{"id":8587,"date":"2022-07-01T08:30:10","date_gmt":"2022-07-01T07:30:10","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8587"},"modified":"2022-06-30T21:21:59","modified_gmt":"2022-06-30T20:21:59","slug":"school-leavers-apprenticeships","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/school-leavers-apprenticeships\/","title":{"rendered":"Annog pobl ifanc i wneud \u201cdewis doeth\u201d a dilyn prentisiaeth ar \u00f4l gadael yr ysgol"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/school-leavers-apprenticeships\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/school-leavers-apprenticeships\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Wrth i bobl ifanc ledled Cymru adael yr ysgol ac ystyried y cam pwysig cyntaf yn eu gyrfa, mae ffederasiwn o 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yn eu cynghori bod dilyn prentisiaeth yn \u201cddewis doeth\u201d.<\/p>\n<div id=\"attachment_14650\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/PB056-2022-32-e1655901376935.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14650\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/PB056-2022-32-e1655901376935.jpg\" alt=\"Apprentice standing outside her place of work, Jewsons\" width=\"460\" height=\"324\" class=\"size-full wp-image-14650\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14650\" class=\"wp-caption-text\">Codi Wiltshire, Assistant Manager, Jewson Limited<\/p><\/div>\n<p>Dywed Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) fod dros chwarter busnesau Cymru\u2019n ffafrio prentisiaethau dros unrhyw gymhwyster arall.  Mae cyflogwyr yn recriwtio prentisiaid er mwyn creu gweithlu brwd a ffrwd o dalent at y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae prentisiaethau\u2019n cynnig y cyfuniad delfrydol o ddysgu ac ennill cyflog, fel y gall prentisiaid barhau \u00e2\u2019u haddysg ac ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth weithio ochr yn ochr \u00e2 staff profiadol.<\/p>\n<p>Maent yn agored i bawb dros 16 oed, o bob gallu, ac fe gynigir cymorth pwrpasol fel y gall pob prentis weithio\u2019n hyderus ac elwa ar yrfa lwyddiannus.<\/p>\n<p>Yn ystod oes weithiol rhywun, bydd pobl sydd \u00e2 sgiliau swydd-benodol yn ennill \u00a3100,000 yn fwy na&#8217;r phobl heb grefft.  Mae&#8217;n rhaid i brentisiaid ar ddechrau eu gyrfa dderbyn o leiaf isafswm cyflog prentis, ond mae llawer o gwmn\u00efau&#8217;n talu mwy na hyn.<\/p>\n<p>Mae swyddi ar gael mewn 23 o sectorau, yn amrywio o adeiladwr, triniwr gwallt, cogydd a chynorthwyydd deintyddol i beiriannydd, dadansoddwr seiberddiogelwch, ariannydd banc a gosodwr prif bibellau nwy.   Mae prentisiaethau ar gael ar bedair lefel, gyda rhywbeth sy&#8217;n addas i bob dysgwr.<\/p>\n<p>Mae Prentisiaeth Sylfaen yn cyfateb i bum p\u00e0s TGAU da, mae Prentisiaeth yn cyfateb i basio dau Lefel A, mae Prentisiaeth Uwch yn cyfateb i HNC\/HND neu lefel Gradd Sylfaen ac uwch, ac mae Prentisiaeth Gradd yn cyfateb i radd baglor lawn. <\/p>\n<p>Mae Prentisiaethau Gradd ar gael yn y sectorau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Caiff prentisiaid ddysgu\u2019n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd John Nash, cadeirydd yr NTfW: <\/strong><\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae prentisiaeth yn ffordd wych o barhau \u00e2\u2019ch addysg. Byddwch yn gweithio gyda\u2019ch cyflogwr a\u2019ch darparwr hyfforddiant gan feithrin sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau a all arwain at yrfa am oes. <\/p>\n<p>\u201cAr ben hynny, byddwch yn ennill cyflog o\u2019r dechrau\u2019n deg. Byddwn yn annog pawb sy\u2019n gadael yr ysgol i ystyried prentisiaeth fel eu cam nesaf mewn bywyd.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Un ferch a wnaeth \u201cddewis doeth\u201d yw Codi Wiltshire sydd newydd gwblhau ei Phrentisiaeth Uwch (Lefel 6) mewn Gweinyddu Busnes gyda\u2019r darparwr hyfforddiant Educ8. Dyma\u2019i seithfed cymhwyster ers iddi ymuno \u00e2\u2019r gwerthwyr nwyddau adeiladu, Jewson yn Llanfair-ym-Muallt yn 2015. <\/p>\n<p>Mae taith brentisiaethau Codi wedi cynnwys Prentisiaethau Sylfaen mewn Busnes ac Arwain T\u00eem, Prentisiaethau mewn Gweinyddu Busnes a Gwasanaeth Cwsmer ac ILM Lefel 3. <\/p>\n<p>Cafodd ddyrchafiad i fod yn rheolwr cynorthwyol y llynedd ac mae\u2019n gobeithio symud ymlaen i ILM Lefel 4 pan fydd yn gwireddu ei huchelgais o fod yn rheolwr.<\/p>\n<p>\u201cDwi ddim yn credu bod pobl yn sylweddoli beth sy\u2019n dod o ddilyn prentisiaeth,\u201d meddai Codi. \u201cOs ewch chi i goleg neu brifysgol, does dim sicrwydd y cewch chi swydd ar y diwedd a fydd gennych chi ddim profiad o weithio. <\/p>\n<p>\u201cYn fy marn i, prentisiaeth yw\u2019r peth gorau a wnes i erioed. Pan fyddwch yn brentis, rydych chi\u2019n cael eich talu ac yn dysgu wrth weithio. Dwi bob amser yn annog pobl i wneud prentisiaeth.<\/p>\n<p>\u201cRoeddwn i\u2019n meddwl mai dim ond am flwyddyn, i wneud fy nghymhwyster cyntaf, y byddwn i yn Jewson a dyma fi, saith mlynedd yn ddiweddarach, yn barod i symud ymlaen i fod yn rheolwr. <\/p>\n<p>\u201cDwi wedi dal ati i astudio achos dwi wrth fy modd yn ennill cymwysterau. Mae diweddaru fy CV yn deimlad gwych.\u201d<\/p>\n<p><strong>Gwybodaeth bellach a Manylion Cyswllt:<\/strong><\/p>\n<p>Gall pobl ifanc sy\u2019n gadael yr ysgol ac a hoffai gael cyfle i ennill cyflog wrth ddysgu fynd i <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 0800 028 4844 i gael gwybod sut i fynd o\u2019i chwmpas. <\/p>\n<p>I rai nad ydynt yn barod am brentisiaeth, mae syniadau gwych am ddysgu sgiliau newydd, ysgrifennu CV a chyngor am waith yn <a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/\">cymrungweithio.llyw.cymru<\/a> <\/p>\n<p>Gall cyflogwyr yng Nghymru ddysgu mwy am fanteision cyflogi prentis trwy fynd i <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant\/prentisiaethau\">businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant\/prentisiaethau<\/a> neu ffonio 03000 6 03000.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Wrth i bobl ifanc ledled Cymru adael yr ysgol ac ystyried y cam pwysig cyntaf yn eu gyrfa, mae ffederasiwn o 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yn eu cynghori bod dilyn prentisiaeth yn \u201cddewis doeth\u201d. &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/school-leavers-apprenticeships\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8587","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8587","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8587"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8587\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8596,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8587\/revisions\/8596"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8587"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8587"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8587"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}