2019r prentisiaethau\u2019n ddwyieithog gan gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog a gall hynny fod o gymorth mawr i gyflogwyr, yn enwedig wrth ddelio \u00e2 chwsmeriaid sy\u2019n siarad Cymraeg.<\/p>\n<p>\u201cGall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith. Mae hefyd yn gaffaeliad i\u2019r cyflogwr. <\/p>\n<p>\u201cMae Antur Waunfawr yn esiampl ardderchog ym maes prentisiaethau, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Dafydd Trystan, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cMae tynnu sylw at gyflogwyr llwyddiannus sy\u2019n ymwneud \u00e2 phrentisiaethau yn ffordd ardderchog o ddangos i fusnesau ac unigolion bod cefnogi prentisiaethau dwyieithog yn bosibl ac yn fuddiol. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i gyflogwyr a\u2019u gweithwyr ddatblygu eu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella rhagolygon eu busnes a\u2019u cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">Gyrfa Cymru<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae menter gymdeithasol flaenllaw o\u2019r gogledd sy\u2019n cynnig swyddi a hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymunedau yn cael clod am hybu gweithle dwyieithog. Mae Antur Waunfawr, sydd \u00e2 safleoedd yn y Waunfawr a Chaernarfon, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/antur-waunfawr\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8562","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8562","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8562"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8562\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8571,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8562\/revisions\/8571"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8562"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8562"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8562"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}