{"id":8610,"date":"2022-07-20T07:00:11","date_gmt":"2022-07-20T06:00:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8610"},"modified":"2022-07-17T15:15:29","modified_gmt":"2022-07-17T14:15:29","slug":"itec-employee-owned","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/itec-employee-owned\/","title":{"rendered":"Beth mae bod yn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr yn ei olygu i Itec"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/itec-employee-owned\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/itec-employee-owned\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Ceri Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr Itec, yn esbonio\u2019r daith o drosglwyddo busnes i berchnogaeth gweithwyr, y manteision i weithwyr ac i\u2019r busnes a\u2019r ffordd y mae pobl Itec yn cyfrannu at bresennol a dyfodol Itec ac yn buddsoddi ynddo. <\/p>\n<div id=\"attachment_14688\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/ITEC-Directors-scaled-e1657909325740.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14688\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/ITEC-Directors-scaled-e1657909325740.jpg\" alt=\"Cyfarwyddwyr ITEC\" width=\"460\" height=\"281\" class=\"size-full wp-image-14688\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14688\" class=\"wp-caption-text\">Steve Davies, Cyfarwyddwr Cyllid; Gareth Matthews, Cyfarwyddwr; Esther Barnes, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol; Ceri Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr a James Pearson, Cyfarwyddwr.<\/p><\/div>\n<p>Cymerodd Stephen Doyle, ein Cadeirydd, a minnau y busnes drosodd i ddechrau yn 2008 a bwrw iddi i wella ansawdd a pherfformiad gwasanaethau Itec. Bellach, mae gennym 17 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr ac rydym wedi cynyddu&#8217;n aruthrol o 30 aelod o staff i 170 o weithwyr uniongyrchol, pob un ohonynt yn elwa o&#8217;r model Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr (EOT). <\/p>\n<p><strong>Pam ddewisoch chi\u2019r model Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr? <\/strong><br \/>\nRydyn ni\u2019n falch iawn o\u2019r ffaith mai Itec oedd y darparwr hyfforddiant annibynnol cyntaf yng Nghymru i fod ym mherchnogaeth y gweithwyr. Yn 2019 oedd hynny ac erbyn hyn mae\u2019r busnes cyfan yn eiddo i\u2019n gweithwyr-berchnogion. I Steve a minnau, roedd y newid i&#8217;r model EOT yn un organig iawn. Roedden ni bob amser yn edrych ar Itec fel t\u00eem. Busnes sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl ydyn ni yn y pen draw a heb ein pobl fydden ni ddim yr un peth. Roedden ni&#8217;n gwybod beth oedd y risgiau a&#8217;r heriau o fod ym mherchnogaeth y gweithwyr, ond dyna oedd y peth iawn i Itec.<\/p>\n<p>Un peth a wnaeth ein cymell i sefydlu Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr (EOT) oedd y ffaith bod Steve a minnau yn awyddus i annog diwylliant o undod.  <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Pwy bynnag ydych chi, ar ba lefel bynnag rydych chi yn y busnes mae gennych chi yr un faint o hawl \u00e2 phawb arall. Mae\u2019n ffordd o gadw ein staff a&#8217;u gwobrwyo am eu gwaith caled, ac maen nhw&#8217;n cael rhannu llwyddiant y cwmni cyfan.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Sut mae\u2019r model EOT wedi effeithio ar Itec?<\/strong><br \/>\nRwy&#8217;n credu bod gweithredu model EOT wedi golygu newid sefydliadol a diwylliannol i ni a bod y daith yn parhau. Rydyn ni bob amser yn dysgu ein gweithwyr beth y mae&#8217;n ei olygu i fod \u00e2 chyfran bersonol yn y sefydliad a sut mae eu gwaith yn cyfrannu at y busnes ehangach, er lles iddo. Mae&#8217;r model wedi bod yn gyfrwng i greu haen ychwanegol o gyfathrebu o&#8217;r gwaelod i fyny. <\/p>\n<p>Mae modelau perchnogaeth gweithwyr wedi tyfu cryn dipyn ym myd busnes dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a bu twf sylweddol ers i ni roi\u2019r model hwn ar waith. Mae llawer o ymchwil yn awgrymu bod gan fusnesau sydd ym mherchnogaeth y gweithwyr berfformiad gwell, profiadau gwell, a&#8217;u bod yn gadarnach ac yn ymateb yn fwy gwydn i&#8217;r farchnad. Yn achos Itec, dywed ein gweithwyr ei fod yn rhoi mwy o nod i&#8217;w gwaith am fod cysylltiad rhwng llwyddiant y busnes a chyflawniad a thwf personol. <\/p>\n<p>Mae rhoi sefydliad yn nwylo gweithwyr sy\u2019n rhannu\u2019r un gwerthoedd, yr un diwylliant, a&#8217;r un ethos \u00e2\u2019i sylfaenwyr, wir yn llywio annibyniaeth y sefydliad hwnnw, ac yn cyfrannu at gadernid hirdymor y cwmni. <\/p>\n<p><strong>Beth nesaf i Itec?<\/strong><br \/>\nYn y dyfodol, gobaith Itec yw cynnal a datblygu ein diwylliant sy\u2019n canolbwyntio ar bobl arno a bod yn lle y mae pobl yn awyddus i ddod i weithio iddo trwy greu cyfleoedd gwych i\u2019r bobl sy\u2019n cyfrannu fwyaf at y busnes. Yn y pen draw, ein prif nod yw parhau i gyflawni ein contractau, yn cynnwys rhaglen newydd Twf Swyddi Cymru+, gan eu bod yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl yn y cymunedau lle&#8217;r ydym yn gweithio. <\/p>\n<p>Eleni, rydym yn dathlu ein 40fed blwyddyn yn y gwaith. Gobeithio y caf wahoddiad yn \u00f4l i\u2019r 60 mlwyddiant ac y bydd Itec yn dal i dyfu a ffynnu, creu swyddi, adeiladu gyrfaoedd, a buddsoddi mewn pobl.  <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.itecskills.ac.uk\/cy\/\">ITEC Skills and Employment<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Ceri Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr Itec, yn esbonio\u2019r daith o drosglwyddo busnes i berchnogaeth gweithwyr, y manteision i weithwyr ac i\u2019r busnes a\u2019r ffordd y mae pobl Itec yn cyfrannu at bresennol a dyfodol Itec ac yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/itec-employee-owned\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8610","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8610","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8610"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8610\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8650,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8610\/revisions\/8650"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8610"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8610"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8610"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}