{"id":8603,"date":"2022-07-20T07:00:50","date_gmt":"2022-07-20T06:00:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8603"},"modified":"2022-07-17T15:16:21","modified_gmt":"2022-07-17T14:16:21","slug":"educ8-grant-santos","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-grant-santos\/","title":{"rendered":"\u2018Angen meithrin piblinellau talentau trwy roi cyfle cyfartal i brentisiaethau\u2019"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/educ8-grant-santos\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-grant-santos\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae un o gyfarwyddwyr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i \u201cfeithrin piblinellau talentau\u201d trwy fabwysiadu polisi o gyfle cyfartal a chynnig cymhellion hirdymor i gyflogwyr er mwyn iddynt gofleidio prentisiaethau.<\/p>\n<div id=\"attachment_14692\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/Customer-Service-Target-Group-scaled-e1657874758659.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14692\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/Customer-Service-Target-Group-scaled-e1657874758659.jpg\" alt=\"Rheolwyr a Phrentis yn eistedd wrth ei desg\" width=\"460\" height=\"286\" class=\"size-full wp-image-14692\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14692\" class=\"wp-caption-text\">Chwith-Dde: Roger Newman, Prif Weithredwr Target Group, Grant Santos a Paige Nurden, prentis yn Target Group gyda Jayne Bryant AS<\/p><\/div>\n<p>Yn \u00f4l Grant Santos, sydd hefyd yn brif weithredwr y darparwr dysgu seiliedig ar waith Educ8 Group, mae&#8217;r broses o wireddu potensial prentisiaethau yn dechrau mewn ysgolion, lle mae athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd yn deall ac yn esbonio\u2019r holl ddewisiadau sydd ar gael i ddisgyblion ar gyfer llwybrau gyrfaoedd.<\/p>\n<p>\u201cPa mor dda allwn ni fod os cofleidiwn ni holl bosibiliadau darpariaethau prentisiaethau? Mae\u2019r potensial bron yn ddiddiwedd,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cDylai pob disgybl a myfyriwr fod yn awyddus i archwilio pob opsiwn \u00e2 meddwl agored, gan ddewis y llwybr sy\u2019n iawn iddyn nhw.  Pe baen nhw&#8217;n gwneud hynny, rwy&#8217;n gwybod y byddai rhagor o alw am brentisiaethau.  Yna, byddai cyflogwyr a Llywodraeth Cymru&#8217;n cynnig mwy a mwy o gefnogaeth ac yn creu stori lwyddiant hunanbarhaol sy\u2019n gynaliadwy ac yn lles i bawb.<\/p>\n<p>\u201cByddai&#8217;n golygu bod pawb, o gyflogwyr a gweithwyr i gymunedau a\u2019r economi, yn cael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.\u201d<\/p>\n<p>Gwnaeth Mr Santos y sylwadau hyn yng nghyfres ddiweddaraf Talent Leaders Talking gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd wrth drafod y rhan y gallai prentisiaethau ei chwarae yn sgiliau De-ddwyrain Cymru o hyn ymlaen.<\/p>\n<p>Mae\u2019n nodi bod llai nag 20% o gyflogwyr ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn defnyddio prentisiaethau ar hyn o bryd ac yn meddwl tybed a ydynt o dan gamargraff fod prentisiaeth yn llai gwerthfawr na gradd.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n rhaid i ni roi&#8217;r gorau i feddwl hynny, nid yn lleiaf gan y gallwch chi wneud y ddau.  Gallwch gychwyn fel prentis a symud ymlaen i wneud gradd pan fydd yr amser yn iawn,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cMae llawer o ddysgwyr hyd yn oed yn gwneud gradd i ddechrau ac yna\u2019n uwchsgilio gyda phrentisiaeth.  Mae pob math o addysg yn werthfawr a dylid rhoi yr un gwerth iddynt.\u201d<\/p>\n<p>Dywed Mr Santos, a wnaeth brentisiaeth cyn astudio am radd, fod Prentisiaethau Uwch ar Lefelau 4 a 5 wedi cynyddu&#8217;n sylweddol. Wrth i&#8217;r sectorau Seiber, Technoleg Ariannol a Thechnoleg Feddygol ddatblygu, felly hefyd y gwnaeth prentisiaethau hyblyg.<\/p>\n<p>Roedd yn croesawu pwyslais Llywodraeth Cymru ar brentisiaethau pob-oed a\u2019r ymrwymiad i\u2019r Warant i Bobl Ifanc ar gyfer pobl 18-24 oed.  Fodd bynnag, mae&#8217;n ofni bod pobl yn dal o dan gamargraff mai dim ond ar gyfer pobl ifanc sy&#8217;n gadael yr ysgol y mae prentisiaethau. Mewn gwirionedd, mae gweithwyr yn eu defnyddio i wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a&#8217;u rhagolygon ar gyfer gyrfa.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae\u2019n anodd llawn sylweddoli gwerth y profiad dysgu a gewch drwy brentisiaeth,\u201d meddai. \u201cRydych chi&#8217;n dysgu wrth weithio ac mae popeth yn gwneud synnwyr oherwydd mae&#8217;r hyn rydych yn ei ddysgu yn adlewyrchu realiti&#8217;r swydd. <\/p>\n<p>\u201cYn ogystal \u00e2 dysgu gan bobl brofiadol, rydych chi&#8217;n cael eich talu wrth ddysgu. Mae hynny&#8217;n bwysig o ystyried y cynnydd mewn dyledion, benthyciadau myfyrwyr prifysgol a chostau byw cynyddol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Er mwyn sicrhau bod prentisiaethau mor gynhwysol \u00e2 phosibl, dywed ei bod yn rhaid helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd o Brentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) i fyny.  Croesawodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob-oed yn ystod tymor presennol y Senedd &#8211; cynnydd o 25%.<\/p>\n<p>\u201cMae Prentisiaethau Sylfaen yn arbennig o bwysig i ddatblygu\u2019r piblinellau talentau y mae arnom eu hangen ar gyfer gofal cymdeithasol a\u2019r sector iechyd,\u201d mae\u2019n pwysleisio.  \u201cMae\u2019r rhain yn swyddi sy\u2019n dod ag urddas i filiynau o bobl y mae arnynt angen gofal ac, yn aml iawn, maent yn newid bywydau\u2019r bobl sy\u2019n cael eu hyfforddi i wneud y gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Er bod mwy o&#8217;r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau wedi&#8217;i chyflenwi&#8217;n ddigidol yn ystod y pandemig, mae Mr Santos yn cefnogi dull hybrid o ddysgu, gan ystyried bod hyfforddiant wyneb yn wyneb, sesiynau un-i-un a gweithdai gr\u0175p yn \u201chanfodol\u201d. <\/p>\n<p>\u201cDros y blynyddoedd nesaf bydd angen perffeithio&#8217;r cyfuniad hybrid: deall yn iawn beth all technoleg ei wneud, a gwrando ar ein dysgwyr a sefydliadau cwsmeriaid am yr hyn sydd orau iddyn nhw.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni&#8217;n deall i ble mae eu busnesau&#8217;n mynd, eu prif heriau ar gyfer y 12 mis nesaf a sut orau y gallwn eu cefnogi.  Mae hynny\u2019n golygu bod yn bartner dysgu gwirioneddol. <\/p>\n<p>\u201cBeth yw\u2019r pethau sy\u2019n eu dal yn \u00f4l? Beth maen nhw&#8217;n dymuno ei gael o&#8217;r rhaglenni?  Sut y gallwn ni newid ac addasu prentisiaeth fel ei bod yn rhoi mantais gystadleuol iddynt?  Os byddwn yn ei wneud yn iawn, mae&#8217;n drawsnewidiol.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/\">Educ8 Training<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae un o gyfarwyddwyr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i \u201cfeithrin piblinellau talentau\u201d trwy fabwysiadu polisi o gyfle cyfartal a chynnig cymhellion hirdymor i gyflogwyr er mwyn iddynt gofleidio prentisiaethau. Yn \u00f4l Grant Santos, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-grant-santos\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8603","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8603","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8603"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8603\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8648,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8603\/revisions\/8648"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8603"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8603"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8603"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}