{"id":8589,"date":"2022-07-06T08:30:39","date_gmt":"2022-07-06T07:30:39","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8589"},"modified":"2022-06-30T21:37:51","modified_gmt":"2022-06-30T20:37:51","slug":"lisan-benderfynol-o-sicrhau-bod-prentisiaethaun-dal-yn-flaenoriaeth-i-lywodraeth-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lisan-benderfynol-o-sicrhau-bod-prentisiaethaun-dal-yn-flaenoriaeth-i-lywodraeth-cymru\/","title":{"rendered":"Lisa\u2019n benderfynol o sicrhau bod prentisiaethau\u2019n dal yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/lisa-mytton\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lisa-mytton\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_14660\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/23.06.22-mh-Lisa-Mytton-5-scaled-e1656324079472.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14660\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/23.06.22-mh-Lisa-Mytton-5-scaled-e1656324079472.jpg\" alt=\"Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol newydd yr NTfW.\" width=\"460\" height=\"298\" class=\"size-full wp-image-14660\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14660\" class=\"wp-caption-text\">Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol newydd yr NTfW.<\/p><\/div>\n<p>Mae ffederasiwn o 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi penodi cyfarwyddwr strategol newydd i gydweithio\u2019n agos \u00e2 Senedd Cymru er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru\u2019n dal i roi blaenoriaeth i brentisiaethau.<\/p>\n<p>A hithau wedi bod yn brentis, bu Lisa Mytton, o Ferthyr Tudful, yn gweithio yn y sector dysgu seiliedig ar waith ers 25 mlynedd ac mae hefyd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful lle bu\u2019n arweinydd am gyfnod.<\/p>\n<p>Wrth s\u00f4n am ei phenodiad i Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), dywedodd:  \u201cMae cymryd y swydd newydd hon yn gam cyffrous gan fy mod yn credu\u2019n gryf mewn prentisiaethau ac yn dal yn eiriolwr dros bobl ifanc ar Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful.<\/p>\n<p>\u201cEs i&#8217;n brentis asiant teithio yn 16 oed ac roedd hynny&#8217;n help i mi ddod yn rheolwr yn 19 oed a mynd ymlaen i Brentisiaeth Uwch, Gradd mewn Addysg a Thystysgrif Broffesiynol i Raddedigion.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cY weledigaeth sydd gen i yw sicrhau bod gan yr NTfW lais a sedd o gwmpas y bwrdd pan fydd penderfyniadau polisi\u2019n cael eu gwneud am brentisiaethau. Fy nhasg i yw dylanwadu ar lunwyr polis\u00efau trwy gyflwyno safbwyntiau gwybodus ar bob mater sy&#8217;n ymwneud \u00e2 phrentisiaethau ar lefel strategol.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cMae deiliaid contractau ac is-gontractwyr prentisiaethau NTfW yn pontio\u2019r bwlch rhwng addysg a diwydiant drwy roi\u2019r cyfle i bobl ddilyn rhaglenni galwedigaethol o safon uchel. Gall y rhain baratoi pobl ifanc i gyfrannu at lwyddiant busnes neu uwchsgilio\u2019r gweithlu presennol.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Lisa, a fu\u2019n bennaeth ansawdd gyda\u2019r darparwr hyfforddiant ALS Training a\u2019i ragflaenydd Acorn Learning Solutions, yn canmol Llywodraeth Cymru am flaenoriaethu cyllid ar gyfer prentisiaethau am sawl blwyddyn.<\/p>\n<p>\u201cRwy&#8217;n awyddus i sicrhau bod hyn yn dal i ddigwydd a bod prentisiaethau&#8217;n cael yr un parch \u00e2 llwybrau eraill,\u201d meddai. \u201cMae prentisiaethau\u2019n darparu\u2019r sgiliau a\u2019r arloesedd i dyfu\u2019r economi a dyna sydd arnon ni ei angen wrth i\u2019r wlad ddod dros y pandemig.  Rydyn ni&#8217;n gweld llawer o fusnesau&#8217;n galw am bobl fedrus.<\/p>\n<p>\u201cMae cyfleoedd gwych ar gael ar gyfer prentisiaethau, hyd at lefel gradd.  Mae angen inni wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth pobl o brentisiaethau a\u2019r lles maen nhw&#8217;n ei wneud i fywydau a busnesau.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau&#8217;n hanfodol i economi Cymru ac mae\u2019n bwysig bod unigolion a busnesau&#8217;n cael y cyfle i fanteisio ar y rhaglenni hyn.\u201d<\/p>\n<p>Un o dasgau Lisa fydd craffu ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), wrth iddo fynd drwy Senedd Cymru, gyda\u2019r cam nesaf i ddigwydd ym mis Medi. <\/p>\n<p>Bydd y Bil yn arwain at greu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i reoli\u2019r holl addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 gan ddarparu ar gyfer diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.<\/p>\n<p>Hi yw\u2019r Maer ieuengaf a gafwyd erioed ym Merthyr Tudful, pan oedd yn ddim ond 41 oed, a hi yw\u2019r fenyw sydd wedi gwasanaethu hiraf ar y cyngor \u2013 cafodd ei hethol 14 blynedd yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Wrth groesawu Lisa i\u2019w swydd newydd yn yr NTfW, dywedodd y cadeirydd, John Nash: \u201cBydd gwybodaeth a phrofiad Lisa yn y sector dysgu seiliedig ar waith yn amhrisiadwy wrth fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau sy\u2019n wynebu\u2019r sector addysg a hyfforddiant \u00f4l-16. Rwy\u2019n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio \u00e2 hi.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae ffederasiwn o 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi penodi cyfarwyddwr strategol newydd i gydweithio\u2019n agos \u00e2 Senedd Cymru er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru\u2019n dal i roi blaenoriaeth i brentisiaethau. A hithau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lisan-benderfynol-o-sicrhau-bod-prentisiaethaun-dal-yn-flaenoriaeth-i-lywodraeth-cymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8589","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8589","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8589"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8589\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8598,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8589\/revisions\/8598"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8589"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8589"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8589"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}